gesi fy nghyfarfod cyntaf fel aelod o'r
Emmanuel Picture Guild heddiw - sy'n gyfrifol am brynnu darluniau i gasgliad parhaol y coleg. yn bresennol: llond llaw o ddynion barfog yn drewi o bibau; rhyw ddynes oedd yn edrych fel tase hi di gorchuddio'i hun mewn glud a rhedeg trwy
siop yma a,
sioc! horer!, yn ffresh off y teli: yr 'hanesydd celf'/
housewives favourite, Dr Nigel Spivey...

do'n i erioed wedi siarad efo'r boi, ac yn gyson di ceisio ei anwybyddu pan oedd o'n tor-heulo yn ei drons yng ngardd gefn fy nghymdogion. erbyn hyn, fodd bynnag, mae'n nos lun ni'n anghyflawn a gwag heb
installment arall o'i raglen
How Art Made The World (adolygiad da iawn
yma - lawr y dudalen tua hanner ffordd), law yn llaw รข pyrfio arno'r diwrnod wedyn ar
top table, yn bwyta salad, ac yn rhedeg ei fysedd trwy'i wallt (sydd, gyda llaw, wedi ei
highlightio yn broffesiynol dyddie 'ma). ta beth. y brif drafodaeth ar yr agenda oedd dechrau chwilio am artist i beintio portread o'r meistr i'w roi yn y neuadd fwyta. ein prif broblem? mae'r boi yn, wel, wirioneddol hyll:

(yr unig lun i mi allu ei ffeindio ohono ar y we. mae'n
flattering iawn, chwarae teg...)
unrhyw gynnigion?