dros
30.5.05
???
[gol: methu cael gwared â'r gagendor mawr (ddim yn dallt y côd,
natch), sori...]
 |
OK...Voldo's just retarded, but he also happens to be the funniest damn video game character EVER! Your unconventional humor and love for the retarded makes you the perfect Voldo. Unexplained behavior, interesting clothing, and a wicked sense of humor is what makes you the life of any party! In the game, Voldo happens to be blind, deaf, and mute. Through your eagerness to make people laugh, you may hurt people a long the way due to lack of senses. Be careful not to bash on other wierdos, and you'll be everybody's favorite character.
|
Which Soul Calibur character are you? |
this quiz was made by david park |
26.5.05
rhywbeth newydd
www.selfportraitday.comffordd gret i ffeindio blogs newydd...
23.5.05
a cyn i fi ddiflannu am sbel......
(arholiadau, see)
Gwefan llawn mp3s byw gan
Tori Amos - gan gynnwys lot fawr iawn o covers prin (mae 'Can't Get You Out Of My Head' lan erbyn heddi! ww!) (via
popjustice)
Dj BC presents
The Beastles - mashyp o'r Beasties a'r Beatles! dwin dal i weithio'n ffordd drwy hwn, ddim yn siwr os ydio'n dda i gyd trwodd. ta beth. (hwn via
al4ie.com hefyd.)
[gol: ma fe'n oce. ma'r 'cymysgeee' braidd yn chêp a diflas, ond ma fe'n
entertaining fel fersiwn llai da o'r
Grey Album. ac o ystyried nad ydw wir yn arsed i wrando ar y beasties dyddie 'ma, a bo fi'n blino ar y beatles weithiau, mae'n arbed amser...]
cofiwch hefyd i sticio at
bbc 2 heno.
How Art Made the World a
Catterick: bruluant.
tata am rwan...
:(
Yn dilyn y stori isod am Bambi druan, ffeindies i hwn ar flog
alfie (cymedrolwr/y brêns tu ôl
moblog):
"Junkies' Evil Badger Trade"
22.5.05
bandflog
dau fand dwi di bod yn gwrando'n ddi-stop arnyn nhw yn ddiweddar:
1.
The Decembrists - er nad ydwi dal yn siwr pwy y'n nhw: ddois i ar draws mp3s gan eu prif leisydd, Colin Meloy, pan ryddhaodd e ep o b-sides Morrissey. dim ond mil o gopiau sy'n bodoli (rhywun isio
prynu un i fi?) - ond ges i afael ar gwpwl o mp3s yma ac acw, a dwi'n dwlu arnyn nhw. (Os fyddai byth yn ffigro mas sut i 'hostio' mp3s, nai roi mwy i fyny - dwi'n gorfod dibynnu ar be dwi'n ei ffeindio ar wefannau eraill ar hyn o bryd. rhywun? wedi gwglo &c)

Ta beth - dyma gwpwl o mp3s o
3hive: gobeithio bo nhw'n plesio...
===============================================

2. White Magic - nes i ddechrau edefyn (byr-ei-fywyd) am hwn ar y
maes. Grwp o Brooklyn gwrddes i â nhw pan o'n nhw'n aros yng Nghaergrawnt - roedd ffrind i ni'n ymuno â nhw i chwarae'r gitar yn eu gig yn
All Tomorrow's Parties (co fe, fan
hyn.) Sdim llawer o wybodaeth am y band, fel ag y maen nhw - ond mae Mira Billotte (sy'n canu a sgrifennu'r rhan fwyaf o'r caneuon) yn sort-of-cyn aelod o
Quix*o*tic, hefyd yn actio mewn ffilmiau (rhai
braidd yn artsy), ac yn gyffredinol dalentog a thlws...
ta beth: co chi mp3 o
'Keeping the Wolves From The Door'a
Biog bach.
21.5.05
yr hen a wyr; yr ifanc, wel, ma nhw'n gorfod eistedd ar lawr, am nad oes ganddyn nhw gadeiriau.a fydd dim chwaith, tan iddyn nhw ddysgu "sit" i barchu
Dyma'r edefyn mwya
unintentonally hilarious (ac annwyl mewn ffordd) dwi wedi weld ar y maes am sbel:
Cadeiriau Panty. *pen mewn dwylo*
20.5.05
\m/ \m/ \m/ \m/

