ma'n un o'r pethe 'na dwi
wastad wedi bod isio gwneud. chwalu ming (neu
qing, yn yr achos yma) vase yn
fil o ddarnau man. o'n i i fewn yn amgueddfa'r Fitzwilliam nid wythnos yn ôl yn ystyried gwneud yr un peth a'r boi yma (i'w groesi oddi ar 'y rhestr'). o wel.
ps: pen blwydd hapus i
rick james. damn!
pps: erbyn i fi feddwl, crassh ydi'r
Centre for Research in the Arts, Social Sciences and Humanities yng Nghaer-grawnt. mae'r calendr digwyddiadau'n reit ddiddorol, nawr bo fi'n edrych. welai chi yn
Talking Embryos: Interdisciplinary Conversations Exploring the Social Roles of the Embryo. falle.
ppss: panic drosodd. nid cariad cudd sy' di bod yn hel cardiau rhamantus i fi, ond
cymdeithas gymraeg caer-grawnt. wel. gan nas anfonwyd un (dos normal o ddiffyg hyder yn fy sgiliau 'rhamantus' [wir yr. ma'n
small talk i'n drewi.] fel arfer), ddylwn i ddim disgwyl un mae'n siwr. 'carmiad' dwi'n licio'i alw fe...
Uchod: "Llanwa fy nghalon â gobaith, tyn hi mas a gad iddi stopio pwmpio o flaen fy llygaid - cyn gwneud smwddi mas ohoni a'i yfed mas o welltyn tra'n eistedd ar fy nghorff."