




ie, na ni. ymlaciwch. dwi 'n ôl yn saff.
dwi wrthi'n llwytho'n lluniau i flickr ar hyn o bryd. ma tua miliwn ohonyn nhw (mae'n cymryd oesoedd. mor hir, yn wir, nes mod i 'di llwyddo i fennu twb o carte d'or blas pistachio efo llwy de).
er hwylusder aesthetig, dwi am echdynnu'r rhai pert:
wele, 'Fenis Bert', ac hefyd 'di gwneud set eitha manwl (er budd fy adolygu fy hun fwy na dim, nai fod yn onest) efo Lot O Ffeithiau Diddorol (
wele. Fenis Gyffredinol).
dwi'n eitha plêsed efo rhai ohonyn nhw - gymrai ddim credit chwaith: dwim cweit di cael gafael ar y camera newydd, a dwi'n amau fod gan y golau ffantastig/ffantastigrwydd cyffredinol (neu ang-hyffredinol) Fenis rwbeth i'w neud efo'r lluniau neis.
pethau nas 'cipiwyd' gan y camera: klm yn colli fy mag am dri diwrnod; klm yn dychwelyd fy mag wedi tri diwrnod
sans rhai eitemau #:< ; yr oerfel; nifer y cwn bach mewn siacedi (hefyd, dwysder y baw ci ar y strydoedd); David Baddiel, Angus Daeyton, Richard Curtis nac Anneka Rice (oedd yn edrych yn eitha
well preserved a bownslyd); tu fewn i'r Scuola Grande di San Marco; hen bobl yn rasio
gondole i lawr y Grand Canal yn gwisgo hetiau gwyn efo pom-poms oren (damia'r batri!); Scuola Grande di San Giovanni Evangelista (flickr yn pallu efo'r rhain); sgiliau troi cornel y
gondolieri; y dyn chwarae liwt oedd yn fy nilyn (wyth lleoliad gwahanol mewn tri diwrnod? yn chwarae'r un darn? coinsidens i think not...
ta beth. blwyddyn newydd dda.