roedd hi'n wyliau cenedlaethol neithiwr. rodd smoky (of 'who the fuck is alice' fame) yn chwarae o flaen tyrfa o gefnogwyr y llywodraeth ar brif sgwar y ddinas (mae'n debyg y baswn i wedi gallu 'dal' boney m yn chwarae taswn i yma'r wythnos ddiwetha. waw.). minne, es i gael pryd traddodiadol. wrth gyrraedd, dyma boris yn datgan ei fod di cael y sach gan ei gariad a bod nenfwd ei dy di syrthio ar ei ben ar yr un diwrnod. yn lwcus, rodd digon o fwyd i'w gadw rhag wylo mewn i'w tarragon lemonade, a than gwyllt wedyn. darya roddodd hi ore: eironig bod y dathlu'n marcio dydd chwyldro'r rhosyn, ddiwrnod cyn i'r arlywydd pinci hwnnw ymddiswyddo. roeddem ni'n rhannu'r caffi efo grwp o ferched ifanc armenaidd, oedd yn dawnsio yn y steil traddodiadol (think thai hands, georgian hips) ag adrodd cerddi tanllyd am y brenin dafydd dros eu gato. yn bersonol, uchafbwynt y noson oedd ffeindio bod snac lleol ar gael oedd yn gaws wedi'i lapio mewn mwy o gaws, efo un hadyn pomgranad ar ei ben...
Ymlaen wedyn i glwb, wel stafell efo drws metal yn eiddo i americanwr arall. roedd hi'n rhad, llawn marines (am gyfnod), eira (false alarm) a merched tene ofnadwy. Off i'r mynyddoedd heddiw, os di ngwestai i'n codi mewn pryd. ma arnai ofn bod fy chwyrnu chwedlonol (dwi'n reit sensitif am y peth, ond bron yn siwr bod gin yn ei neud o'n waeth) di gadw fo'n effro trw'r nos. cawn weld. chiarssss
dwi wedi cyrraedd georgia (sioria?) erbyn hyn. dwi'm yn teimlo'n dda iawn chwaith. mae traddodiad gwinwydda'r wlad yn mynd yn ol mhellach o ddipyn na oed crist- mae'r saperavi coch yn dywyll dywyll, fatha'r marc cwestiwn mawr sy'n hongian off fy nhalcen. dychmygwch foron-a-ffon, efo cwmwl du strempan yn lle moron.
mae cymunedau ex-pat yn bethau od. gawsom ni ginio diolchgarwch traddodiadol neithiwr, lot o bei, lot o fabis (lot o bobol oedd di bod i abertawe hefyd, odli). rwsiaid, americanwyr, georgians, prydeinwyr a boi o ferlin (yn ogystal a'r obligatory ganed-ym-moscau-magwyd-ym-moston-mae'n-stori-hir-sori) - yr rhan fwyaf yn gweithio i'r cyfryngau, neu yn eu monitro. roedd fy ngwestai yn ei chymyd hi dipyn yn haws na fi (er, mi aeth yn ol am dri holpyn o dwrci)- mae'r arlywydd shaakasvili yn ymddiswyddo ar y 25ain a rhaid bod yn barod i ddarlledu newyddion am y peth unrhyw bryd. diwrnod i osgoi canol y ddinas, efallai-mae'r heddlu di bod yn reit trigger happy yn ystod protestiadau yn ddiweddar. dwi am geisio mynd allan at y mynyddoedd yn fuan ta beth. mae na drefi bach cudd, llawn eglwysi romanesg, murluniau a chyrchfannau pererinion yno: finne di dod allan ma i gael saib o'r gwaith.
Mae Tbilisi yn ddinas sy nghanol ail wampiad ar yr un llun siwdo-ewropeaidd a chaerdydd, ond ar scale galamitws lychlyd 'sech chi'n ei ddisgwyl o gyn-weriniaeth sofietaidd. Parciau gwyntog, pensaerniaeth 'sifil' uchelgeisiol, ffynhonnau sgwyrtlyd (mae'r un ar bwys y fflat yn canu pop rwsiaidd rownd y cloc) - oll di cylchu gan ffrwd di ddiwedd, holl fiplyd o lada nivas. Mae'r bobol yn camu dros bentyrrau cerrig pafin, a'r dynion gwydn sy'n eu gosod efo mwrthwl mawr, goro camu allan i'r ffordd i osgoi jac codi baw sy'n stradlo dwy heol yn ara bach, ac i'r cyfeiriad anghywir (neu, jyst weithiau, bmw efo ffenestri tywyll sy'n dreifio ar hyd y pafin). Gawn ni weld os neith dilynydd Misha (aka Prez Shaakasvili) orffen y gwaith - neu'n gadael y brif heol yn frith o planters concrit a dodrefn stryd ffansi ar ei hanner. Fydde ddim y peth gwaetha i ddigwydd yn hanes y ddinas, dwi'n siwr. Roedd Misha ("not that one", ond brodor o Dbilisi) yn son neithiwr am ddwyn polion lamp o ganol y ddinas a'u cysylltu i'r grid allan yn swbwrbia ol-stalinaidd y dre, lle nad oes golau o gwbwl yn ystod y nos. Braf.
Wel, allaim eistedd ar fy nhin am lot hirach - ma na lot i'w weld yma! Dwi am adael fideo SBON-tastic, wnaethpwyd gan rai o wrthwynebwyr yr arlywydd. Fel ma propaganda'n mynd, dyw e ddim yn rhyw gynnil iawn, ond, goddamia, mae'n ffynci!
Eeniwe, ella bydd batri'r camera ddim digon clen i aros ar ddihun trwy'r trip - gewch chi weld, ynde. Hwyl am wan.