un peth arall: ddes i ar draws peth diddorol tra'n edrych ar Gawker ddoe (linc i'r stori
yma.)
Newyddiadurwr o Brooklyn sydd wedi bod yn ysgrifennu ebyst i Saiihtam (o'r band Norwyaidd,
MYSTICUM) ym,
ar ran "Lance", gweithiwr yn
Subway a Brenin Metal Du yn Gary, Indiana.
"The Black Metal Dialogues"
o_O
mwy o
straeon twym-galon gan manchester-online :''''''''(
19.5.05
newch ffafr
â chi eich hun. ffeindiwch eich hen gopi o 'ten' gan pearl jam, trowch e lan a wigo mas am sbel. os oes crys chec hambonaidd a shorts mawr efo chi, gret - iwsiwch nhw'n gall, ddo.
fideo fan
hyn (ma crowd-surf montage i 'alive' \m/).
18.5.05
gwastraffu amser cinio:
Cwisyn
"How art made the world" - rhagor am hyn wedyn.
Jeff Porcaro: y drymiwr
ddaru farw mewn '
bizarre gardening accident'
Crime Library (i ddeffro'r nansi dryw. dwi'n adolygu Sickert ar hyn o bryd. ei
ddarluniau, wrth gwrs, a nid y
conspirasi theoris...)
musicalbear - listings llundain, brighton, mp3s, adolygiadau etc
the superficial (am y ffics dyddiol o lindsay lohan/paris hilton)
colofn newydd
Tristan Taormino yn y Village Voice
17.5.05
cyfarfod rhyfedd...
gesi fy nghyfarfod cyntaf fel aelod o'r
Emmanuel Picture Guild heddiw - sy'n gyfrifol am brynnu darluniau i gasgliad parhaol y coleg. yn bresennol: llond llaw o ddynion barfog yn drewi o bibau; rhyw ddynes oedd yn edrych fel tase hi di gorchuddio'i hun mewn glud a rhedeg trwy
siop yma a,
sioc! horer!, yn ffresh off y teli: yr 'hanesydd celf'/
housewives favourite, Dr Nigel Spivey...

do'n i erioed wedi siarad efo'r boi, ac yn gyson di ceisio ei anwybyddu pan oedd o'n tor-heulo yn ei drons yng ngardd gefn fy nghymdogion. erbyn hyn, fodd bynnag, mae'n nos lun ni'n anghyflawn a gwag heb
installment arall o'i raglen
How Art Made The World (adolygiad da iawn
yma - lawr y dudalen tua hanner ffordd), law yn llaw â pyrfio arno'r diwrnod wedyn ar
top table, yn bwyta salad, ac yn rhedeg ei fysedd trwy'i wallt (sydd, gyda llaw, wedi ei
highlightio yn broffesiynol dyddie 'ma). ta beth. y brif drafodaeth ar yr agenda oedd dechrau chwilio am artist i beintio portread o'r meistr i'w roi yn y neuadd fwyta. ein prif broblem? mae'r boi yn, wel, wirioneddol hyll:

(yr unig lun i mi allu ei ffeindio ohono ar y we. mae'n
flattering iawn, chwarae teg...)
unrhyw gynnigion?
16.5.05
wythnos neu ddwy
sdim yn hir i fynd gen i cyn yr arholiadau, rwan: y pecyn adolygu erbyn hyn wedi ehangu i gynnwys twb o iogwrt cneuen goco rachel's, compilasiwn 'indie-pop'
rough trade a ffelt pens (am heno, o leia). ma pobol yn crio yn y llyfrgelloedd (fues i bron â gwneud heddiw, ond am nad oeddwn i'n cael fy ffordd fy hun, nid am fy mod i'n ypset,
natch...), yn reslo dros y copi ola o '
orientalism' ac yn bangio drysau borders ar ôl iddo fo gau yn sgrechian "
have you no compassion?". mae'n dechrau mynd braidd yn annioddefol yma. di ddim hydnoed yn braf...

