dau fand dwi di bod yn gwrando'n ddi-stop arnyn nhw yn ddiweddar:
1.
The Decembrists - er nad ydwi dal yn siwr pwy y'n nhw: ddois i ar draws mp3s gan eu prif leisydd, Colin Meloy, pan ryddhaodd e ep o b-sides Morrissey. dim ond mil o gopiau sy'n bodoli (rhywun isio
prynu un i fi?) - ond ges i afael ar gwpwl o mp3s yma ac acw, a dwi'n dwlu arnyn nhw. (Os fyddai byth yn ffigro mas sut i 'hostio' mp3s, nai roi mwy i fyny - dwi'n gorfod dibynnu ar be dwi'n ei ffeindio ar wefannau eraill ar hyn o bryd. rhywun? wedi gwglo &c)

Ta beth - dyma gwpwl o mp3s o
3hive: gobeithio bo nhw'n plesio...
===============================================

2. White Magic - nes i ddechrau edefyn (byr-ei-fywyd) am hwn ar y
maes. Grwp o Brooklyn gwrddes i â nhw pan o'n nhw'n aros yng Nghaergrawnt - roedd ffrind i ni'n ymuno â nhw i chwarae'r gitar yn eu gig yn
All Tomorrow's Parties (co fe, fan
hyn.) Sdim llawer o wybodaeth am y band, fel ag y maen nhw - ond mae Mira Billotte (sy'n canu a sgrifennu'r rhan fwyaf o'r caneuon) yn sort-of-cyn aelod o
Quix*o*tic, hefyd yn actio mewn ffilmiau (rhai
braidd yn artsy), ac yn gyffredinol dalentog a thlws...
ta beth: co chi mp3 o
'Keeping the Wolves From The Door'a
Biog bach.