dros

11.5.05

 

reeit...

mae'r diwrnodau'n dechrau llenwi efo mwy a mwy a mwy o weithgareddau constructive (hoho! pwn! dwi di bod yn adolygu hanes pensaerniaeth! dwi rili yn 'cracio', fel ma nhw'n dweud, 'fy hun lan'...) - ond ges i ddigon o amser heddiw i gael cwrdd â 'hen' ffrind sy di graddio ers blwyddyn. mae'n gweithio rwan i'r Erotic Review (ychwanegwch 'the troubled' os chisio). mi fu gen i un ffrind yn gweithio yno am sbel (mae'n debyg ei fod o wedi diflannu erbyn hyn: diflannu go iawn, hynny yw. er, ma na si mai rhedeg clwb fetish yn islington mae e.) oedd hefyd yn rhedeg y nosweithiau 'mic-agored' mwya shambolic i fi rioed ddod ar eu traws, yn y portland 'slawer dydd.
eeeniwe, 'blaw bo hyn wedi dechrau neud i fi bendwmpian am 'lle ma'r holl bobol secsi, hwyl, peryglus wedi mynd?' (heblaw low. dwi'n gwbod lle ti'n byw. ond ti ddim yn arbennig o beryg, chwaith), a 'ma angen mwy o smyt cymraeg', gofies i ynglyn â prosiect sbesial yr haf, a'r ffaith fod raid i fi dynnu 'mys mas a'i drefnu fe. y bwriad ar hyn o bryd (er nad yw popeth yn sicir eto. cyffyrddwch â phob darn o bren i fi) fy mod yn teithio fel aelod o CSIF ('The Cambridge Sexual Identity Forum') i'r swisdir ddiwedd gorffennaf, gan deithio ogwmpas am wythnos (diolch i haelionni'r Undeb Ewropeaidd a Bwrdd Twristiaeth y Swisdir) a threulio wythnos wedyn yn Davon yn mynychu cynhadledd LBGT (Lesbian, Bisexual, Gay, Transgender) enfawr fel staff journalist. dwi'n edrych mlaen yn arw: fydd modd cael lliw haul yn y swisdir? yw e mor boring a ma pawb yn honni? mam, tisie i fi ddod a cwcw-gloc yn ôl i ti? fyddai'n cael fy nghamgymryd am lesbian am y canfed, milfed tro?

Comments:
ypdet:

"...mi fu gen i un ffrind yn gweithio yno am sbel (mae'n debyg ei fod o wedi diflannu erbyn hyn: diflannu go iawn, hynny yw. er, ma na si mai rhedeg clwb fetish yn islington mae e.)"

fe'i sbotwyd ym mharti lawnsio'r gumball 3000, yn schmwzio efo ron jeremy, wthnos diwetha. blydi hel.
 
Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]





<< Home

Archives

04.2005   05.2005   06.2005   07.2005   08.2005   09.2005   10.2005   11.2005   12.2005   01.2006   02.2006   03.2006   04.2006   05.2006   07.2006   08.2006   09.2006   12.2006   03.2007   11.2007   01.2008   02.2008   03.2008   04.2008   07.2008   10.2008  

This page is powered by Blogger. Isn't yours?

Subscribe to Posts [Atom]