dros

16.9.05

 

www, www, testun... [gol: sori fod hwn yn fawr. allai ddim cael gweddill y paragraffau i ddiflannu i 'darllen mwy!' teip-o-beth...]



wel, unwaith eto, fel juliette brioche (hehe) yn chocolat, dwi'n clywed y gwynt yn sisial ac yn fy ngalw i ffwrdd i lecyn mwy tropigal (... "lle mae'r haul yn gaws, a pheint dros 2.75£ (heblaw yn wetherspoon's, sy'n digwydd bod yn un o wetherspoon's mwyaf a mwyaf swnllyd y wlad sy jest dros y ffordd i le ti'n byw), ac y byddi'n rhannu cegin efo iddewes (neis iawn cofiwch) über-kosher ac angeuol-allergic i bob grwp bwyd sy ddim yn gneud duw yn flin..."), a dwi wedi hel fy mhac. mi fydda i (sans cês bach lledr dinci, wedi'i etifeddu gan hen anti fohemaidd oedd yn arfer dawnsio'n noeth ar strydoedd istanbul am bres, sy'n dal "bob dim sy'n bwysig i fi, ie?": ond yn hytrach ces mawr, rhych-sach enfawr a'r enwog 'fag-moses-yn-yr-hesg') yn mynd, yn fy nghlogyn bach piws, yn ôl i gaer-grawnt yn gynnar bore fory. geith hanesion yr haf aros felly. er, dwi'n siwr mai'r point ydi i sgrifennu am y peth fel-ma'n-digwydd, ddigwyddodd dipyn leni (dim byd serious, cofiwch, jest digon o bethe i gadw fi off y strydoedd.). waeth heb i fi sôn 'chydig, te, gan fod y teulu (och! gwae! fyddai'n colli hyn! :). yn enwedig y gath, cadi, a fu farw ddydd mawrth :'''() yn dal i ddadlau am 'bwy sy' ar fai fod wing mirror ochor dreifar wedi torri' a bod anchorman rwan di bod ar pause ers oleia tri chwarter awr tra bod y mater yn cael ei archwilio'n drylwyr...

dwi dal ddim yn siwr iawn pam yr es i i'r swisdir - ansicrach fyth o be' yn union dwi i fod i'w wneud efo'r profiad. teimlo felly dwi (h.y. y dylai fod 'na bwrpas i'r trip. wiw i fi ei alw fo'n wyliau, mae'n debyg) am fod Swiss Tourism wedi talu am bob dim, ac mai hwn oedd fy 'press trip' cynta fi. a bod gen i erthygl i'w sgrifennu. like, yesterday. derbyn ebost brys trwy ffrind wnes i, yn gofyn am newyddiadurwr i ddod gyda CSIF (y Cambridge Sexual Identity Forum. pediwch boddran gwglo, 'dyn nhw ddim yn bodoli. rhagor am hynna wedyn...) i 'To Break Taboos', sef cynhadledd flynyddol i ieuenctid hoyw ewrop. "they want a gay journalist. you're good at pretending to be both, and you could do with a holiday." oedd y neges ar waelod yr ebost. chwe mis yn ddiweddarach, do'n i ddim callach 'blaw fod gen i docyn awyren ("o luton, nid stansted, doofus...") i zürich.

yn lwcus i fi (am resymau 'ymchwil', wrth gwrs, a dim i wneud efo'r ffaith 'mod i'n poeni nad oeddwn i 'rioed 'di gweld fy mhen fy hun o'r blaen...), nes i siafio 'mhen cyn mynd. (verdict: 'angry parisian graffiti artist from the eighties', 'morrissey' a 'quite lezzy, actually...'). gweithiodd fel 'torrwr-ia' ardderchog: pan ges i 'nghyflwyno fel 'the straight one from england' unwaith i ni gyrraedd, allan mewn gerddi comiwnal mewn suburb o zürich, dyma pawb yn piso chwerthin. 'but your hair! what were you thinking baby?'... dechrau da, felly. ro'n i'n rhannu atic fechan efo gweddill CSIF, ac 'Outsite' (sef grwp o'r iseldiroedd), tan i'r gynhadledd ei hun gychwyn yn lietchenstein. roedd 14 ohonom ni i gyd. roedd hi'n reit dynn ac yn boeth iawn iawn, a dwi am fynd i'r gwely rwan-mwy wedyn te. mae gen i drên i'w ddal!
laters...

Comments:
This comment has been removed by a blog administrator.
 
Dwisho mwy a mwy a mwy aaaa mwwwwwy!
 
Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]





<< Home

Archives

04.2005   05.2005   06.2005   07.2005   08.2005   09.2005   10.2005   11.2005   12.2005   01.2006   02.2006   03.2006   04.2006   05.2006   07.2006   08.2006   09.2006   12.2006   03.2007   11.2007   01.2008   02.2008   03.2008   04.2008   07.2008   10.2008  

This page is powered by Blogger. Isn't yours?

Subscribe to Posts [Atom]