dros
31.12.05
adolygiad cyffredinol #1 mewn cyfres sboradig: "danniella westbrook's better body workout"
reit. i ddechrau: gobeithio y cawsoch chi i gyd amser ffestiv dros yr wythnos ddiwethaf.
yr unig reswm yr es i ifewn i woolworth's ddoe oedd i twm gael prynnu losin "pic and mix" (roedd e di bod yn meddwl am y peth drwy'r dydd, mae'n debyg. 'kids' style', nid y lleill [sy'n haws eu dwyn i fwyta mas o'r siop. mae'r rhai plant yn well ar gyfer bwyta stealth-style mas o'r bag tra'n gwylio'r fideo JML invisible bra yng nghefn y siop]. ) ->hir stori byr, leic: brynnes i, mewn fflach o self-esteem isel iawn, fag mawr o "pic and mix" (2.40£) a "danniella westbrooks better body workout" (1.99£).
Uchod: Co Fe Y FideoEr bod ei golwg hi ar y clawr yn ymddangos braidd yn insincere a slightly mocking, roedd addewid y blwrb o "
fun and effective workout set to upbeat '80's style music" a'r pris isel (llai na bag o swîts cofiwch) yn ddigon. roedd presenoldeb amlwg loncwisgiau felw^r a'r gor-ddefnydd o ebychnodau hefyd yn apelio, nai ddim gweud celwydd.
Uchod: Fi Yn Pwmpio Haearn Yn Y GarejYn yr un segment o'r fideo lle nad yw 'Dan' (enw DYN tro diwethaf i fi "jecio") yn ymddangos yn rhy spangled i siarad, mae pwyslais y sgript ar helpu mamau prysur (neu rhai paranoid sy ond yn siarad â'u dealer a hynny trwy'r blwch post): "
Hi, I'm Danniella and being a mum means my time is precious" ag ati. nath hyn i fi deimlo'n anhyfforddus - fy obsesiwn dwys efo
diagnosis mwrdwr a dos ysgafn o narcolepsi yw'r unig bethau sy'n fy stopio rhag ymarfer fy nghorff, nid plant. eeniwe, ma'r teimlad ("feib" bydden i'n ei alw fe) epil-newydd-anedig-post-partum-pen-ol-sagi wedi'i bwysleisio gan bresenoldeb y trw^p "loncddawnsio" sy'n pwmpio yn y cefndir mewn ffordd braidd yn shambolic a ever-so-slightly fflabi. Hefyd, caiff y thema ei ddatblygu gan or-ddefnydd o'r cyhyrau 'pelfig-lawr' ac o'r gair '
buttocks' yn ystod y tâp.
Siom oedd y diffyg "banter" gan Danniella, a ro'n i'n teimlo'n gywilyddus braidd (nid yn unig oherwydd fy sefyllfa gyffredinol) o'i gweld hi'n piffian-chwerthin ar y camera a hanner-gweiddi "
It 'urts my legs" bod 10-15 munud. Teimlad tebyg (cymysgedd o regret, curiosity, shame, anallu i fynd i edrych yn y geiriadur am equivalents cymraeg) i pan ti'n rhoi pres i drempyn ti'n sicir sy'n mynd i fynd a gwario fe ar smac yn lle latte a bran-fwffin. Yn siarad ar ei rhan oedd ANNA DANIELS, rhyw fath o unholy hybrid rhwng Shan Cothi (gwallt, hubris) a Marjorie Dawes (casineb cyffredinol). Dyw'r ymarferion ddim yn rhy anodd - pedair rwtîn sy'n cymysgu bownsio 80aidd efo pseudo-self-defence. ww. ar y pwynt 'na: siom arall y fideo yw'r '
upbeat 80s style music'. cerddoriaeth yn y steil 'lifftborn' [think dating channel] yw e.
allai riportio, ar ol 75 munud o ymarfer (gan gynnwys twymo lan a cwlio lawr) bod yr ysfa i fwyta "pic and mix" wedi codi tua 15%, a bod y lefel o stiffrwydd corfforol di aros yn slei o isel am 12 awr - cyn ymddangos a chryfhau y diwrnod wedyn nes bo fi'n methu symud lot ar fy nghluniau (hence pam fethes i fynd i amddiffyn fy nheitl 'torddawnsiwr poethaf bro'r tincer' heddiw).
