dros

31.1.06

 

crassh! (wpddet cantafrigiol)

ma'n un o'r pethe 'na dwi wastad wedi bod isio gwneud. chwalu ming (neu qing, yn yr achos yma) vase yn fil o ddarnau man. o'n i i fewn yn amgueddfa'r Fitzwilliam nid wythnos yn ôl yn ystyried gwneud yr un peth a'r boi yma (i'w groesi oddi ar 'y rhestr'). o wel.

ps: pen blwydd hapus i rick james. damn!

pps: erbyn i fi feddwl, crassh ydi'r Centre for Research in the Arts, Social Sciences and Humanities yng Nghaer-grawnt. mae'r calendr digwyddiadau'n reit ddiddorol, nawr bo fi'n edrych. welai chi yn Talking Embryos: Interdisciplinary Conversations Exploring the Social Roles of the Embryo. falle.

ppss: panic drosodd. nid cariad cudd sy' di bod yn hel cardiau rhamantus i fi, ond cymdeithas gymraeg caer-grawnt. wel. gan nas anfonwyd un (dos normal o ddiffyg hyder yn fy sgiliau 'rhamantus' [wir yr. ma'n small talk i'n drewi.] fel arfer), ddylwn i ddim disgwyl un mae'n siwr. 'carmiad' dwi'n licio'i alw fe...



Uchod: "Llanwa fy nghalon â gobaith, tyn hi mas a gad iddi stopio pwmpio o flaen fy llygaid - cyn gwneud smwddi mas ohoni a'i yfed mas o welltyn tra'n eistedd ar fy nghorff."

25.1.06

 

diwrnod santes dwynwen hapus i bawb!


24.1.06

 

*honc*



lock up your daughters, fi'n credu y byddai 'na. wahei!

23.1.06

 

paradwys

pleser o'r mwyaf oedd dod ar draws mp3s ciwt ail symudiad, heb son am yr holl mp3s mod-pop-tastig eraill, ar y wefan 'ma: clic clic.

ma dolly mixture yn siwper-cwl, efyd.



Uchod: "Your eyebrows may be the best thing in town... (ie, ti yn y canol)"

"How come you're a hit with the boys, Jane?" - rhagor am Dolly Mixture, gan gynnwys mp3s. wei!

21.1.06

 

...0.0.0.0.0.0.0.0...



na, nid still o raglen ddogfen newydd secsi s4c, ond llun bach gan chwain. hehe!

19.1.06

 

HYSBYS

pwysig iawn iawn iawn: mae neighbours heddiw yn WYCHBOETH. the goddanm plane has literally crashed into the mountain, dudes. oce. 'rywle yn y mor 'bwys Tazzie'.

ma harold bishop actually yn gweddïo.
ma carl a max yn cal ffeit.
who will survive?

bydd gweddill fy niwrnod gwaith 'nawr yn troi mewn i 'ffaffio tan fod neighbours arno eto'. trist de?



Uchod: Neighbours.


on: mae hefyd gwerth iwsio'r chwilotwr lluniau ar google yn defnyddio jest 'doctor carl' hefyd. mae'r canlyniadau'n eitha doniol. waw.

18.1.06

 

o'n i wedi anghofio am hwn:



bydd rhaid cael sesiwn storifyrddio cyn bo hir...

"in other news", fel ma huw edwards yn deud, dwi di cal topig ar gyfer yr opera roc. mae'n mynd i fod yn AMESIN. "but laaater..."

gwaith yn galw: dau beth (oddi ar iwatchstuff)

1:

Uchod: "Tom Hanks."
"Mona."
"Amelie."
"Mona."
"Tom Hanks."
"Amelie."


mae'r llun hilariws hwn (o fan hynos chisie rhagor) wedi neud i fi isio mynd i weld 'the da vinci code'. ond dim ond slightly. oce falle ddim, ond mae'n lun da.

2: trelar 'beowulf and grendel' (nid yr un efo pobol enwog ynddo fo, ond ma babi-grendel yn ffan-fferal-tastic!)

ai'ight. cadwch e'n llac am weddill y dydd, homebois.

17.1.06

 

"WY MOR ECSEITED: BA BA!"

Holy saith can mwnci mewn pyramid formation, Batman!

Poppies, Jakokoyak, Alun Tan Lan, DJ Huw Stephens: Barfly, Camden. 25 Ionawr.

Mynnwch eich tocyn nawr blantos!!

