dros

31.12.05

 

adolygiad cyffredinol #1 mewn cyfres sboradig: "danniella westbrook's better body workout"

reit. i ddechrau: gobeithio y cawsoch chi i gyd amser ffestiv dros yr wythnos ddiwethaf.

yr unig reswm yr es i ifewn i woolworth's ddoe oedd i twm gael prynnu losin "pic and mix" (roedd e di bod yn meddwl am y peth drwy'r dydd, mae'n debyg. 'kids' style', nid y lleill [sy'n haws eu dwyn i fwyta mas o'r siop. mae'r rhai plant yn well ar gyfer bwyta stealth-style mas o'r bag tra'n gwylio'r fideo JML invisible bra yng nghefn y siop]. ) ->hir stori byr, leic: brynnes i, mewn fflach o self-esteem isel iawn, fag mawr o "pic and mix" (2.40£) a "danniella westbrooks better body workout" (1.99£).



Uchod: Co Fe Y Fideo

Er bod ei golwg hi ar y clawr yn ymddangos braidd yn insincere a slightly mocking, roedd addewid y blwrb o "fun and effective workout set to upbeat '80's style music" a'r pris isel (llai na bag o swîts cofiwch) yn ddigon. roedd presenoldeb amlwg loncwisgiau felw^r a'r gor-ddefnydd o ebychnodau hefyd yn apelio, nai ddim gweud celwydd.



Uchod: Fi Yn Pwmpio Haearn Yn Y Garej

Yn yr un segment o'r fideo lle nad yw 'Dan' (enw DYN tro diwethaf i fi "jecio") yn ymddangos yn rhy spangled i siarad, mae pwyslais y sgript ar helpu mamau prysur (neu rhai paranoid sy ond yn siarad â'u dealer a hynny trwy'r blwch post): "Hi, I'm Danniella and being a mum means my time is precious" ag ati. nath hyn i fi deimlo'n anhyfforddus - fy obsesiwn dwys efo diagnosis mwrdwr a dos ysgafn o narcolepsi yw'r unig bethau sy'n fy stopio rhag ymarfer fy nghorff, nid plant. eeniwe, ma'r teimlad ("feib" bydden i'n ei alw fe) epil-newydd-anedig-post-partum-pen-ol-sagi wedi'i bwysleisio gan bresenoldeb y trw^p "loncddawnsio" sy'n pwmpio yn y cefndir mewn ffordd braidd yn shambolic a ever-so-slightly fflabi. Hefyd, caiff y thema ei ddatblygu gan or-ddefnydd o'r cyhyrau 'pelfig-lawr' ac o'r gair 'buttocks' yn ystod y tâp.

Siom oedd y diffyg "banter" gan Danniella, a ro'n i'n teimlo'n gywilyddus braidd (nid yn unig oherwydd fy sefyllfa gyffredinol) o'i gweld hi'n piffian-chwerthin ar y camera a hanner-gweiddi "It 'urts my legs" bod 10-15 munud. Teimlad tebyg (cymysgedd o regret, curiosity, shame, anallu i fynd i edrych yn y geiriadur am equivalents cymraeg) i pan ti'n rhoi pres i drempyn ti'n sicir sy'n mynd i fynd a gwario fe ar smac yn lle latte a bran-fwffin. Yn siarad ar ei rhan oedd ANNA DANIELS, rhyw fath o unholy hybrid rhwng Shan Cothi (gwallt, hubris) a Marjorie Dawes (casineb cyffredinol). Dyw'r ymarferion ddim yn rhy anodd - pedair rwtîn sy'n cymysgu bownsio 80aidd efo pseudo-self-defence. ww. ar y pwynt 'na: siom arall y fideo yw'r 'upbeat 80s style music'. cerddoriaeth yn y steil 'lifftborn' [think dating channel] yw e.

allai riportio, ar ol 75 munud o ymarfer (gan gynnwys twymo lan a cwlio lawr) bod yr ysfa i fwyta "pic and mix" wedi codi tua 15%, a bod y lefel o stiffrwydd corfforol di aros yn slei o isel am 12 awr - cyn ymddangos a chryfhau y diwrnod wedyn nes bo fi'n methu symud lot ar fy nghluniau (hence pam fethes i fynd i amddiffyn fy nheitl 'torddawnsiwr poethaf bro'r tincer' heddiw).

Mas o ddeg? 5 am y rwtîn, 7 am ddiffyg diddordeb amlwg Ms Westbrook. 5.5 am neud i fi deimlo'n stiff (achos amlwg o or-fotifeiddio yn ystod yr ymarferion cicio). so, mas o drideg a wedi rhannu efo tri (aka deg): 5.833333333 (recurring)

eeniwe, chi'n cal y jist. sori am neud gormod o jocs am drug addicts. dyw e ddim yn ffyni, gais. "say no go", a ballu, ynte.

Comments:
fi'n edrych ar ôl fy hun, be allai weud...
 
Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]





<< Home

Archives

04.2005   05.2005   06.2005   07.2005   08.2005   09.2005   10.2005   11.2005   12.2005   01.2006   02.2006   03.2006   04.2006   05.2006   07.2006   08.2006   09.2006   12.2006   03.2007   11.2007   01.2008   02.2008   03.2008   04.2008   07.2008   10.2008  

This page is powered by Blogger. Isn't yours?

Subscribe to Posts [Atom]