Mas o ddeg? 5 am y rwtîn, 7 am ddiffyg diddordeb amlwg Ms Westbrook. 5.5 am neud i fi deimlo'n stiff (achos amlwg o or-fotifeiddio yn ystod yr ymarferion cicio). so, mas o drideg a wedi rhannu efo tri (aka deg): 5.833333333 (recurring)eeniwe, chi'n cal y jist. sori am neud gormod o jocs am drug addicts. dyw e ddim yn ffyni, gais. "say no go", a ballu, ynte.
26.12.05
<<<<<<<<<
19.12.05
Ww, crap(ten)
gan nad ydwi fyth yn meddwl yn drylwyr am y pethe 'ma...
dwi off 'n ôl adre ben bore fory, heb fy mheiriant gwneud cds (aka y cyfrifiadur) na fy ngherddoriaeth. FELLY: ebostiwch heddiw i dderbyn CD nadoligaidd erbyn y flwyddyn newydd, neu ar ôl heddiw i gael CD ionawrllyd erbyn dechrau mis chwefror...
*clang*
18.12.05
wwwwww, gan fy mod i'n teimlo'n gleeeeen...
dwi am gynnig presant sbesial i ddarllenw(y)r hwn myn'yn y blogwish. (potsiais y syniad 'ddiar
nic): oes rhywun isie CD nadoligaidd (nid "...ei naws" ond CD efo celyn ar y ffrynt, ella...)? halwch neges i drosywrbos(malwen)gmail(pwynt)com a gewch chi sypreis. dwi di gneud llun bach cwl i fynd efo'r post ond mae'n gwrthod gweithio "Dolig Llawen!" oedd y gist...
gem
treat llwyr i bwy bynnag allith gesio: sawl can o gwrw ges i cyn sgrifennu'r post diwetha? ystyriwch fod FFEINALS strictly come mincing, x-ffactor AAA nightmare 2: freddy's revenge [un o fy hoff sequels. pump {'the dream child} yw'r gore] di bod ar y teli, a bod hynny'n achlysur i "ddathlu" os welais i un erioed (gallwch ystyried steil, cystrawen, gor-ddefnydd o'r gair 'vagina' ag ati i ddod at benderfyniad...)
hefyd, peidiwch ag anghofio am Mei Xiang! mae'r
pandacam yn dal i weithio a mae'n tyfu! y panda id y camera. (OMG mae newydd disian yn ciwt trwy'r spicers. mae fel bod yn sownd mewn caets efo panda GO IAWN!!! OMG!!)
hei hei!
wel. nodyn "sownd o gaergrawnt" gen i, ar ol cwpwl o ddiwrnodau U-ma-Ffernol (cerdiau banc wedi'u dwyn; PMT [wedi manejio, or diwedd i "syncroneiddio" hefo un o fy ffrindiau agos. diolch i dduw nid tomboi o'r 80au llwyr mohonof! wahei! sai'n gweud sori am ormod o wybodaeth. vagina! vagina! {mae wastad yn waeth efo'r 'f' gymraeg, dwi'n credu, ond dal. dyma linc i'r 'proper name song'.
