dros

31.1.06

 

crassh! (wpddet cantafrigiol)

ma'n un o'r pethe 'na dwi wastad wedi bod isio gwneud. chwalu ming (neu qing, yn yr achos yma) vase yn fil o ddarnau man. o'n i i fewn yn amgueddfa'r Fitzwilliam nid wythnos yn ôl yn ystyried gwneud yr un peth a'r boi yma (i'w groesi oddi ar 'y rhestr'). o wel.

ps: pen blwydd hapus i rick james. damn!

pps: erbyn i fi feddwl, crassh ydi'r Centre for Research in the Arts, Social Sciences and Humanities yng Nghaer-grawnt. mae'r calendr digwyddiadau'n reit ddiddorol, nawr bo fi'n edrych. welai chi yn Talking Embryos: Interdisciplinary Conversations Exploring the Social Roles of the Embryo. falle.

ppss: panic drosodd. nid cariad cudd sy' di bod yn hel cardiau rhamantus i fi, ond cymdeithas gymraeg caer-grawnt. wel. gan nas anfonwyd un (dos normal o ddiffyg hyder yn fy sgiliau 'rhamantus' [wir yr. ma'n small talk i'n drewi.] fel arfer), ddylwn i ddim disgwyl un mae'n siwr. 'carmiad' dwi'n licio'i alw fe...



Uchod: "Llanwa fy nghalon â gobaith, tyn hi mas a gad iddi stopio pwmpio o flaen fy llygaid - cyn gwneud smwddi mas ohoni a'i yfed mas o welltyn tra'n eistedd ar fy nghorff."

Comments:
cei siwr. bydd raid dod draw i'r brig ar gyfer yr hazing ddo (byo bat criced).
 
Diwrnod Santes Dwynwen Melys?! Ces i un Swslyd! Mwahahaha!
 
ym, 'da iawn?'

y rheswm am y '...melys' yw am fod yna jocletsen fach wedi dod efo'r garden. mewn turnout trasig, nath rywun fynd i 'mlwch clomen, ei ddwyn, a'i fwyta (conjecture llwyr yw'r un diwetha' 'na). :(
 
Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]





<< Home

Archives

04.2005   05.2005   06.2005   07.2005   08.2005   09.2005   10.2005   11.2005   12.2005   01.2006   02.2006   03.2006   04.2006   05.2006   07.2006   08.2006   09.2006   12.2006   03.2007   11.2007   01.2008   02.2008   03.2008   04.2008   07.2008   10.2008  

This page is powered by Blogger. Isn't yours?

Subscribe to Posts [Atom]