dros

29.4.05

 

sut allai

sgwennu traethawd rwan bo fi di ffeindio hwn?

 

eei!



prosiect pen blwydd gymhleth arall - cyfres o luniau yn anrheg i meera. mwy nes ymlaen - mae'n wyntog, a mae gen i draethawd i'w fennu!



"oes wir. nawr criba fy marf."

"oce, j-m."

28.4.05

 

///

wel, ma'r benthyciad di cyrraedd. sylwes i ar y ffordd allan o'r banc fod cynnig arbennig yn y siop deithio drws nesa - pythefnos yn koh samui (sp?), all-inclusive am, wel, swm fy menthyciad i. peth da nad oes gen i basport ar hyn o bryd (angen ei hadnewyddu mae hi. diolch i anffawd arall rhwng mr gwallt a mr siswrn, dwi'n edrych fel croes rhwng cadfael sant a paul mccartney ar hyn o bryd. dwi'm isio gweld hynna'n sbio allan o'n pasport arnai am ddeng mlynedd :( rhaid, felly, aros iddo dyfu.). yn hytrach na thaith i'r trofannau, setles i ar dvd (derek & clive), dec newydd o top trumps (smash hits 2), bar o green & blacks (cnau a chyrains), albym ELO a le Petit prince ar cd.

fel arall, ma pethe'n dechrau prysuro ogwmpas c-g. mwy o fyfyrwyr, mwy o dwristiaid, mwy o dramps, cyfarfodydd, pobol i'w hosgoi. (gymres i deif llythrennol tu ôl i'r fitamins yn boots ddim sbel yn ôl - habit greddfol - pan welais i'n hen athrawes gramadeg rwsieg o'r flwyddyn gyntaf: dynes oedd yn dychwelyd gwaith cartref efo 'you need help!'; 'what is wrong with you?' neu groesau enfawr gwyrdd drosto fe i gyd. un o'r rhesymau mod i rwan yn hanesydd celf ac nid yn ieithydd...) ta beth, ie, caergrawnt.
rodd hi'n braf, rywsut (ac mewn ffordd braidd yn rong, mae'n siwr), gallu gweld angladd Gwynfor Evans ar y teledu ddoe a finne ddim adref - rodd hi'n edrych yn braf yn aber, a'r ymdeimlad anghydffurfiol cristnogol yn eitha reffreshing, gymaint dwi di arfer gweld mynaich, daeoniaid ac altarboys yn rhedeg ogwmpas y colegau eu ffrogiau. anaml iawn dwi'n cael gwylio s4c yn y stafell gyffredin yma - dwi'n osgoi gneud, fel arfer (ddim jest achos ei fod o'n crap weithiau). er bod fy ffrindiau i gyd yn (weddol) barchus o 'mhecadilos i ynglyn â'r gymraeg, ac yn defnyddio ambell frawddeg eu hunain, erbyn hyn ("pwdin blew", yn bennaf): dwi wastad yn teimlo fel rhyw was ferm stiwpid mewn stori kate roberts, yn gorfod ymddiheuro am wedd backward y peth, am y synau od.

ta beth - ymarfer tynnu bys mas di hwn. rhaid ceisio peidio troi'r blog hwn yn livejournal 'fyd: er mwyn y plant ac er mwyn fy hunan barch. allwn i ei feio fe ar fywyd ynysig myfyrwyr prifysgol c-g, neu ar y ffaith mod i'n hollol self obsessed. gawn ni weld.

26.4.05

 

dechre lagio

yn barod. cwpwl o bostiau braidd yn ddi-fflach a dwi'n pwdu. ta beth. rhaid yn gynta i fi ddiolch yn fawr i nic a'i forfablog am fy nghyfeirio fi i The 365 Days Project - cân 'wedi'i darganfod' ('found') ar gyfer bob dydd o'r flwyddyn aeth heibio. ma pob un yn record fydden i wrth fy modd yn ei darganfod mewn bwced ffair sborion capel (di hynna ddim yn swnio'n gret. ella fod rhaid esbonio mod i wrth fy modd yn ffeindio pethe felna. neu i roi fel arall, dwi'n perchen ar fwy o charming pieces of crap dwi'n methu iwsio na lot o bobol. llenwi twll mewn sgwrs mae o fel arfer...)

dim llawer i'w riportio - mae gwaith yn dechrau bwyta bob dim arall (ail sgrifennu traethawd ar waith Linda Nochlin. dynes glyfar.) - heblaw amser gwylio teli: newsnight a the fugitive, hanner a hanner, neithiwr. biti garw fod plastic surgery live wedi gorffen â ni wedi dod at y gyfres mor hwyr. ta beth, bydd raid i fi dynnu socs lan a meddwl am be dwi'n mynd i ysgrifennu cyn eistedd o flaen y cyfrifiadur tro nesa, yn bydd?

