Uchod: manylyn o brint 'The Whore of Babylon'. cool. helo! wy 'nôl. o'n i'n mynd i geisio creu blogsyn diddorol a grown-up ar yr
apocalyps gan Albrecht Dürer, sef be dwi di bod yn sbio arno'r wythnos yma (ewch i gael sbec - ma nhw'n gret. iwsiwch y llygoden-chwyddwydr ar y lincs uchod, ddo, i gal llun gwell) ar gyfer fy nghwrs.
yn anffodus, des i ar draws y wefan
hon a dwi di bod yn darllen ers ooesoedd. sai cweit yn siwr beth sy'n mynd ymlaen, ond mae'r adran ar
Dürer a symboliaeth fystig mewn hunan-bortread a
theml solomon ('adeliad' fues i'n ei astudio llynedd fel rhan o 'nghwrs ar Fenis). mae'n mental. ac hefyd yn rhyfedd fod cymaint o'r adeiladau/artistiaid dwi 'di bod yn eu hastudio'n ddiweddar cael eu trafod mewn modd reit fanwl (os hollol wallgo'). falle bod y bois lawr yn y con club yn iawn: mae hanes celf
yn zionist conspiracy. (rwy'n jocian, wrth gwrs. ma pawb yn gwbod taw leonardo 'the code' da vinci a'r seiri rhyddion sydd wrthi.)
linc i gofnod Dürer yn y
Catholic Encyclopedia (nid jest o ran "balans" wyddoch chi: ond am ei bod hi'n bosib treulio aages yn pori drwyddo hefyd. os 'dych chi'n licio'r math yna o beth, ynde.)
eeniwe, gobeithio eich bod chi'n iawn! x x x