[disglaimiwr: o'n i'n dechre meddwl am ferwi pennau
rhai maeswyr efo rhyw fath o ymateb rantllyd diddorol ac anodd-i'w-ddilyn am is-ddiwylliannau rhyw a'r gymraeg, ond gwell ei neud e fan hyn, sbo (i ddechrau, ma llai o bobl yn mynd i'w ddarllen e fan hyn ;)]
meddwl o'n i am y gân. ie,
blue monday gan new order. yn ogystal â'i bod hi'n ddarn o electronica 'croes-drosodd' ysblennydd, y 12" fwya poblogaidd yn hanes y byd, a 'di rhoi pwrpas i fywyd bernard sumner wedi i ian curtis bopo'i glogs, fuodd y gân hon yn ddigon lwcus i fod yn gatalyst Myfyrdodau Pwysig a Diddorol i fi dros y penwythnos. waw:
dechreuodd efo'r
manchester passion nos wener, nath cwpwl o lwps, a gorffen efo'r pôl-ddawns fwya ecsplusut a gwychboeth dwi 'rioed 'di gweld, mewn eglwys yn brixton yn gynnar fore sul.
esboniaf.
aros i 'vampire circus' ddechre ar bbc un o'n i (ffilm hammer wych, ag iddi ddipyn o elfennau bdsm eitha amlwg a di-angen - o'n i'n gwylio, serch hynny, am y trawsnewid fampir-i-banther, cameo david prowse a'r clowns cripi. dwi'n addo) pan ddois i ar draws y darllediad yma ar bbc dau. dwi'n siwr 'mod i'n siarad ar ran eraill hefyd wrth gyfadde taw'r unig reswm dwi'n gwylio darllediadau byw, mawr y bbc yw'r gobaith y bydda i, rhyw ddiwrnod, yn dyst i
fuck up ar sgêl enfawr fydd dim posib ei weld byth eto. pudsey'n cael ei fyta gan lewod, bynji terry wogan yn torri dros gôr o haemophiliacs ifanc, rhyw fath o ddinistr tân-gwyllt cyffredinol ar y
london eye: y math yna o beth.
prosesiwn ddifrifol, grefyddol-gerddorol trwy ganol manceinion. resipi perffaith, medde fi. iesu grist yn cael ei hambygio gan blant mewn hwdis tu fas y trafford centre, keith allen yn cael ei groeshoelio drw gamgymeriad: chi'n 'getio' y 'pictiwr'. ta beth: tra bod dim jacpot ar y ffrynt 'dinistr', ro'dd digon o 'ganu-clensio-dwrn' i wneud i geraint griffiths dagu ar ei o[ho]en tei[hei]lwng (h. mr Ll. Richards), a caws drewllyd dosbarth A yn gorlifo (yn fetafforig) drwy'r strydoedd wrth i 'iesu' grwydro trwy 'gethsemane' (tu fas wallis) efo 'befi' yn ei law yn canu 'sit down' gan james at ei 'ddisgyblion'. a dyma jiwdas yn troi'i fyny (tim booth, oedd yn gneud ei orau i edrych fel
syrcasfeistr aflan), plannu'r smacar ddadlennol ar wefus ein prynnwr, a dyma nhw'n dechre canu'r gân - blue monday.
"
How does it feel
To treat me like you do?
When you've laid your hands upon me
And told me who you are"
medde iesu
"
I thought I was mistaken
I thought I'd heard your words
Tell me: How do I feel?
Tell me now how should I feel?