booo-ring...
11.5.05
reeit...
mae'r diwrnodau'n dechrau llenwi efo mwy a mwy a mwy o weithgareddau
constructive (hoho! pwn! dwi di bod yn adolygu hanes pensaerniaeth! dwi rili yn 'cracio', fel ma nhw'n dweud, 'fy hun lan'...) - ond ges i ddigon o amser heddiw i gael cwrdd â 'hen' ffrind sy di graddio ers blwyddyn. mae'n gweithio rwan i'r
Erotic Review (ychwanegwch '
the troubled' os chisio). mi fu gen i un ffrind yn gweithio yno am sbel (mae'n debyg ei fod o wedi diflannu erbyn hyn: diflannu go iawn, hynny yw. er, ma na si mai rhedeg clwb
fetish yn islington mae e.) oedd hefyd yn rhedeg y nosweithiau 'mic-agored' mwya shambolic i fi rioed ddod ar eu traws, yn y
portland 'slawer dydd.
eeeniwe, 'blaw bo hyn wedi dechrau neud i fi bendwmpian am 'lle ma'r holl bobol secsi, hwyl, peryglus wedi mynd?' (heblaw low. dwi'n gwbod lle ti'n byw. ond ti ddim yn arbennig o
beryg, chwaith), a 'ma angen mwy o smyt cymraeg', gofies i ynglyn â prosiect sbesial yr haf, a'r ffaith fod raid i fi dynnu 'mys mas a'i drefnu fe. y bwriad ar hyn o bryd (er nad yw popeth yn sicir eto. cyffyrddwch â phob darn o bren i fi) fy mod yn teithio fel aelod o CSIF ('The Cambridge Sexual Identity Forum') i'r swisdir ddiwedd gorffennaf, gan deithio ogwmpas am wythnos (diolch i haelionni'r Undeb Ewropeaidd a Bwrdd Twristiaeth y Swisdir) a threulio wythnos wedyn yn Davon yn mynychu cynhadledd LBGT (
Lesbian, Bisexual, Gay, Transgender) enfawr fel
staff journalist. dwi'n edrych mlaen yn arw: fydd modd cael lliw haul yn y swisdir? yw e mor boring a ma pawb yn honni? mam, tisie i fi ddod a cwcw-gloc yn ôl i ti? fyddai'n cael fy nghamgymryd am lesbian
am y canfed, milfed tro?
10.5.05
cyfri
wrth gau llwyth o hen ffenestri, nesi sylwi faint yn union o bynciau-blogs dwi di'u gadael ar eu hanner yn y pythefnos diwethaf. peth i wneud efo'r ffaith mod i
1. wedi datblygu 'cyfaint-consentrasiwn' byr eithriadol dros y ddwy flynedd ddiwethaf (dim gwobrau am gesio sut, cos dwi ddim yn gallu cofio... *hoho!*)
2. wedi bod yn eistedd ar fy soffa yn bwyta oatcakes ac yn darllen llyfrau amherthnasol neu
tenuously perthnasol ambyti rhyw, ym, a
vice am y canfed tro (gan freuddwydio y byddai, rhyw ddiwrnod, yn ymddangos yn yr adran 'DOs' *sniff/chwinci*). dweud y gwir, allai argymell 'Woman's Experience of Sex' (1983) gan
Sheila Kitzinger (ll:
face fooor ra-di-ooooo:ll). mae'n llawn diagramau o ddynion barfog, a pobol yn bwydo o'r fron, a lot o bethau diddorol eraill.
3. yn cadw fy holl egni ar gyfer sgrifennu adolygiad o
Acoustic Ladyland, ac o Barbarella i
Pictiwrs.com ella. dweud y gwir, dwi'n ecseited bost am
Jane Fonda Season yn y
Picturehouse dros y ffordd. hefyd yn eitha ecseited am y dewis o snacs (sy'n cynnwys crëëps efo enwau fel 'the big crêpeowski' a 'gone with the crêpe') fydd ar gael.
4. dair wythnos i ffwrdd o'n arholiadau cyntaf ers bron i ddwy flynedd, ac yn panicio braidd a swnian gormod...
3.5.05
arthur brown
mae 'ein prynwr' wedi surpasio'i hun unwaith eto mis yma, trwy fynd yn
hollol ffycin mental. hwree!
1.5.05
tua pedwar bore ma...

...storm
enfawr. neshi aros i wylio yn eistedd dop crât a gwrando ar serge gainsbourg, yn teimlo'n eitha smyg. a wedyn braidd yn
clichéd. rwan braidd yn flinedig.
Archives
04.2005
05.2005
06.2005
07.2005
08.2005
09.2005
10.2005
11.2005
12.2005
01.2006
02.2006
03.2006
04.2006
05.2006
07.2006
08.2006
09.2006
12.2006
03.2007
11.2007
01.2008
02.2008
03.2008
04.2008
07.2008
10.2008

Subscribe to Posts [Atom]