tra bo gweddill y teulu yn eistedd lawr i wylio celebriti tipit (quote of the moment: "aled hall, o mae o'n hen fochyn"), gai ddymuno nadolig llawen i'r we yn gyffredinol, moreso y tri pherson fydd efallai, mewn cwpwl o fisoedd, yn dod ar draws y blogsyn wn mynyn.
so: DOLIG LLAWEN.
ges i loncwisg gragen newydd. un pinc a mae'n cwl ar y naw. os chi'n gweld rhywun superfly yng nghanton yn y flwyddyn newydd, chances are mai fi fydd e, yn fy loncwisg.
dyw'r blog ddim wedi marw, a mae'n power of observation i jyst mor AMAZING ac oedd e cynt, jyst bod fy 'bone-idle' style wedi stopio fi rhag sortio'r we mas yn y ty newydd. crapola yw'r unig air i'w ddisgrifio. mae blogiau pawb arall wedi'u banio yn y gwaith. sai wedi teimlo mor dechnolegol ynysig (FI YN JOCAN GYDA LLAW) ers 1991, pan gawsom ni 'prince of persia' i'w chwarae ar y pc. dyddie da (ac erotig, mewn ffordd 'perfumes-of-the-east-aidd').
ta waeth, byddai'n dechre blogio, gobeithio, yn psziwdo-broffesiynol ar ran amgueddfa hanesyddol awyr agored sy'n odli syda 'nain bagan' ar wefan ymgorfforaeth ddarlledu brydeinig sy'n odli efo, ym, wel, you get the picture, ym mis ionawr. felly lot llai o regi, a llunie neis o dro'r tymhorau. falle gewch chi un o fi yn fel morwyn tuduraidd, neu yn bwyta cacen tail a brethyn wrth y tan.
duw a wyr pan gaiff y blog amhroffesiynol hwn gic yn y penol go iawn - pan fydd e, roi wybod i chi, oce?
gobeithio i chi fwynhau gwyl ein Prywnwr.