wrth gau llwyth o hen ffenestri, nesi sylwi faint yn union o bynciau-blogs dwi di'u gadael ar eu hanner yn y pythefnos diwethaf. peth i wneud efo'r ffaith mod i
1. wedi datblygu 'cyfaint-consentrasiwn' byr eithriadol dros y ddwy flynedd ddiwethaf (dim gwobrau am gesio sut, cos dwi ddim yn gallu cofio... *hoho!*)
2. wedi bod yn eistedd ar fy soffa yn bwyta oatcakes ac yn darllen llyfrau amherthnasol neu
tenuously perthnasol ambyti rhyw, ym, a
vice am y canfed tro (gan freuddwydio y byddai, rhyw ddiwrnod, yn ymddangos yn yr adran 'DOs' *sniff/chwinci*). dweud y gwir, allai argymell 'Woman's Experience of Sex' (1983) gan
Sheila Kitzinger (ll:
face fooor ra-di-ooooo:ll). mae'n llawn diagramau o ddynion barfog, a pobol yn bwydo o'r fron, a lot o bethau diddorol eraill.
3. yn cadw fy holl egni ar gyfer sgrifennu adolygiad o
Acoustic Ladyland, ac o Barbarella i
Pictiwrs.com ella. dweud y gwir, dwi'n ecseited bost am
Jane Fonda Season yn y
Picturehouse dros y ffordd. hefyd yn eitha ecseited am y dewis o snacs (sy'n cynnwys crëëps efo enwau fel 'the big crêpeowski' a 'gone with the crêpe') fydd ar gael.
4. dair wythnos i ffwrdd o'n arholiadau cyntaf ers bron i ddwy flynedd, ac yn panicio braidd a swnian gormod...