dros

18.12.05

 

hei hei!

wel. nodyn "sownd o gaergrawnt" gen i, ar ol cwpwl o ddiwrnodau U-ma-Ffernol (cerdiau banc wedi'u dwyn; PMT [wedi manejio, or diwedd i "syncroneiddio" hefo un o fy ffrindiau agos. diolch i dduw nid tomboi o'r 80au llwyr mohonof! wahei! sai'n gweud sori am ormod o wybodaeth. vagina! vagina! {mae wastad yn waeth efo'r 'f' gymraeg, dwi'n credu, ond dal. dyma linc i'r 'proper name song'. dysgwch wers ddoniol. hefyd, mae'n debyg, yn ol y wefan, mae'r gan: "... originally appeared in the 1984 video 'Strong Kids, Safe Kids': starring Henry Winkler." WAWI.}]) (lot o fracets, sori.). ond ie. mae'n debyg y gallai'm 'casio' fy siec ddiweddara' am fywydfodelio (wedi meddwl am air gwell, methu. hefyd di trio sgrifennu post am y profiad. ond doedd o'n dweud dim ond DWI'N SEFYLLIAN OGWMPAS YN BORCYN AM BRES WAHEEEEI!) o.n. ddo: dwlsi, paid rhoi'r gore, ti'n neud 'progrés'. dwi di gweld pethe od a chrap yn fy 'ngharîr' fel model. dal ati, cans nid weirdo perv mohonot! (a ma'r llunie'n edrych yn neis! [/llyfu tîn]). so ie, does gan fy 'mos' ddim pres i fy nhalu. --> ergo, sori snakkso a'r teulu: presantau cachu gewch chi leni... (i.e. nid un o'r rhain i neb. er. os oes neb isie prynnu unrhywbeth i fi o fanhyn, crïo fyddai DRWY DDYDD DOLIG Y BASDADS).

eeeeniwe. fyddai 'nôl i aber ddydd mawrth. well i chi drefnu parti.

ps: weles i beth am hwn ar y teli byti mis yn ôl (y linc drwy boingboing?. mae cousteau jnr di gneud gwisg siarc iddo'i hun. biti ei fod yn mynd yn sownd unwaith iddo hitio gwaelod y mor. bossa nova bowie does not play in hell...

Comments: Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]





<< Home

Archives

04.2005   05.2005   06.2005   07.2005   08.2005   09.2005   10.2005   11.2005   12.2005   01.2006   02.2006   03.2006   04.2006   05.2006   07.2006   08.2006   09.2006   12.2006   03.2007   11.2007   01.2008   02.2008   03.2008   04.2008   07.2008   10.2008  

This page is powered by Blogger. Isn't yours?

Subscribe to Posts [Atom]