dysgwch wers ddoniol. hefyd, mae'n debyg, yn ol y wefan, mae'r gan: "
... originally appeared in the 1984 video 'Strong Kids, Safe Kids': starring Henry Winkler." WAWI.}]) (lot o fracets, sori.). ond ie. mae'n debyg y gallai'm 'casio' fy siec ddiweddara' am fywydfodelio (wedi meddwl am air gwell, methu. hefyd di trio sgrifennu post am y profiad. ond doedd o'n dweud dim ond DWI'N SEFYLLIAN OGWMPAS YN BORCYN AM BRES WAHEEEEI!) o.n. ddo:
dwlsi, paid rhoi'r gore, ti'n neud 'progrés'. dwi di gweld pethe od a chrap yn fy 'ngharîr' fel model. dal ati, cans nid weirdo perv mohonot! (a ma'r llunie'n edrych yn neis! [/llyfu tîn]). so ie, does gan fy 'mos' ddim pres i fy nhalu. --> ergo, sori
snakkso a'r teulu: presantau cachu gewch chi leni... (i.e. nid un o'r
rhain i neb. er. os oes neb isie prynnu unrhywbeth i fi o
fanhyn, crïo fyddai DRWY DDYDD DOLIG Y BASDADS).
eeeeniwe. fyddai 'nôl i aber ddydd mawrth. well i chi drefnu parti.
ps: weles i beth am
hwn ar y teli byti mis yn ôl (y linc drwy
boingboing?. mae cousteau jnr di gneud gwisg siarc iddo'i hun. biti ei fod yn mynd yn sownd unwaith iddo hitio gwaelod y mor.
bossa nova bowie does not play in hell...
11.12.05
pishin, pishin...
HALELIWIA! yma (<----), yn ei holl ogoniant, y mae'r rhestr fer gwobr "Bad Sex in Fiction" y guardian. dwi'n trio ngorau i feddwl am rywbeth i'w ddweud amdanyn nhw, ond allai ddim trosglwyddo'r golwg ar fy ngwyneb mewn geiriau. rhywbeth fel hyn falle:

dwi'n trio meddwl am 'gontendwyr' cymraeg. off top fy mhen (ac o'm llyfrgell bitw):
ma 'na un yn 'smôc gron bach' sy' di aros efo fi ers pan yn blentyn ifanc (mewn ffordd wael)
un nos ola' leuad (yn sicir: '"fel hyn" medda hi, "fel hyn" medda fi' etc. anodd peidio ei ddychmygu 'ar y job' tra'n gwisgo helmet feic)
y twr (un arall o'r 'fel hyn, fel ymas' os dwi'n cofio'n iawn. oes patrwm ysgwn i? falle bo fi di ffeindio 'nhestun m.a. hwre!)
aa shit, 'cof yn pallu': fydd raid i fi edrych am ragor pan ai adre at fy llyfrau. unrhyw gynigion yn y cyfamser ddo?
9.12.05
ww, ac un peth arall
ar y thema "pethe sy'n edrych yn cwl ond sai'n gallu cweit cal nhw i weithio ar fy nghompiwtar":
ffeindies i
hwn ar
boingboing. ma'n edrych yn bruluant!
cyn i fi anghofio
co fe! o'r diwedd!.
ie, na ni, y 'trelar' ar gyfer x-men 3! yn anffodus (ac mae hyn yn peri tipyn o dristwch i fi), allai ddim o'i wylio fe ar fy nghyfrifiadur. ac felly, i'r rhai ohonoch, sydd, fel fi, dal 'yn y tywyllwch' ond yn eithriadol o ecseited, dwi wedi creu 'dynwarediad artist' o kelsey grammer (a.k.a. 'Beast') a gweddill y cast:
ecco
helo! ydi mae hi wedi bod yn dawel yn ddiweddar. tymor di bennu rwan, a mae gen i ragor o amser i'w wastraffu. byddai'n dechrau postio (yn ddyddiol. na ni, co fe, du ar wyn, dwi'n addo. am sbel o leia) eto nawr. in other news: ma te'n barod. laterzzzzzz xxxxxxx
Archives
04.2005
05.2005
06.2005
07.2005
08.2005
09.2005
10.2005
11.2005
12.2005
01.2006
02.2006
03.2006
04.2006
05.2006
07.2006
08.2006
09.2006
12.2006
03.2007
11.2007
01.2008
02.2008
03.2008
04.2008
07.2008
10.2008

Subscribe to Posts [Atom]