
mae 'di bod yn fis, bron, ers i dj scotch egg chwarae yn y portland. y rheswm 'dwi 'di cadw hwn (heblaw am fel homage bach i '
Gross Jar'
vice) yw oherwydd amgylchiadau ei dderbyn: yn ystod y 'pawse taflu party eggs', glaniodd rhwng fy mronnau (gan ffrwydro wy 'parti' dros fy décolletage), bownsio a glanio wedyn yn fy ngwydr coca cola (gwag). os bu erioed arwydd gan dduw/y duwiau fod yr wy hwn yn un arbennig: "hwn", fel ma'r sais yn dweud, "oedd e".
eeniwe - ar hyn o bryd: ma rhyw fath o saim yn datblygu ar waelod y gwydr (adwaith cemegol rhwng coca-cola a breadcrumbs, dwi'n gesio). dim ond mymryn o lwydni sy' 'di datblygu, a hynny ar yr ochr fewnol: allai ddim cadarnhau os taw'r clingffilm sy'n ei gadw fe mor ffres, neu'r ffaith taw scotch eggs yw'r '
cockroach of the snack world', a bod e ddim yn debygol o bydru, byth. chwyddodd y cling ffilm i greu siâp dôm wythnos diwetha', ond nawr mae 'di mynd 'nôl i lawr.
yn gryno: mae'n edrych bach fel gewin troed hen ddyn, wedi'i orchuddio mewn briwsion bara.
DYMA::::
lincs diddorol, fodd bynnag:
i wefan
bad timing, sy'n gyfrifol am rai o'r nosweithie neisha yng nghaer-grawnt (ma na lincs a gismos a blwrbs)
gwefan doddodoac ove naxxww, a germlinoedd i gyd yn chwarae hefyd. o'n nhw ACES, yn enwedig ove naxx a
maruosa (ddim cweit yn saff i'r gwaith, falle, itsi bitsi - ond ma llwyth o lincs diddorol...)
laters!