dwi dal yn fyw rhag ofn eich bod chi'n poeni. wedi bod yn sownd yn fy sedd-ffenest o flaen fy ngoeden rhosod, yn edrych allan dros y parc a'r eglwys gatholig ac yn darllen am Venis ers, wel, darllenwch ddyddiad y post diwetha. mis? yndi, dwi'n gwbod, mae'n swnio'n fywyd caled iawn. dwi di arfer bron efo byw mewn atig (mae'r gegin ar y llawr cynta'. 'di rhedeg yn ol reit i fyny i dop y ty i nol halen ddim yn hwyl. na cario bwyd poeth i fyny i'w fwyta, mewn steil manuel *slap ar y pen*). mae hwyl eitha trist ar y dre ar hyn o bryd - pobol yn gwahanu, symud i ffwrdd, wedi blino &c - 'lly mae mywyd cymdeithasol i'n reit ddistaw. eitha peth rili, mae gen i LWYTH o waith i'w wneud. hydnoed os ydi o'n hanesu celf.
eniwe, blog go iawn nesmlaen. traethawd ar ffurf bensaernïol y
funduq (neu
fondaco) yn aros. waaaaay!