wel, ma'r benthyciad di cyrraedd. sylwes i ar y ffordd allan o'r banc fod cynnig arbennig yn y siop deithio drws nesa - pythefnos yn koh samui (sp?),
all-inclusive am, wel, swm fy menthyciad i. peth da nad oes gen i basport ar hyn o bryd (angen ei hadnewyddu mae hi. diolch i anffawd arall rhwng mr gwallt a mr siswrn, dwi'n edrych fel croes rhwng cadfael sant a paul mccartney ar hyn o bryd. dwi'm isio gweld hynna'n sbio allan o'n pasport arnai am ddeng mlynedd :( rhaid, felly, aros iddo dyfu.). yn hytrach na thaith i'r trofannau, setles i ar dvd (derek & clive), dec newydd o top trumps (smash hits 2), bar o green & blacks (cnau a chyrains), albym ELO a
le Petit prince ar cd.
fel arall, ma pethe'n dechrau prysuro ogwmpas c-g. mwy o fyfyrwyr, mwy o dwristiaid, mwy o dramps, cyfarfodydd, pobol i'w hosgoi. (gymres i deif llythrennol tu ôl i'r fitamins yn boots ddim sbel yn ôl - habit greddfol - pan welais i'n hen athrawes gramadeg rwsieg o'r flwyddyn gyntaf: dynes oedd yn dychwelyd gwaith cartref efo 'you need help!'; 'what is wrong with you?' neu groesau enfawr gwyrdd drosto fe i gyd. un o'r rhesymau mod i rwan yn hanesydd celf ac nid yn ieithydd...) ta beth, ie, caergrawnt.
rodd hi'n braf, rywsut (ac mewn ffordd braidd yn rong, mae'n siwr), gallu gweld angladd Gwynfor Evans ar y teledu ddoe a finne ddim adref - rodd hi'n edrych yn braf yn aber, a'r ymdeimlad anghydffurfiol cristnogol yn eitha reffreshing, gymaint dwi di arfer gweld mynaich, daeoniaid ac
altarboys yn rhedeg ogwmpas y colegau eu ffrogiau. anaml iawn dwi'n cael gwylio s4c yn y stafell gyffredin yma - dwi'n osgoi gneud, fel arfer (ddim jest achos ei fod o'n crap weithiau). er bod fy ffrindiau i gyd yn (weddol) barchus o 'mhecadilos i ynglyn â'r gymraeg, ac yn defnyddio ambell frawddeg eu hunain, erbyn hyn ("pwdin blew", yn bennaf): dwi wastad yn teimlo fel rhyw was ferm stiwpid mewn stori kate roberts, yn gorfod ymddiheuro am wedd
backward y peth, am y synau od.
ta beth - ymarfer tynnu bys mas di hwn. rhaid ceisio peidio troi'r blog hwn yn livejournal 'fyd: er mwyn y plant ac er mwyn fy hunan barch. allwn i ei feio fe ar fywyd ynysig myfyrwyr prifysgol c-g, neu ar y ffaith mod i'n hollol
self obsessed. gawn ni weld.