dros

28.8.05

 

arth, fel ma nhw'n ddweud, gyda fi...

dwi wedi dechrau'r wpddet - felly fydd y lincs ar yr ochor yn mynd a dod tan fyddai di gorffen. yn y cyfamser, os dwi di anghofio unrhywbeth/un, atgoffwch fi, ia? diolch. felarall - oes modd roi llun bach neis ar dop y dudalen? fel ar y daflog a'r morfsyn? neu oes raid newid pob dim i movable type? gawn ni weld, ife?

ps: mae'r lowsi-flog ar ei draed! weeei! posts plis, y drewsyn. xxxxxx

27.8.05

 

ok, unwaith eto, o'r top.

dwi ddim yn ffan mawr o sex and the city...

(fues i'n ddigon anffodus i ddod o hyd i'r llyfr cyn y gyfres deledu [*codi handbag chwaethus*] - fel pmt... "on kittens!". y math o rwtsh-a-lol-botes-maip 'di sgrifennu gan "whores-in-denial" (rhai sy'n pregethu am ryddid-drwy-rywioldeb fel esgus i droi lan i bartis ffansi dress fel 'sexy sargeant', 'sexy angel' neu 'sexy rabbit' a siarad yn uchel iawn am eu bwni-crynnu (nesi feddwl am hwnna fy hun! weei!) dros swper. eeniwe, rant "hanner-pob" arall ellith aros. yn y cyfamser, ac i brofi fy mhwynt, rwy am dynnu'ch sylw at fy llun flickr mwya poblogaidd. ;))

...ond tase gen i 40,412.00$ yn sbar, dwi'n gwbod be fyse'n neud efo fe heno:



"Charlotte's Vagina"

(trwy gawker)

os di hynna'n rhy ddi chwaeth, neu sili, i chi, allai argymell: ahm, llawlyfr (hoho!) 'sensiwal' (rhaid ynganu hwn fel siân lloyd, bob tro) Kim Cattrall (weles i gopi o hwn yn Bookworld Caer-grawnt. gwaith pastels gwych), neu "arogldarth bersonol" Sarah Jessica Parker. "Lovely".

 

*dwbwl sgreeech*

ok. *tripl sgreech*.

y post "eitha hir" am y *dwbwl sgrech* i gyd di diflannu.

*ceisio peidio dadffenestreiddio'r monitor*

mwy o hwyl a sbri mewn munud, falle, os dwi'n bothered.

gah!

26.8.05

 

*sgreeeeeeech*

allith rhywun brynu un o'r rhein i fi? :''''(

24.8.05

 

ok, y sgor:

dwi'n gweithio yn y ffatri joclet (*myyy*) yn nhywyn. lot. yn pacio granola bars o bob math. mae'n iawn, dwi wedi bod eisio gweithio hefo conveyor belts ers pan yn lodes ifanc. eeeniwe, point yw, os nad ydwi'n cysgu, dwi'n pacio ffwj (hehe! ddim really! toffi a pecan ddoe!) - felly mae'r overhaul (sut mae gwneud hynny, gyda llaw?) a'r wpddet arfaethedig yn mynd i fod 'chydig to. yn y cyfamser, cadwch yn saff. a phob tro y byddwch chi'n 'tycio' mewn i far grawnfwyd braster isel yn yr wythnos nesa, gobeithiaf y bydd deigryn o lawennydd yn powlio i lawr eich boch, ddarllennydd, mewn diolchgarwch am yr holl waith caled dwi'n neud i'w cael nhw i *mewn* i'r mwltipac, ac yna'r mwltibaciau i mewn i'r bocsys, ag ati ag ati. fel 'tu ol i'r dorth...' rili. ond allai sicrhau fy mod i'n edrych yn eitha ciwt yn fy iwnifform, a ddim yn dorthaidd o gwbwl. heddwch allan!

15.8.05

 

hei

mae di cymryd tua deufis o galimafantio, ond dwi di cyrraedd aberystwyth!

ro'dd y trip i'r swisdir yn od, od, od: ond i gyd am ddim ac yn eithriadol o chwaethus (diolch swiss tourism!), so dwi ddim am gwyno gormod (nesi ddigon o hynny odan fy ngwynt pan o'n i yno). roedd y gynhadledd hoyw ei hun yn reit ddoniol/ddiddorol: tua saith deg o bobol o wahanol wledydd ewropeaidd yn trafod, dadlau a swopio bodily fluids mewn hostel ieuenctid yn Schaan, Lietchenstein (dychmygwch sir Feirionnydd ar steroids). ro'n i'n teithio gyda'r trwp newyddiadurwyr (bron pob un ohonyn nhw'n meddu ar hydnoed llai o gredensials newyddiadurol na fi. so trwp o freeloaders, wir.) - eitha clawstroffobig (ych) ac, ar adegau, braidd yn trawmatic.

nai'm rhoi'r hanes rwan (dwi'n ffeindio blogio bach yn llafurus ar hyn o bryd - dwi di dechre llwyth o bostiau, ond yn ffaelu'u gorffen nhw ac wedyn yn anghofio gwneud. rhaid chwynnu'r lincs ar yr sidebar hefyd. mmyyyyyy) - gwell postio mewn darnau bach. ta beth, mwy nesmlaen/fory/drennydd/dradwy...

1.8.05

 

bore da!

yn geneva erbyn hyn. wedi cael cyllell boced neis yn bresant. am fynd i fwyta rhagor o siocled i frecwast cyn mynd i gwrdd â prif weithredwr "Dialogai", cymdeithas hoyw fwyaf Geneva, ac wedyn i nofio yn y llyn. waheeeei! off i Lausanne pnawn 'ma, ac yna i Liechenstein i ymuno a.r gynhadledd dwi i fod yn sgrifennu amdani nesmlaen yn yr wythnos... eeniwe, dwi'n iawn, gobeithio bo chi yn efyd.

(Diwrnod Cenedlaethol Y Swisdir i bawb, gyda llaw...)

Archives

04.2005   05.2005   06.2005   07.2005   08.2005   09.2005   10.2005   11.2005   12.2005   01.2006   02.2006   03.2006   04.2006   05.2006   07.2006   08.2006   09.2006   12.2006   03.2007   11.2007   01.2008   02.2008   03.2008   04.2008   07.2008   10.2008  

This page is powered by Blogger. Isn't yours?

Subscribe to Posts [Atom]