*sgwennwyd tra'n gwrando ar 'sweet talkin' woman' gan Eldorado a 'zipcode' gan st etienne :)*

21.4.05

 

picpic



diwrnod gret i gal picnic heddiw. piti i ni gael un tu fewn neithiwr, am ei bod hi'n glawio. anghofiais i dynnu llun o'r peth, sy'n biti hefyd. er mai arfer bachgennaidd iawn ydi'r math yma o loddesta (o leia ymysg y bobol dwi'n nabod yn fan hyn, ac yn aber), ac er nad ydwi'n cael fy ngwahodd i'r nosweithiau stêc (tebyg i nosweithiau poker, swn i'n meddwl, ond i fechgyn sy'n ffaelu gamblo), ges i wahoddiad i'r 'picnic pen-blwydd' neithiwr.
salamis, cacennau ceirch a bisgedi, stilton mawr lliw machlud, caws dafad, camembert, cheddar blasus, olewydd a dail gwinwydden (vine leaves?) wedi'u stwffio, chilis meddal melys mewn olew, catwad cartref, porc peis cartref, paté de foie gras, siocled a gwin coch. (diolch i'r Cambridge Cheese Company am yr hamper)

trueni oedd 'mod i wedi bwyta cenhinen bedr yn y dafarn o flaen llaw, i brofi rhyw bwynt am fy nghenedl wrth w.d., sy'n astudio anthropoleg, ac yn gofyn rhyw gwestiynau sdiwpid (ac annwyl) drwy'r amser. (cyn i chi ofyn, o'n i heb gael dropyn i'w yfed. mewn rhyw hwyl od o'n i).

dyma fi'n dechrau poeni fod cennin pedr yn wenwynig, a dechrau teimlo'n sal. ta beth, er ei fod e'n wasanaeth drud (weithie ma angen gwbod y pethe ma), danfonwyd neges at AQA (Any Question Answered) - gwasanaeth sydd yn ceisio ateb unrhyw gwestiwn allwch chi ddanfon atyn nhw, trwy nodyn-bodyn (ych). dwi'n gwbod yn iawn fod w.d. yn iwsio'r gwasanaeth i setlo dadleuon am yr hen undeb sofietaidd efo'i dad, ac i ffeindio enwau actorion sydd ar y teledu - dwi'n gwbod hefyd nad ydyn nhw'n fodlon ateb cwestiynau fel 'where could i find a hitman or contract killer in cambridge?'... ond roedd rhaid i fi gael gwbod pa bris fyddwn i'n gorfod ei dalu am fy ymgais i brofi fy spontaneity and machismo factor. mae'n darllen fel barddoniaeth crap!


20/04/05 09:29PM
AQA: Daffodil bulbs are
toxic. Humans have been
poisoned after mistaking
the bulbs for onions,
but have not died.
They have proved deadly
to some animals

20/03/05 12:12AM
AQA: Harold Perrineau
Jr. played Mercutio in
Baz Luhrmann's 'Romeo
and Juliet' (1996).
He has played in
various movies since
then, eg 'The Matrix
Reloaded'.

16/02/05 04:16PM
AQA: Gas lamps were
introduced to Paris
in 1820. The first
public gas lighting
was in Pall Mall in
1807. Baltimore was
the first US city to
adopt it in 1816


20.4.05

 

amser tamaid

bleeeeeech. ar ôl darganfod paragraff am ddefnydd ubiquitous diapered spandrels mewn cadeirlannau gothig canol, dwi di penderfynnu cymryd hoe i flogio a bwyta banana. cwestiwn yw: wel, beth i ddeud? dwi'n eitha sicir mai'r trywydd mwyaf anniddorol (ond, wel, yn ddigon eironig, be fydd yn ymddangos yma'n amlach na pheidio, dwi'n amau, hoho &c &c) ydi 'weeel, be sy ar fy meddwl i heddiw?'.

gwirionach fyth fyddai 'weeei! pab newydd!' (er, allai'ch cyfeirio chi i ddau rifyn gwych o wolverine - "The Shadow Pulpit" I a II (rhifynnau #177 ac 178): mae'n arwr crafangog yn trechu (ydi hwn yn air? wedi bod yn syllu arno fe am sbel rwan, a mae o di colli'i ystyr. tebyg i pan ti'n deud 'kylie minogue, kylie minogue' drosodd a throsodd. mae'n gallu arwain at seicosis. eeniwe...) 'Esgob y Bradlofruddwyr' (diolch, geiriadur.net), sef anghenfil Catholig o'r enw Dogma, sy'n rhan o gynllwyn gan Cardinal Panzer (read: Ratzinger) i gonfyrtio pawb yn Efrog Newydd yn Gatholigion trwy allyru pelydrau amledd isel (E.L.V.E.S) trwy'r awyr. Ma'r frwydyr yn ei arwain i grombil y Fatican, lle mae 'na lot o ladd - ac 'inquisition' ar ffurf menyw frestiog mewn lledr efo chwip. nai geisio rhoi stills i fyny. mae o'n grêt.).
so ie, y pab...

