dwi'n gweithio yn y ffatri joclet (*myyy*) yn nhywyn. lot. yn pacio granola bars o bob math. mae'n iawn, dwi wedi bod eisio gweithio hefo conveyor belts ers pan yn lodes ifanc. eeeniwe, point yw, os nad ydwi'n cysgu, dwi'n pacio ffwj (hehe! ddim really! toffi a pecan ddoe!) - felly mae'r
overhaul (sut mae gwneud hynny, gyda llaw?) a'r wpddet arfaethedig yn mynd i fod 'chydig to. yn y cyfamser, cadwch yn saff. a phob tro y byddwch chi'n 'tycio' mewn i far grawnfwyd braster isel yn yr wythnos nesa, gobeithiaf y bydd deigryn o lawennydd yn powlio i lawr eich boch, ddarllennydd, mewn diolchgarwch am yr holl waith caled dwi'n neud i'w cael nhw i *mewn* i'r mwltipac, ac yna'r mwltibaciau i mewn i'r bocsys, ag ati ag ati. fel 'tu ol i'r dorth...' rili. ond allai sicrhau fy mod i'n edrych yn eitha ciwt yn fy iwnifform, a ddim yn dorthaidd o gwbwl. heddwch allan!