mae'r diwrnodau'n dechrau llenwi efo mwy a mwy a mwy o weithgareddau
constructive (hoho! pwn! dwi di bod yn adolygu hanes pensaerniaeth! dwi rili yn 'cracio', fel ma nhw'n dweud, 'fy hun lan'...) - ond ges i ddigon o amser heddiw i gael cwrdd â 'hen' ffrind sy di graddio ers blwyddyn. mae'n gweithio rwan i'r
Erotic Review (ychwanegwch '
the troubled' os chisio). mi fu gen i un ffrind yn gweithio yno am sbel (mae'n debyg ei fod o wedi diflannu erbyn hyn: diflannu go iawn, hynny yw. er, ma na si mai rhedeg clwb
fetish yn islington mae e.) oedd hefyd yn rhedeg y nosweithiau 'mic-agored' mwya shambolic i fi rioed ddod ar eu traws, yn y
portland 'slawer dydd.
eeeniwe, 'blaw bo hyn wedi dechrau neud i fi bendwmpian am 'lle ma'r holl bobol secsi, hwyl, peryglus wedi mynd?' (heblaw low. dwi'n gwbod lle ti'n byw. ond ti ddim yn arbennig o
beryg, chwaith), a 'ma angen mwy o smyt cymraeg', gofies i ynglyn â prosiect sbesial yr haf, a'r ffaith fod raid i fi dynnu 'mys mas a'i drefnu fe. y bwriad ar hyn o bryd (er nad yw popeth yn sicir eto. cyffyrddwch â phob darn o bren i fi) fy mod yn teithio fel aelod o CSIF ('The Cambridge Sexual Identity Forum') i'r swisdir ddiwedd gorffennaf, gan deithio ogwmpas am wythnos (diolch i haelionni'r Undeb Ewropeaidd a Bwrdd Twristiaeth y Swisdir) a threulio wythnos wedyn yn Davon yn mynychu cynhadledd LBGT (
Lesbian, Bisexual, Gay, Transgender) enfawr fel
staff journalist. dwi'n edrych mlaen yn arw: fydd modd cael lliw haul yn y swisdir? yw e mor boring a ma pawb yn honni? mam, tisie i fi ddod a cwcw-gloc yn ôl i ti? fyddai'n cael fy nghamgymryd am lesbian
am y canfed, milfed tro?