fe'm tagiwyd gan y
nwdlwr! wei!
Pedwar swydd dw i wedi’u cael1. 'cyorthwy-wraig ymchwil' yn
mercator2.
wmpa-lwmpa, ffatri siocled Halo yn Nhywyn
3. model porcyn
4. telynores briodasol/ciniawe dydd gwyl dewi boring/bar mitsfas cymraeg etc
Pedwar ffilm gallaf eu gwylio drosodd a throsodd1. Annie Hall (er, wy di bod yn syrthio'i gysgu'n ei chanol hi'n ddiweddar. wps.)
2. Braindead
3. In the mood for love
4. Akira
Pedwar lle dw i wedi byw ynddyn nhw1. Maes Ceiro, Bow Street
2. Maes y Garn, Bow Street (cam enfawr dros y brif ffordd)
3. Coleg Emmanuel, Caergrawnt
4. Park Terrace, Caergrawnt (h.y. adre a coleg!)
Pedwar rhaglen teledu dwi’n eu caru1. The Day Today
2. Diagnosis Mwrdwr
3. Spaced
4. Brat Camp (ar hyn o bryd. unrhyw raglen 'realiti' ar sianel pedwar, wir...)
Pedwar lle dw i wedi bod ar wyliau1. Reykjavik
2. Sant Petersburg
3. Siapan
4. Sir Fôn
Pedwar o’m hoff brydau bwyd1. Colcannon
à la Piers efo digon o win.
2. brechdannau o unrhyw fath (yn enwedig os oes modd eu dodi yn y Fforminator)
3. Tempura, dumplings, reis a llysie (basically popeth oddi ar y 'sundries' menu), te jasmin a rhyw fath o gwrw gwirion.
4. plat mawr o ffrwythe tropigal. mmm.
Pedwar gwefan dw i’n ymweld â nhw bob dydd1.
thesuperficial.com2. fy webmail coleg
3.
skynews showbiz4.
fleshbot (ddim rili'n saff i'r gwaith. eeniwe: llawfer am un o'r blogs
gawkeraidd ta beth)
(ydw, dwi'n defnyddio'r we yn benna i edrych am luniau o selebrities. a selebrities noeth. peidiwch â cheisio honni nag y'ch chi 'r un peth! na? o.)
Pedwar lle hoffwn i fod yn y munud hwn1. wrth droed consti, aberystwyth, yn yfed seidr a chwarae efo hwla hwp yn yr haul.
2. yn y llyfrgell ('di'r "grym mewnol" ddim cweit gen i heddiw)
3. montana, yn reidio ceffyl a gwylio'r eirth (ac yn cysgu dan y sêr efo rhyw fath o
bushman blewog.)
4. yn yr olympics yn turin yn mycio gwmpas yn yr eira.
Pedwar blogiwr dw i’n eu tagiogai
"dwio a chris" a pheidio tagio neb? dwi'm yn credu fod digon o bobl nas tagiwyd yn barod yn darllen y blog 'ma ta beth! newch e os chi moyn. (blaw ti,
snakko, wy'n dy dagio di. be sy di digwydd i'r blogyn? wy'n gwbod yn iawn dy fod ti'n neud pethe diddorol, washi. nawr blogia nhw!)