dros

22.5.05

 

bandflog

dau fand dwi di bod yn gwrando'n ddi-stop arnyn nhw yn ddiweddar:

1. The Decembrists - er nad ydwi dal yn siwr pwy y'n nhw: ddois i ar draws mp3s gan eu prif leisydd, Colin Meloy, pan ryddhaodd e ep o b-sides Morrissey. dim ond mil o gopiau sy'n bodoli (rhywun isio prynu un i fi?) - ond ges i afael ar gwpwl o mp3s yma ac acw, a dwi'n dwlu arnyn nhw. (Os fyddai byth yn ffigro mas sut i 'hostio' mp3s, nai roi mwy i fyny - dwi'n gorfod dibynnu ar be dwi'n ei ffeindio ar wefannau eraill ar hyn o bryd. rhywun? wedi gwglo &c)



Ta beth - dyma gwpwl o mp3s o 3hive: gobeithio bo nhw'n plesio...

===============================================



2. White Magic - nes i ddechrau edefyn (byr-ei-fywyd) am hwn ar y maes. Grwp o Brooklyn gwrddes i â nhw pan o'n nhw'n aros yng Nghaergrawnt - roedd ffrind i ni'n ymuno â nhw i chwarae'r gitar yn eu gig yn All Tomorrow's Parties (co fe, fan hyn.) Sdim llawer o wybodaeth am y band, fel ag y maen nhw - ond mae Mira Billotte (sy'n canu a sgrifennu'r rhan fwyaf o'r caneuon) yn sort-of-cyn aelod o Quix*o*tic, hefyd yn actio mewn ffilmiau (rhai braidd yn artsy), ac yn gyffredinol dalentog a thlws...

ta beth: co chi mp3 o 'Keeping the Wolves From The Door'

a Biog bach.

Comments:
Ffycin swot. Bfiliant ddo, nagyn nhw?
 
hehe! tria wir i gael gafael ar 'colin (neshi deipio colon fanna) meloy sings morrissey'. mae'n amaaaazing
 
Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]





<< Home

Archives

04.2005   05.2005   06.2005   07.2005   08.2005   09.2005   10.2005   11.2005   12.2005   01.2006   02.2006   03.2006   04.2006   05.2006   07.2006   08.2006   09.2006   12.2006   03.2007   11.2007   01.2008   02.2008   03.2008   04.2008   07.2008   10.2008  

This page is powered by Blogger. Isn't yours?

Subscribe to Posts [Atom]