wel. gan fod y postyn gwreiddiol wedi rhedeg i ffwrdd (roedd e'n llawer yn rhy gymhleth ta beth, a ddim yn gneud sens), nai drio unwaith to:
with a vengeance clarity...
(cliciwch ar '
all sizes' i weld yn iawn!)
Edmygu'r poster
ysblennydd hwn ar wal fy llofft (a'r ffaith fy mod yn ddigon ffortunus fod y perchennog gwreiddiol wedi hen anghofio amdano a'i adael yn fy nhy) o'n i, a dyma hynny'n arwain at rhyw fath o fyfyrdod dwys at 'ôl-gatalog sinematig' John Landis - Coming to America, Trading Places, An American Werewolf in London, fideos
Thriller a
Black or White. Mae hydnoed yn 'The Muppets Take Manhattan' - y ffilm Fwpets orau. Ta beth, ddaru'r trywydd yma bara trwy'r pnawn wedi i fi orffen edrych yn iawn ar y 'trelars' bach ar wefan y
Masters of Horror. Ma John Landis yn un ohonyn nhw, ond ma pob un yn
heavyweight ffilmiau iasoer o fath gwahanol i'r lleill. Tri chyfarwyddwr-ar-ddeg a thair-ffilm-ar-ddeg (sbwci)- rhai'n hollol newydd ac eraill 'di'u seilio ar straeon byrion gan Clive Barker (legend) a H P Lovecraft (brenin). Dyma be ddois i ar ei draws (
feel free i diwnio mas ar unrhyw adeg - jyst 'argymhellion'...)
Er fod yr holl beth yn swnio fel ymarfer egotistig, mae'r pytie ar y wefan uchod yn edrych yn dda ar y cyfan: Ma ffilm John Carpenter yn cael ei ddisgrifio fel 'supernatural Chinatown'. mmm. Un o'r ffilmie eraill sy'n edrych yn ddiddorol 'di '
Homecoming' gan Joe Dante (sydd a'i enw ar y poster 'na hefyd): gyda'r geiriau "
If I had one wish, I would wish for your son to come back", mae arlywydd yr Unol Daleithiau'n deffro meirw byddin y wlad, sydd newydd gyrraedd yn ôl (mewn bocs) o'r rhyfel anghyfreithlon yn Irac. Ciw: milwyr blin di-farw ('
undead'?) yn dial ar y ty gwyn a phobl America. Ffilm zombi 'wleidyddol' arall-er, mae'n annebygol y bydd hi'n curo
Night of the Living Dead am '
downer sosio-wleidyddol' factor.
Beth wneshi ei fwynhau (read: wlychu pans drosto) fwya oedd cyfraniadau Don Coscarelli, Larry Cohen a Lucky McKee (gan nad oes modd gwylio trailer Takeshi Miike yn de). Allai ddim argymell eu gwaith nhw ddigon. Don Coscarelli sy'n gyfrifol am fy hoff gyfres iasoer ERIOED (dwi'n gwybod 'mod i'n dweud hyn yn aml, dwi'n ei feddwl o'r tro yma.), sef
Phantasm. Hanes ymgymerwr aflan a'r enw hynod ddisgrifiadol "The Tall Man" (yr horror-con-arwr,
Angus Scrimm) a'i arch-elyn,
Reggie Bannister, y gwerthwr hufen iâ (mae'n werth ymweld â gwefan Reggie. os jest i weld ei steil gwallt, myn dian i). Pedwar ffilm i gyd, sy'n llawn milwyr bach o ddimensiwn arall, globiwls, menywod sasi efo nunchucks, sipsiwn, rhyw a plant yn rhegi.
Uchod: Angus Scrimm. "Booooooooy..."[Ces i un o'r
rhain ar fy mhenblwydd gan fy nghyn lodjer. presant cochwych!]
Efallai'ch bod chi 'di gweld Bubba Ho-Tep yn barod - Bruce Campbell a'r ymgyrchwr hawliau dynol
Ossie Davis yn ymladd mwmi Eifftaidd wedi'i wisgo fel cowboi tra'n ceisio dianc o'u cartre' hen bobl. Ma Campbell yn credu taw fe yw Elfis, a Davis yn sicr taw fe yw JFK. Eeniwe, Coscarelli sy'n gyfrifol am honno hefyd.
Cyfarwyddwr
May yw Lucky McKee: '
If Tim Burton made slasher movies...' yn ôl yr adolygiad yna - sai cweit yn siwr am y dadansoddiad (fydd fy ffilms i yn edrych fel 'Tim Burton slashers', arhoswch chi...). Mae'n eitha
chick-flickaidd (
chick flick efo lladd a dolis sbwci, dych chi'n deall), a ma Anna Farris (o 'Scary Movie')yn troi lan yn y ffilm fel ysgrifenyddes anifeiliaidd a secsi. Ma'r ffilm 'Sick Girl' am ddwy gariad lesbianaidd a'r pry copyn afiach sy'n torri eu perthynas yn ddarnau. Swnio fel
Brookside.
Thema ffilm Larry Cohen ddaru dynnu fy sylw, cyn i'r enw ddechrau canu cloch ag i fi ddechrau tynnu 'ngwallt yn ceisio dyfalu ble welais i fo o'r blaen.
Showdown rhwng dau gymeriad nid-annhebyg i'r Hitcher oddi ar Mighty Boosh (a merch felynwallt ddiniwed) mewn lori ar ffordd yng nghanol nos ydi
Pick Me Up. Yn ôl
imdb mae Cohen hefyd yn gyfrifol (yn anffodus) am dwrds fel 'Phonebooth' a 'Cellular'. I'w gredit, sgrifennodd e dipyn o bethe i Colwmbo (arwr arall), a mae'n un o grewyr 'Branded' (fel Arthur Digby Sellers yn y Big Lebowski), ac enw ei ffilm cynta' oedd
Dial Rat For Terror. Clasi.. Ond nid dyna pam o'n i'n ei gofio fo - Larry Cohen ysgrifennodd a chyfarwyddodd The Stuff, ffilm arswyd ysgafn yr olwg, dywyll, kitsh ac alegorical am bwdin blasus sy'n eich bwyta chi ('na ni, ma fe am byti '
consumerism'. wel, ddim cweit). Nai ddim sbwylio'r diwedd i chi, ond argymell eich bod chi'n cadw llygad graff amdano fe. Sai'n siwr os oes statws 'cwlt' ganddo - allai ddim ffeindio dim byd tebyg i
fansite neu negesfwrdd - ond mae'n werth chwilota amdano (ac os y dewch chi o hyd iddo, brynai e oddi wrthych chi os nad y'ch chi'n ei licio)...
Uchod: Chwiliwch amdano, dysgwch ganddo! Reit, dyna'r oll o'n i eisio traethu amdano am rwan. Oes rhywun arall 'di dod ar draws rhai o'r rhain? Neu 'di gweld y gyfres ffilmiau - mae hi 'di bod ymlaen yn yr UDA dwi'n credu. oce. wedi blino rwan. 'n ôl i'r
batcave.