HALELIWIA! yma (<----), yn ei holl ogoniant, y mae'r rhestr fer gwobr "Bad Sex in Fiction" y guardian. dwi'n trio ngorau i feddwl am rywbeth i'w ddweud amdanyn nhw, ond allai ddim trosglwyddo'r golwg ar fy ngwyneb mewn geiriau. rhywbeth fel hyn falle:

dwi'n trio meddwl am 'gontendwyr' cymraeg. off top fy mhen (ac o'm llyfrgell bitw):
ma 'na un yn 'smôc gron bach' sy' di aros efo fi ers pan yn blentyn ifanc (mewn ffordd wael)
un nos ola' leuad (yn sicir: '"fel hyn" medda hi, "fel hyn" medda fi' etc. anodd peidio ei ddychmygu 'ar y job' tra'n gwisgo helmet feic)
y twr (un arall o'r 'fel hyn, fel ymas' os dwi'n cofio'n iawn. oes patrwm ysgwn i? falle bo fi di ffeindio 'nhestun m.a. hwre!)
aa shit, 'cof yn pallu': fydd raid i fi edrych am ragor pan ai adre at fy llyfrau. unrhyw gynigion yn y cyfamser ddo?