13.1.06

 

wwww



reit. wy off i'r coleg. wpddet cyn bo hir. yny cyfamser, mwynhewch y cartwheel galaxy (trwy warren ellis, as per)

rhagor fan hyn, ar wefan y new scientist. cofiwch wisgo'ch sbectol ddiogelwch cids.

12.1.06

 

blogddewidion

addunedau 'leni:

1. cicio tin academaidd
2. cwl 'ed, nawr
3. defnyddio cymraeg gwell a mwy dealladwy ar y blog (ac yn gyffredinol)
4. ysgrifennu opera roc
5. mynd i'r gampfa
6. stopio bwyta cymaint o rennies

beth yw'ch rhai chi?

 

fenis. hei ho!











ie, na ni. ymlaciwch. dwi 'n ôl yn saff.

dwi wrthi'n llwytho'n lluniau i flickr ar hyn o bryd. ma tua miliwn ohonyn nhw (mae'n cymryd oesoedd. mor hir, yn wir, nes mod i 'di llwyddo i fennu twb o carte d'or blas pistachio efo llwy de).

er hwylusder aesthetig, dwi am echdynnu'r rhai pert: wele, 'Fenis Bert', ac hefyd 'di gwneud set eitha manwl (er budd fy adolygu fy hun fwy na dim, nai fod yn onest) efo Lot O Ffeithiau Diddorol (wele. Fenis Gyffredinol).
dwi'n eitha plêsed efo rhai ohonyn nhw - gymrai ddim credit chwaith: dwim cweit di cael gafael ar y camera newydd, a dwi'n amau fod gan y golau ffantastig/ffantastigrwydd cyffredinol (neu ang-hyffredinol) Fenis rwbeth i'w neud efo'r lluniau neis.

pethau nas 'cipiwyd' gan y camera: klm yn colli fy mag am dri diwrnod; klm yn dychwelyd fy mag wedi tri diwrnod sans rhai eitemau #:< ; yr oerfel; nifer y cwn bach mewn siacedi (hefyd, dwysder y baw ci ar y strydoedd); David Baddiel, Angus Daeyton, Richard Curtis nac Anneka Rice (oedd yn edrych yn eitha well preserved a bownslyd); tu fewn i'r Scuola Grande di San Marco; hen bobl yn rasio gondole i lawr y Grand Canal yn gwisgo hetiau gwyn efo pom-poms oren (damia'r batri!); Scuola Grande di San Giovanni Evangelista (flickr yn pallu efo'r rhain); sgiliau troi cornel y gondolieri; y dyn chwarae liwt oedd yn fy nilyn (wyth lleoliad gwahanol mewn tri diwrnod? yn chwarae'r un darn? coinsidens i think not...

ta beth. blwyddyn newydd dda.

 

kaya



sypreis neis oedd darganfod fod bethbo, a ymwelodd â kaya-cho - (co'r map.) - 'di cyhoeddi ei llunie ar flickr. fe fues i'n ddigon lwcus i fynd ar yr un trip pan o'n i dal yn ysgol penweddig (amser maith yn ôl... cyn bo fi'n gallu defnyddio camera digidol ta beth.). syniad Frank Evans, a gafodd ei gaethiwo mewn gwersyll i garcharorion rhyfel yno yn ystod WWII, oedd sefydlu cymdeithas heddwch i uno 'pobol ieuanc' kaya-cho ac aberystwyth. hence y trip ('gyfnewidfa'?) blynyddol (a'r ddarpariaeth gret o athrawon siapanëg sy i gael yn aber...)
eeeniwe, ddath hwn a llawer o atgofion 'nôl, diolch bethbo!

5.1.06

 

reeheheheeit

dwi off i venis i wneud gwaith maes (ie gwaith). geisiai bostio llunie. fel arall

LATERZ DDREWSYNZ

xxxx

3.1.06

 

"The Priest fleeing from a swarm of bugs at dusk, somewhere in olde Germany"



hwn, a rhagor o hen gems siwdo-gelfyddydol neshi ffeindio tu ôl i'n silff lyfrau nawr yn cael eu harddangos fan hyn (ie ar flickr. lle arall?)

Archives

04.2005   05.2005   06.2005   07.2005   08.2005   09.2005   10.2005   11.2005   12.2005   01.2006   02.2006   03.2006   04.2006   05.2006   07.2006   08.2006   09.2006   12.2006   03.2007   11.2007   01.2008   02.2008   03.2008   04.2008   07.2008   10.2008  

This page is powered by Blogger. Isn't yours?

Subscribe to Posts [Atom]