yn barod. cwpwl o bostiau braidd yn ddi-fflach a dwi'n pwdu. ta beth. rhaid yn gynta i fi ddiolch yn
fawr i nic a'i
forfablog am fy nghyfeirio fi i
The 365 Days Project - cân 'wedi'i darganfod' ('
found') ar gyfer bob dydd o'r flwyddyn aeth heibio. ma pob un yn record fydden i wrth fy modd yn ei darganfod mewn bwced ffair sborion capel (di hynna ddim yn swnio'n gret. ella fod rhaid esbonio mod i wrth fy modd yn ffeindio pethe felna. neu i roi fel arall, dwi'n perchen ar fwy o
charming pieces of crap dwi'n methu iwsio na lot o bobol. llenwi twll mewn sgwrs mae o fel arfer...)
dim llawer i'w riportio - mae gwaith yn dechrau bwyta bob dim arall (ail sgrifennu traethawd ar waith
Linda Nochlin. dynes glyfar.) - heblaw amser gwylio teli: newsnight a
the fugitive, hanner a hanner, neithiwr. biti garw fod
plastic surgery live wedi gorffen â ni wedi dod at y gyfres mor hwyr. ta beth, bydd raid i fi dynnu socs lan a meddwl am be dwi'n mynd i ysgrifennu cyn eistedd o flaen y cyfrifiadur tro nesa, yn bydd?
*sgwennwyd tra'n gwrando ar '
sweet talkin' woman' gan
Eldorado a '
zipcode' gan
st etienne :)*