dwi wedi cyrraedd georgia (sioria?) erbyn hyn. dwi'm yn teimlo'n dda iawn chwaith. mae traddodiad gwinwydda'r wlad yn mynd yn ol mhellach o ddipyn na oed crist- mae'r saperavi coch yn dywyll dywyll, fatha'r marc cwestiwn mawr sy'n hongian off fy nhalcen. dychmygwch foron-a-ffon, efo cwmwl du strempan yn lle moron.
mae cymunedau ex-pat yn bethau od. gawsom ni ginio diolchgarwch traddodiadol neithiwr, lot o bei, lot o fabis (lot o bobol oedd di bod i abertawe hefyd, odli). rwsiaid, americanwyr, georgians, prydeinwyr a boi o ferlin (yn ogystal a'r obligatory ganed-ym-moscau-magwyd-ym-moston-mae'n-stori-hir-sori) - yr rhan fwyaf yn gweithio i'r cyfryngau, neu yn eu monitro. roedd fy ngwestai yn ei chymyd hi dipyn yn haws na fi (er, mi aeth yn ol am dri holpyn o dwrci)- mae'r arlywydd shaakasvili yn ymddiswyddo ar y 25ain a rhaid bod yn barod i ddarlledu newyddion am y peth unrhyw bryd. diwrnod i osgoi canol y ddinas, efallai-mae'r heddlu di bod yn reit trigger happy yn ystod protestiadau yn ddiweddar. dwi am geisio mynd allan at y mynyddoedd yn fuan ta beth. mae na drefi bach cudd, llawn eglwysi romanesg, murluniau a chyrchfannau pererinion yno: finne di dod allan ma i gael saib o'r gwaith.
Mae Tbilisi yn ddinas sy nghanol ail wampiad ar yr un llun siwdo-ewropeaidd a chaerdydd, ond ar scale galamitws lychlyd 'sech chi'n ei ddisgwyl o gyn-weriniaeth sofietaidd. Parciau gwyntog, pensaerniaeth 'sifil' uchelgeisiol, ffynhonnau sgwyrtlyd (mae'r un ar bwys y fflat yn canu pop rwsiaidd rownd y cloc) - oll di cylchu gan ffrwd di ddiwedd, holl fiplyd o lada nivas. Mae'r bobol yn camu dros bentyrrau cerrig pafin, a'r dynion gwydn sy'n eu gosod efo mwrthwl mawr, goro camu allan i'r ffordd i osgoi jac codi baw sy'n stradlo dwy heol yn ara bach, ac i'r cyfeiriad anghywir (neu, jyst weithiau, bmw efo ffenestri tywyll sy'n dreifio ar hyd y pafin). Gawn ni weld os neith dilynydd Misha (aka Prez Shaakasvili) orffen y gwaith - neu'n gadael y brif heol yn frith o planters concrit a dodrefn stryd ffansi ar ei hanner. Fydde ddim y peth gwaetha i ddigwydd yn hanes y ddinas, dwi'n siwr. Roedd Misha ("not that one", ond brodor o Dbilisi) yn son neithiwr am ddwyn polion lamp o ganol y ddinas a'u cysylltu i'r grid allan yn swbwrbia ol-stalinaidd y dre, lle nad oes golau o gwbwl yn ystod y nos. Braf.
Wel, allaim eistedd ar fy nhin am lot hirach - ma na lot i'w weld yma! Dwi am adael fideo SBON-tastic, wnaethpwyd gan rai o wrthwynebwyr yr arlywydd. Fel ma propaganda'n mynd, dyw e ddim yn rhyw gynnil iawn, ond, goddamia, mae'n ffynci!
Eeniwe, ella bydd batri'r camera ddim digon clen i aros ar ddihun trwy'r trip - gewch chi weld, ynde. Hwyl am wan.
Mai di cymryd i ti fynd holl ffordd i Georgia i ail-gydio yn y blogio Sara! Ond,good things come to those who wait - mae Georgia 'so far' yn swnio'n le braf. Pa mor oer ydi hi? Edrych mlaen i gal rhagor o dy hanesion dros y pythefnos nesa'!