sili. gwell felly gor-flogio am chydig bach, i gadw'r balans. meddyliwch amdano fe fel "taflu scatercwshins o ffraethineb i'r corneli moel, a gosod tusw o faterion o'r newyddion ar y bwrdd coffi" *pukes up pelvis*
ar y nodyn yna, oes gan rywun gynnig am gyfieithiad o'r idiom 'na? rhowch wybod.
ta beth, dreulies i sleisen o'r pnawn yn gwrando ar 'songs in the key of life' gan
stevie wonder. y cwestiwn yw (a dwi ddim yn trio bod yn ciwt. dwi o ddifri am hyn), sut mae dyn yn delio efo gymaint o hynna ffync yn ei fywyd? sut fydde ti'n copio efo bod mor ffynci a hynna
trwy'r amser? dwi'n meddwl am hyrbi hancoc hefyd, pan dwi'n deud hyn. fod
pob peth ti'n neud yn ffynci, i ryw raddau. allen i feddwl fod e'n achosi lot o stress. fydde ti byth yn gallu cal rhyw normal, er enghraifft: jest "gettin' tender" neu "gettin' funky". pwy a wyr be ma'r bobol ma wedi'i ddiodde i ddod รข mymryn o'u ffync hwy i'n bywydau bychain?
mwy am hyn wedyn - rhowch nodyn yn y cyfamser, ddo.
on: dydi songs in the key of life ddim i gyd yn dda, peidiwch a 'ngamddeall i.
*munud hefyd i werthfawrogi fod itunes wedi dewis 'sleeping beauty' gan
hepburn, heb help neb, tra bo fi'n sgrifennu hyn*