18.4.05

 

ond smo, smo hynna'n ffêêêêêr!

mae blogger wedi fy atal rhag rhoi breichled 'masnach deg' newydd ar y blog (fel hon) - ond dyma'r wefan rhag ofn fod unrhywun arall eisiau un, ac yn medru defnyddio'r côd. cofiwch wneud cyfraniad, hefyd, sycars.

[gol: ma fe di dechrau gweithio! hwre!]

 

*shish!*

ymddiheuriadau am y distawrwydd dros y penwythnos. dwi wedi bod yn anwybyddu'r cyfrifiadur fel prostest, ac hefyd i osgoi unrhyw niwed parhaol allwn i ei achosi iddo fe trwy ddadffenestreiddiad.

ma'r spicer bach wedi diflannu! ma fe jest wedi mynd! dim miwsic, dim dvds, dim radio. mae'r bocs/thing mwya defnyddiol y stafell, heblaw y ffrij, wedi ffycin pallu. (sôn am y ffrij-allai recomendio sudd banana ac oren sainsbury's? cwl). anghonstryctif fyddai ail-gynhyrchu'r rant 'wel, ma itunes di, tmo, newid ffordd fi'n grando ar miwsic fi'n y lle cyntaf', ond 'cinel, dwi di blino cael fy nal i ransom (dim geiriadur wrth law, sori) - nid gan beiriant; nid gan ran o beiriant, ond gan gog mewn rhan o beiriant. (eto, 'cog' dwi'n feddwl, nid 'gog'). os oes gan unrhywun syniad sut i wneud i'r spicer ail-ymddangos, gadewch nodyn ac fe gewch chi.//rwbeth neis, dwi heb feddwl be eto.

peth annisgwyl y sylwais i arno fe, diolch i'r tawelwch trwm ma, yw fod fy stafell i yn rhyw fath o uchelseinydd enfawr. y stafell wely'n arbennig. dwi'n byw un llawr uwchben gweddill y tai ar y stryd yma (sy'n golygu fod 'na olygfeydd gret o erddi bach a cheginau cefn) - dwi'n meddwl mai rhyw fath o eco sy'n cael ei greu gan yr adeiladau eraill yw beth dwi'n glywed. ta beth, dwi'n gallu clywed sgyrsiau, pobol yn canu, cesys bach penwythnos ar olwynion (dwi rhwng yr orsaf tren a bws, so lot o'r rhein, yn mynd rhincadirhinc-rhincadirhinc! hehe!) yn hollol glir ac uchel. rheswm gwell fyth i'r spicer bach ail-ymddangos. dwi'm eisiau dechre esbonio bo fi'n 'clywed pethe' wrth neb...


ps: welodd rhywun "Faith & Religion: Tori Amos Special" neithiwr? *rhedeg o gwmpas yn tynnu gwallt allan*

14.4.05

 

braidd yn conffiwsd?

...ddim yn siwr i bwy ddylech chi bleideisio? gadewch i'r wefan yma benderfynu i chi! (dim sôn am blaid cymru, natch)

Who Should You Vote For?

Who should I vote for?

Labour -14
Conservative -28
Liberal Democrat 64
UK Independence Party 16
Green 52


You should vote: Liberal Democrat

The LibDems take a strong stand against tax cuts and a strong one in favour of public services: they would make long-term residential care for the elderly free across the UK, and scrap university tuition fees. They are in favour of a ban on smoking in public places, but would relax laws on cannabis. They propose to change vehicle taxation to be based on usage rather than ownership.

cliciwch arWho Should You Vote For i geisio'r prawf eich hun...

[gol: dwi'n poeni braidd am y sgôr bositif i UKIP. dwi ddim yn teimlo'r run un...]