Tell me now how do I feel?"
medde jiwdas
ac yn y blaen ac yn y blaen. ciw iesu yn ei all-in-one mewn
sitrws guantanamo, pawb yn canu 'angels', clapio, vampire circus yn cychwyn: bish, ac yn wir, bosh.
a dyma lle ma'r holl fusnes 'is-ddiwylliant rhyw a'r gymraeg' 'ma'n troi fyny (sgipiwch y paragraff yma os am ddarllen am y pôl ddawnsio ag ati). y sws 'bach-rhy-hir' rhwng 'jiwdas' a 'iesu', brâd, partneriaeth, ymddygiad 'gwrol' (pun intended). wy'n astudio maes sy'n wirfoddol yn darllen dipyn go lew o is-destun rhywiol (sexual, nid sexy. ai dyma'r gair cywir?) i fewn i'r rhan fwya o weithiau crefyddol dyn ni'n dod ar eu traws. er enghraifft,
beth am hon fel golygfa o ginc cynnar?. so pam lai y
vignette fach allweddol hon rhwng tim booth a darren
morfitt (dim jôc. mae'n ffantastig yn
dog soldiers cofiwch), jyst ffor cics?
dwi ddim yn ffan enfawr o'r ddadl "be yn
union sy' gan y beibl i'w ddweud am y math yma o gario 'mlaen" (dwi'n ddigon lwcus fod mam 'di dysgu fi fod 'na sawl ffordd o edrych ar y llyfryn hwnnw. a fy mod i 'di penderfynu'n reit ifanc fod rhai o'r rheiny'n fwy goleuedig nac eraill), ond liciwn i ddyfynnu a chytuno 'da 'Barbarella' off y maes co (os gai, de)
"...does rhyfedd bod gymaint o Gymry ifainc hoyw yn teimlo bod rhaid iddyn nhw adael eu cymunedau Cymraeg a symud i dinasoedd fel Manceinion, Llundain a Chaerdydd i gael bywyd normal. Mae'r culni meddwl yma yn cyfrannu at ddirywiad yr iaith, yn anffodus. Byddai'n werth i ambell un ystyried hynny."
gan symud dadleuon "ble ma'r shanis cwmrâg/mocha anifeiledd 'sha crymych/'wpa fe lan'/rympi-pympi
grand slamaidd de bois? e? e? pwy sy da fi? e?" i'r naill ochr am eiliad: ble yn union
mae is ddiwylliant rhyw cymru'n cuddio? rywun?
dwi'm yn sôn am gyfunrywiaeth fan hyn chwaith, gan nad ydwi'n ei gyfri fel cinc, ond am y llyfrau mwclyd? y siarad brwnt? y clwbs? y ffotos a'r darluniau? falle na chath iaith y nefoedd ei dyfeisio i gôpio efo'r math yma o beth: wedi'r cyfan, sgennom ni ddim lot o enwau 'cynhennid cymrreig' ar gyfer ein 'gwahaniaethau anatomegol' sy'm yn swnio fel jôc plentyn neu derm meddygol o'r 19eg ganrif, oes e?. allai ddim meddwl am un esiampl o drafodaeth/driniaeth rydd, secsi a chyfrifol o ryw, ei ins a'i owts, wedi'i drafod gan unrhywun o 'nghenhedlaeth i, yn gymraeg (o'n i'm ddim cweit ddigon hen i wylio'r rhaglen 'na (efo ffion gwallt a beca brown? lisa rwbeth [yr un fronnog, tamaid yn fochynllyd]?) pan ddaeth hi mas, yn anffodus). ai ni yw e (neu, falle, yn fwy sbesiffig, ife fi yw e? ;))? ynte'r iaith? mae llawer ohonom ni, dwi'n siwr y gallwn ni gytuno, yn gallu trafod materion o rywioldeb yn rhwydd iawn yn saesneg - yw hyn am ein bod ni 'di dysgu sut mewn un iaith ac nid y llall? ydi hynna'n amhosib? e? pwy sy' da fi? e?
