dros

30.10.05

 

cawl...

"tu fewn i'r sgip mae gardd..."

"tu ol i'r ardd mae contrapsiwn mewn warws..."

"i mewn a'r llysiau i'r ffedog-dwndis..."

"bloody marys i bawb! hwreeeee!"

manon awst, simon fujiwara a sam causer aka pankof bank (gwefan yn cael ei hadeiladu...) yn lawnsio eu rhan nhw ym mhrosiect deptford x, sef gwyl, wel, am/yn deptford. maen nhw di agor supper-market: cegin gawl a gardd fach tu allan. bob nos mi fyddan nhw'n gwahodd chwe pherson lleol i goginio a bwyta gyda'i gilydd, iddyn nhw gael dod i adnabod ei gilydd a mwynhau disgled o gawl yn ffresh o'r sgip. mmmm.
teimlo cariad llundain ar hyn o bryd (criddle, ti rong) - es i adre via tavistock square ("happy-birthday-vicky-though-i-set-your-hair-on-fiiiire". nace fi nath, 'da llaw), 4 siop gebab (ar gau. ar edgware road, cnewyllyn snaciau canol nos. rioed di digwydd o'r blaen...), siop ganol-nos-gwerthu-ffrwythau-tropigal a maida vale (i fwyta ffrwythau a gwrando ar jefferson airplane). such a stereotyp-ah, fel bydde'r mocni gwreiddiol, damon albarn yn gweud...

 

pa mor dodji wyt ti?

"Years in prison: 30 Potential fine: £7000 Plus a possibility of the death penalty!"

roc.a.rôl.

dodj dodj

28.10.05

 

rhagor o gelfs bach diddorol

"Let your fingers do the talking"

prosiect tecst yn Hayes, caerdydd. cliciwch am ragor o wybodaeth (ond glou! mae'n dechre heddiw) - dwi off i feddwl am eirie drwg i decstio...

(trwy wow report

24.10.05

 

"stop grieving, it's only a chicken"

fy ffydd yn y sgawsol-ryw unwaith eto'n codi'n uwch i'r ffurfafen i sain 'up where whe belong' gan joe cocker.

20.10.05

 

heeey, hello, what's happening.

dwi dal yn fyw rhag ofn eich bod chi'n poeni. wedi bod yn sownd yn fy sedd-ffenest o flaen fy ngoeden rhosod, yn edrych allan dros y parc a'r eglwys gatholig ac yn darllen am Venis ers, wel, darllenwch ddyddiad y post diwetha. mis? yndi, dwi'n gwbod, mae'n swnio'n fywyd caled iawn. dwi di arfer bron efo byw mewn atig (mae'r gegin ar y llawr cynta'. 'di rhedeg yn ol reit i fyny i dop y ty i nol halen ddim yn hwyl. na cario bwyd poeth i fyny i'w fwyta, mewn steil manuel *slap ar y pen*). mae hwyl eitha trist ar y dre ar hyn o bryd - pobol yn gwahanu, symud i ffwrdd, wedi blino &c - 'lly mae mywyd cymdeithasol i'n reit ddistaw. eitha peth rili, mae gen i LWYTH o waith i'w wneud. hydnoed os ydi o'n hanesu celf.

eniwe, blog go iawn nesmlaen. traethawd ar ffurf bensaernïol y funduq (neu fondaco) yn aros. waaaaay!

Archives

04.2005   05.2005   06.2005   07.2005   08.2005   09.2005   10.2005   11.2005   12.2005   01.2006   02.2006   03.2006   04.2006   05.2006   07.2006   08.2006   09.2006   12.2006   03.2007   11.2007   01.2008   02.2008   03.2008   04.2008   07.2008   10.2008  

This page is powered by Blogger. Isn't yours?

Subscribe to Posts [Atom]