...(blog di-drywydd braidd ond llawn maeth ta beth)...
'di bod yn rhy brysur i sôn am hwn yn gynharach: o hyn ymlaen, bydd capel y coleg ar gael i bobl o'r un rhyw gael eu uno'n sifil - y capel cynta i dorri/ffeindio ffordd o osgoi gwaharddiad 'mae'r Eglwys yn Lloegr 'di osod ar seremonïau i bobl hoyw. braf gweld fod rhywun ogwmpas y lle ma'n berchen ar fymryn o sens.
Dean considers blessing gay couples in civil partnerships o'r Guardian.
Uchod Co ni'r capel. Wa-WI!
...a co ni'r webcam. mae'n hynod ddiddorol. falle rhyw ddiwrnod welwch chi flob nid annhebyg i fi'n wadlo ar draws y sgrin yn edrych yn cwl. :(
on: re: y 'drafodaeth' dros/yn erbyn '
going cold turkey' ar sianel pedwar (os oes un). yn fyr:
1. o'n i'n meddwl taw joc oedd e
2. wy di cael digon ar a) 'jyncis' = "
character actors" (h.y. pobol hyll)yn edrych braidd yn clami ar
the bill yn gweiddi 'i just wants me stuff!' (gweler hefyd: yr alun yn pobol o pobol y cwm/kurt cobain incident.) a b) pulp fiction yn neud i'r holl beth edrych yn rhy secsi ar y diawl. mae hwn yn "
hard-côr", bach fel heroin.
3. wy di anghofio beth yw tri. a, ie hold on, mae'n neud gwylio'r teli yn Ddewis! -braidd yn bonslyd
oui, ond ti'n gorfod penderfynu os tisio gwylio pobol yn
mynd twrci oer, yn fyw ar y teli, (added bonws: ma'r wali 'na off y newyddion arno fe), neu beidio. wy'n ei chael hi'n anodd ei wylio fe i gyd ond ma'n
amazing.
cwstard lleuaeth:gwobr: rhwbeth oddi ar y ddesg am y briff-syniad-rhaglen-deledu fwya
off-key a gwarthus (rhybudd: fi sy bia "
the big fight live: ogwen vs cothi mudfest II" a "wigwam ogwen" - sioe daith mam-a'i-mab yn astudio hanes llosgach yn nghymunedau mwyaf diddorol cymru. think dai jones meets barbarella.) postiwch eich syniadau isod, neu eu hala at drosywrbos[malwen]gmail[pwynt]com. gwan. nai barsel bach i'r ennillydd. weeei!