
"tu fewn i'r sgip mae gardd..."

"tu ol i'r ardd mae contrapsiwn mewn warws..."

"i mewn a'r llysiau i'r ffedog-dwndis..."

"bloody marys i bawb! hwreeeee!"
manon awst, simon fujiwara a sam causer aka
pankof bank (gwefan yn cael ei hadeiladu...) yn lawnsio eu rhan nhw ym mhrosiect
deptford x, sef gwyl, wel, am/yn deptford. maen nhw di agor supper-market: cegin gawl a gardd fach tu allan. bob nos mi fyddan nhw'n gwahodd chwe pherson lleol i goginio a bwyta gyda'i gilydd, iddyn nhw gael dod i adnabod ei gilydd a mwynhau disgled o gawl yn ffresh o'r sgip. mmmm.
teimlo cariad llundain ar hyn o bryd (criddle, ti rong) - es i adre via tavistock square ("
happy-birthday-vicky-though-i-set-your-hair-on-fiiiire". nace fi nath, 'da llaw), 4 siop gebab (ar gau. ar edgware road, cnewyllyn snaciau canol nos. rioed di digwydd o'r blaen...), siop ganol-nos-gwerthu-ffrwythau-tropigal a maida vale (i fwyta ffrwythau a gwrando ar jefferson airplane).
such a stereotyp-ah, fel bydde'r mocni gwreiddiol, damon albarn yn gweud...