ta beth. digon ar y rhethreg. 'n ôl at y stwff poeth. roedd hi'n ben blwydd ar un o'n ffrindiau, a buodd hi'n hefru braidd am fynd i
fama, y 'torture garden', (ddim yn saff i'r gwaith, siwr o fod) i ddathlu. iawn sbo, medde fi, a rhaffu mewn i 'nghorset ("no matches" ar
geiriadur.net,
natch). gai esbonio rwan nad ydwi'n neidio mas o unrhyw gwpwrdd cinci fan hyn. does dim lot o'r 'is-ddiwylliannau' ma'n codi ofn/sioc arnai, ond dwim cweit yn barod i gael fy nghlymu mewn fishooks a'n rhoi mewn lobster trap gan ddyn masgiedig hyd yn hyn. clwb normal yw'r 'TG', ta beth, blaw am chydig o eithriadau pwysig. i ddechre, ma 'na groestorriad enfawr mewn oedran, siâp, golwg a chwaeth (cerddorol, ffasiwn, rhyw, popeth) yr rhai sy' yno. a ma 'na ddaeargell ('
dungeon', mae'n debyg) ar gyfer yr rhai dewr. ond ai ddim i fewn i hynna rwan - dwi di hen golli'r trywydd, ac wedi sgrifennu gormod fel ma hi (mae'n ddigon i ddweud na fyddai byth yn edrych ar
Gladiator yn cweit yr un golau ac o'r blaen rwan).
so, i droi stori hir yn un bach-llai-hir: wedi dipyn o sbio mewn rhyfeddod ar y gwisgoedd cain (rhai'n fwy, wel, yn 'fwy' nac eraill), a dawnsio, dyma'r gân yn ymddangos unwaith eto. y tro yma, dyma 'na ferch allai ond ei hadnabod fel 'adore' (roedd wedi'i datwio mewn llythrennau bras o dan ei braich chwith) yn codi o'r llawr a dechre lapio'i chwe troedfedd penddu 'rownd y polyn, mewn dim byd ond pâr o drôns a bresys.
"
Those you came before me
Lived through their vocations
From the past until completion
They'll turn away no more
And I still find it so hard
To say what I need to say
But I'm quite sure you'll tell me
Just how I should feel today"
medde hi. neu dyna be glywes i - rhaid i fi gyfadde nad o'n i'n gwrando'n astud iawn. ro'dd y 'ddawns', ne be bynnag oedd hi, mor uffernol o osgeiddig o'dd hi'n anodd peidio â chanolbwyntio arni. so dyma ni i gyd yn sefyll yno'n dawel a llonydd tan iddi neud ei
dismount. pan adawon ni'r eglwys (mae wedi ei dad-chonsecreiddio. pacha becs, crist-wylwyr), rodd hi'n taro hanner awr 'di chwech ar fore oer sul y pasg. od, o'n i'n meddwl, fod 'na edefyn bach mor catchy 'di'n dilyn ni trwy'r penwythnos hwn yn arbennig. nai gyd.
be bynnag. rhowch
glic fan hyn a dawnsiwch/myfyriwch o gwmpas fel ych chi moyn. bo.
ON:fydde hwn 'di bod yn fwy addas ddoe, ar "ddydd llun": on alas, ma 'nhraethawd hir i'n dechre piclo fy mhen o'r tu allan i fewn, a'r dyddiad cau ar y gorwel.
as if you couldn't tell: un trip south of the river a wy'n troi'n bregethwr hunan gyfiawn...

"Bobbie Nudie, the Original Rhinestone Cowgirl enters Hillbilly Heaven"
Ro'dd Bobbie Nudie, a fu farw'r wythnos ddiwetha', yn rhan o bartneriaeth fwyaf rwtin', twtin' a sbarcli a welwyd ochr yma i'r Grand Ole Opry efo'i gwr, Nudie Cohn:
Nudie's Rodeo Tailors. Roedd y ddau'n gyfrifol am greu campweithiau
countrywessern lliwgar i Elvis, Gram Parsons, Willie Nelson, Flying Burrito Brothers, Ben Harper, ZZ Top (macsimwm parch am hwn), Liberace, Arnold Schwarzennegger ac eraill (y nhw oedd yn gyfrifol am siwt pills, reu a menywod porcyn Gram Parsons. ma llun ohoni yn y linc isod. roc.). Heddwch i'w llwch ffabiwlys.
erthygl 'fo lluniau o siwtiau Gram Parsons, Ben HarperNaked Talent (hen erthygl am Nudie Cohn,
king of bling o'r guardian.)
Hang m High Vintage Western Wear