dros

12.2.06

 

dawnsio fel deer hunter

chmo, reit ar y dechre, yn y briodas (fy hoff ran). dyna be dwi'n neud ar hyn o bryd. gwyrth fy mod yn medru mwlt-dasgio (blogio a dawnsio fel carw gwyllt) 'de. i egluro: dwi di prynnu gypsy punks gan gogol' bordello o'r diwedd (mae'r dudalen yn chwarae cerddoriaeth gyda llaw).
mae'u prif ganwr, eugene hütz (dyn bywiog yn meddu ar fwstas ysblennydd: yr ukrainotrash gypsy leisure pirate gwreiddiol), 'di bod yn ymddangos dros y lle'n ddiweddar (yn actio alex y cyfieithydd yn everything is illuminated, er enghraifft). mi ddois i ar ei draws o gynta' mewn rhifyn o sweet action (cylchgrawn budur i ferched: y wefan, felly, yn meddu ar botensial noethni - watsiwch mas/drychwch 'mlaen).
ma'r miwsig yn ddigon cwl - fues i'n ddigon lwcus i wastraffu *lot* o amser llynedd yn gwrando ar lawer o gerddoriaeth wreiddiol o'r wcraen, rwsia, masedonia, georgia etc - felly diom yn swnio cweit mor newydd ag o'n i di gobeithio y bydda fo - ceith e dri a thri chwarter mas o bump (y chwarter diwetha' am y teitl 'think locally, fuck globally'. hehe!)

eeniwe: co 'dips dwyreiniol' drosflog

Taraf de Haïdouks - cerddoriaeth werin cwl a phigog 'Falcanaidd' o Fasedonia, Bwlgaria a Twrci.
Zdob si Zdub - band o moldofa. elfennau ska-werin-aidd. ma Sarba de la Chisinau yn dda: ma na ddarn lle ma'n nhw'n mynd "jump jump, everybody jump!" - mae'n grêt.
Leningrad - heavyweights Rwsiaidd - dyma'r cofnod wicipidia - diog dwi'n gwybod, ond mae gwybodaeth yn saesneg am y band yn anodd i'w ffindio (a dyma'u gwefan goiawn nhw. mae yn rwsieg.)


hefyd: fel ychwanegsyn - os dych chi'm yn licio'r gerddoriaeth, cewch i ddarllen rwbeth gan y boi yma. init.



Uchod: Nikolai Gogol' =geniws

(on: sori am grwpio'r gwledydd at ei gilydd fel'ma. free association braidd yn gyffredinol dio marnai ofn.)

reit, wy di blino. cheers. tra.

Comments:
Dw i'n hoff iawn o Gogol Bordello hefyd, ond dw i wedi bod yn rhy diog i prynu eu CD newydd eto. Fy hoff brawddeg o nhw ydy 'dirty old and uselss clown.' Dw i'n teimlo fel hyn yn aml.
 
o diar! 8'oC <- clown yn crïo
 
Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]





<< Home

Archives

04.2005   05.2005   06.2005   07.2005   08.2005   09.2005   10.2005   11.2005   12.2005   01.2006   02.2006   03.2006   04.2006   05.2006   07.2006   08.2006   09.2006   12.2006   03.2007   11.2007   01.2008   02.2008   03.2008   04.2008   07.2008   10.2008  

This page is powered by Blogger. Isn't yours?

Subscribe to Posts [Atom]