 

ma'r post diwetha 'na'n

sili. gwell felly gor-flogio am chydig bach, i gadw'r balans. meddyliwch amdano fe fel "taflu scatercwshins o ffraethineb i'r corneli moel, a gosod tusw o faterion o'r newyddion ar y bwrdd coffi" *pukes up pelvis*

ar y nodyn yna, oes gan rywun gynnig am gyfieithiad o'r idiom 'na? rhowch wybod.

ta beth, dreulies i sleisen o'r pnawn yn gwrando ar 'songs in the key of life' gan stevie wonder. y cwestiwn yw (a dwi ddim yn trio bod yn ciwt. dwi o ddifri am hyn), sut mae dyn yn delio efo gymaint o hynna ffync yn ei fywyd? sut fydde ti'n copio efo bod mor ffynci a hynna trwy'r amser? dwi'n meddwl am hyrbi hancoc hefyd, pan dwi'n deud hyn. fod pob peth ti'n neud yn ffynci, i ryw raddau. allen i feddwl fod e'n achosi lot o stress. fydde ti byth yn gallu cal rhyw normal, er enghraifft: jest "gettin' tender" neu "gettin' funky". pwy a wyr be ma'r bobol ma wedi'i ddiodde i ddod â mymryn o'u ffync hwy i'n bywydau bychain?

mwy am hyn wedyn - rhowch nodyn yn y cyfamser, ddo.

on: dydi songs in the key of life ddim i gyd yn dda, peidiwch a 'ngamddeall i.

*munud hefyd i werthfawrogi fod itunes wedi dewis 'sleeping beauty' gan hepburn, heb help neb, tra bo fi'n sgrifennu hyn*

 

omgomgomg::y newyddion

mae britney'n mynd i gael babi!

mae michael jacsyn yn hoffi llyfu pennau bechgyn bach!
#:=P~{:( <----michael yn llyfu pen macaulay culkin

dane bowers yn cael ei sbotio - nid wrthi'n ail-ffurfio another level, nag yn gwneud porno trist arall efo jordan - ond yn J ê l.

13.4.05

 

wel, gan bo fi yma

o flaen y cyfrifiadur, ac y byddai di anghofio 'nghyfrinair (ych)/rhedeg mas o stêm yn fuan, fydde'n well postio rhywbeth, o'n i'n meddwl.

heb fod isio cychwyn yn rhy current affairsy, na (dduw mawr) gosod tôn ar gyfer y dudalen 'ma, ond bu farw Andrea Dworkin ddoe (yn ifanc o bum-deg-wyth oed): dynes fuodd yn sgrifennu'n eang ar, rhyw a phornograffi: bod y ddau, yn aml iawn, yn debycach i drais: sgil y niwed 'roedd Dworkin yn gweld y gallai dynion ei achosi i ferched.

////oce. wedi bod allan am dro ac yn ôl: ac wedi dileu'r rant am y dde americanaidd a rôl rhyw, *fyddwch chi'n falch o glwed, hoho!*, ac am roi hwn yn ei le (diolch nofx \m/)


Mr. mccarthy killed the light he didn’t wake his lovely wife
He left the key inside the door, woke up on the wrong side of the bed
She can’t remember what he said but she sure knew what he had done
Little choices in a, a little town maybe a, little man is right to be afraid
Biblic moralization, identity frustration, confused man cannot know his heart
So he may be fucking her, but he’s thinking about him
Catherine mckinnon does exist, she likes to call herself a feminist
A crusader who fights the patriarch. but what she really hates is sex
Simple solutions created by black+white thinking. too bad the world not work that way.


Catherine should be busy porkin, that dolt andrea dworkin
I think they need a good hard fuck
Cause she may be off her back now she needs to get off ours
The little man sits all alone, his sexuality’s been cut in stone
He doesn’t love her, she really don’t care
Two victims of the black and white

(sori am ddyfynnu'r gân i gyd, dwi'n licio hi)

::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::::

pwt yn y guardian

nodyn a lincs gan yr hyfryd ffleshbot (rhybudd: ddim yn y swyddfa, plis, os nad ydych chi'n gweithio i swyddfa'r ceidwadwyr cymraeg neu rwbeth, a ddim os ydych chi'n blentyn bach &c)


 

gwastraffu amser

ddim bo fi ddim yn licio'r syniad o luchio potel o 'siampên' at ochor y blog 'ma, neu at unrhywbeth arall, ond, wel, dyma hi, heb ormod o ddwndwrbal (gobeithio).

Archives

04.2005   05.2005   06.2005   07.2005   08.2005   09.2005   10.2005   11.2005   12.2005   01.2006   02.2006   03.2006   04.2006   05.2006   07.2006   08.2006   09.2006   12.2006   03.2007   11.2007   01.2008   02.2008   03.2008   04.2008   07.2008   10.2008  

This page is powered by Blogger. Isn't yours?

Subscribe to Posts [Atom]