dros

25.12.06

 

nadolig llawen

tra bo gweddill y teulu yn eistedd lawr i wylio celebriti tipit (quote of the moment: "aled hall, o mae o'n hen fochyn"), gai ddymuno nadolig llawen i'r we yn gyffredinol, moreso y tri pherson fydd efallai, mewn cwpwl o fisoedd, yn dod ar draws y blogsyn wn mynyn.

so: DOLIG LLAWEN.

ges i loncwisg gragen newydd. un pinc a mae'n cwl ar y naw. os chi'n gweld rhywun superfly yng nghanton yn y flwyddyn newydd, chances are mai fi fydd e, yn fy loncwisg.

dyw'r blog ddim wedi marw, a mae'n power of observation i jyst mor AMAZING ac oedd e cynt, jyst bod fy 'bone-idle' style wedi stopio fi rhag sortio'r we mas yn y ty newydd. crapola yw'r unig air i'w ddisgrifio. mae blogiau pawb arall wedi'u banio yn y gwaith. sai wedi teimlo mor dechnolegol ynysig (FI YN JOCAN GYDA LLAW) ers 1991, pan gawsom ni 'prince of persia' i'w chwarae ar y pc. dyddie da (ac erotig, mewn ffordd 'perfumes-of-the-east-aidd').

ta waeth, byddai'n dechre blogio, gobeithio, yn psziwdo-broffesiynol ar ran amgueddfa hanesyddol awyr agored sy'n odli syda 'nain bagan' ar wefan ymgorfforaeth ddarlledu brydeinig sy'n odli efo, ym, wel, you get the picture, ym mis ionawr. felly lot llai o regi, a llunie neis o dro'r tymhorau. falle gewch chi un o fi yn fel morwyn tuduraidd, neu yn bwyta cacen tail a brethyn wrth y tan.

duw a wyr pan gaiff y blog amhroffesiynol hwn gic yn y penol go iawn - pan fydd e, roi wybod i chi, oce?

gobeithio i chi fwynhau gwyl ein Prywnwr.

Comments:
Sylwer nad y rhieini druan oedd eisiau gwylio cwlebrty tipit. Na celebrity come dancing, chwaith. Na little britain abroad, na eastenders, na who framed roger rabbit...
 
helo dad! (paid a chlwydda nesdi 'fwynhau' eastenders)
 
Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]





<< Home

Archives

04.2005   05.2005   06.2005   07.2005   08.2005   09.2005   10.2005   11.2005   12.2005   01.2006   02.2006   03.2006   04.2006   05.2006   07.2006   08.2006   09.2006   12.2006   03.2007   11.2007   01.2008   02.2008   03.2008   04.2008   07.2008   10.2008  

This page is powered by Blogger. Isn't yours?

Subscribe to Posts [Atom]