dros

24.2.06

 

!oioioioio!

fe'm tagiwyd gan y nwdlwr! wei!

Pedwar swydd dw i wedi’u cael

1. 'cyorthwy-wraig ymchwil' yn mercator
2. wmpa-lwmpa, ffatri siocled Halo yn Nhywyn
3. model porcyn
4. telynores briodasol/ciniawe dydd gwyl dewi boring/bar mitsfas cymraeg etc

Pedwar ffilm gallaf eu gwylio drosodd a throsodd

1. Annie Hall (er, wy di bod yn syrthio'i gysgu'n ei chanol hi'n ddiweddar. wps.)
2. Braindead
3. In the mood for love
4. Akira

Pedwar lle dw i wedi byw ynddyn nhw

1. Maes Ceiro, Bow Street
2. Maes y Garn, Bow Street (cam enfawr dros y brif ffordd)
3. Coleg Emmanuel, Caergrawnt
4. Park Terrace, Caergrawnt (h.y. adre a coleg!)

Pedwar rhaglen teledu dwi’n eu caru

1. The Day Today
2. Diagnosis Mwrdwr
3. Spaced
4. Brat Camp (ar hyn o bryd. unrhyw raglen 'realiti' ar sianel pedwar, wir...)

Pedwar lle dw i wedi bod ar wyliau

1. Reykjavik
2. Sant Petersburg
3. Siapan
4. Sir Fôn

Pedwar o’m hoff brydau bwyd

1. Colcannon à la Piers efo digon o win.
2. brechdannau o unrhyw fath (yn enwedig os oes modd eu dodi yn y Fforminator)
3. Tempura, dumplings, reis a llysie (basically popeth oddi ar y 'sundries' menu), te jasmin a rhyw fath o gwrw gwirion.
4. plat mawr o ffrwythe tropigal. mmm.

Pedwar gwefan dw i’n ymweld â nhw bob dydd

1. thesuperficial.com
2. fy webmail coleg
3. skynews showbiz
4. fleshbot (ddim rili'n saff i'r gwaith. eeniwe: llawfer am un o'r blogs gawkeraidd ta beth)

(ydw, dwi'n defnyddio'r we yn benna i edrych am luniau o selebrities. a selebrities noeth. peidiwch â cheisio honni nag y'ch chi 'r un peth! na? o.)

Pedwar lle hoffwn i fod yn y munud hwn

1. wrth droed consti, aberystwyth, yn yfed seidr a chwarae efo hwla hwp yn yr haul.
2. yn y llyfrgell ('di'r "grym mewnol" ddim cweit gen i heddiw)
3. montana, yn reidio ceffyl a gwylio'r eirth (ac yn cysgu dan y sêr efo rhyw fath o bushman blewog.)
4. yn yr olympics yn turin yn mycio gwmpas yn yr eira.

Pedwar blogiwr dw i’n eu tagio

gai "dwio a chris" a pheidio tagio neb? dwi'm yn credu fod digon o bobl nas tagiwyd yn barod yn darllen y blog 'ma ta beth! newch e os chi moyn. (blaw ti, snakko, wy'n dy dagio di. be sy di digwydd i'r blogyn? wy'n gwbod yn iawn dy fod ti'n neud pethe diddorol, washi. nawr blogia nhw!)

Comments:
Mae Akira wedi cael ei ddisodli gan Withnail ers blwyddyn, ond taswn i'n onest dwi'n caru mynd nôl ati. Mae'r hanner awr gynta'n un o'r dechreuadau gorau i ffilm yn hanes ffilmiau. Er, dwi'n lecio fuzzy nonsense y diwedd hefyd. "Tetsuoooooooo" "KANEDAAAAAAAAA"! Mmm, yes.

Mae In The Mood For Love yn hollol sdyning o ffilm. Fel'na mae ffilmiau cariad i fod. "Ingol" dwi'n meddwl yw'r gai priodol yntê.

Dyna fysa'r gair swn i'n ddefnyddio i ddisgrifio'r Bjorksan hefyd...
 
tan yn ddiweddar iawn, don i heb weld diwedd withnail (cwympo i 'gysgu' tua 'i seen the fat man' bob tro!).

ingol? greddfol a naturiol hefyd, os gai ganiatad i fod yn bonslyd am funud.

hefyd: mae Akira'n ennill am fod y ferch fach cripi efo'r plethenni a'r gwyneb llwyd yr UN sbitt a chyn-gariad un o'n ffrindie fi. mae'n siarad felna hefyd. cracio fi lan bob tro...
 
Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]





<< Home

Archives

04.2005   05.2005   06.2005   07.2005   08.2005   09.2005   10.2005   11.2005   12.2005   01.2006   02.2006   03.2006   04.2006   05.2006   07.2006   08.2006   09.2006   12.2006   03.2007   11.2007   01.2008   02.2008   03.2008   04.2008   07.2008   10.2008  

This page is powered by Blogger. Isn't yours?

Subscribe to Posts [Atom]