dros

21.4.05

 

picpic



diwrnod gret i gal picnic heddiw. piti i ni gael un tu fewn neithiwr, am ei bod hi'n glawio. anghofiais i dynnu llun o'r peth, sy'n biti hefyd. er mai arfer bachgennaidd iawn ydi'r math yma o loddesta (o leia ymysg y bobol dwi'n nabod yn fan hyn, ac yn aber), ac er nad ydwi'n cael fy ngwahodd i'r nosweithiau stĂȘc (tebyg i nosweithiau poker, swn i'n meddwl, ond i fechgyn sy'n ffaelu gamblo), ges i wahoddiad i'r 'picnic pen-blwydd' neithiwr.
salamis, cacennau ceirch a bisgedi, stilton mawr lliw machlud, caws dafad, camembert, cheddar blasus, olewydd a dail gwinwydden (vine leaves?) wedi'u stwffio, chilis meddal melys mewn olew, catwad cartref, porc peis cartref, paté de foie gras, siocled a gwin coch. (diolch i'r Cambridge Cheese Company am yr hamper)

trueni oedd 'mod i wedi bwyta cenhinen bedr yn y dafarn o flaen llaw, i brofi rhyw bwynt am fy nghenedl wrth w.d., sy'n astudio anthropoleg, ac yn gofyn rhyw gwestiynau sdiwpid (ac annwyl) drwy'r amser. (cyn i chi ofyn, o'n i heb gael dropyn i'w yfed. mewn rhyw hwyl od o'n i).

dyma fi'n dechrau poeni fod cennin pedr yn wenwynig, a dechrau teimlo'n sal. ta beth, er ei fod e'n wasanaeth drud (weithie ma angen gwbod y pethe ma), danfonwyd neges at AQA (Any Question Answered) - gwasanaeth sydd yn ceisio ateb unrhyw gwestiwn allwch chi ddanfon atyn nhw, trwy nodyn-bodyn (ych). dwi'n gwbod yn iawn fod w.d. yn iwsio'r gwasanaeth i setlo dadleuon am yr hen undeb sofietaidd efo'i dad, ac i ffeindio enwau actorion sydd ar y teledu - dwi'n gwbod hefyd nad ydyn nhw'n fodlon ateb cwestiynau fel 'where could i find a hitman or contract killer in cambridge?'... ond roedd rhaid i fi gael gwbod pa bris fyddwn i'n gorfod ei dalu am fy ymgais i brofi fy spontaneity and machismo factor. mae'n darllen fel barddoniaeth crap!


20/04/05 09:29PM
AQA: Daffodil bulbs are
toxic. Humans have been
poisoned after mistaking
the bulbs for onions,
but have not died.
They have proved deadly
to some animals

20/03/05 12:12AM
AQA: Harold Perrineau
Jr. played Mercutio in
Baz Luhrmann's 'Romeo
and Juliet' (1996).
He has played in
various movies since
then, eg 'The Matrix
Reloaded'.

16/02/05 04:16PM
AQA: Gas lamps were
introduced to Paris
in 1820. The first
public gas lighting
was in Pall Mall in
1807. Baltimore was
the first US city to
adopt it in 1816


Comments: Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]





<< Home

Archives

04.2005   05.2005   06.2005   07.2005   08.2005   09.2005   10.2005   11.2005   12.2005   01.2006   02.2006   03.2006   04.2006   05.2006   07.2006   08.2006   09.2006   12.2006   03.2007   11.2007   01.2008   02.2008   03.2008   04.2008   07.2008   10.2008  

This page is powered by Blogger. Isn't yours?

Subscribe to Posts [Atom]