dwi ddim yn ffan mawr o sex and the city...
(fues i'n ddigon anffodus i ddod o hyd i'r llyfr cyn y gyfres deledu [*codi handbag chwaethus*] - fel pmt... "on kittens!". y math o
rwtsh-a-lol-botes-maip 'di sgrifennu gan "whores-in-denial" (rhai sy'n pregethu am ryddid-drwy-rywioldeb fel esgus i droi lan i bartis ffansi dress fel 'sexy sargeant', 'sexy angel' neu 'sexy rabbit' a siarad yn uchel iawn am eu
bwni-crynnu (nesi feddwl am hwnna fy hun! weei!) dros swper. eeniwe, rant "hanner-pob" arall ellith aros. yn y cyfamser, ac i brofi fy mhwynt, rwy am dynnu'ch sylw at
fy llun flickr mwya poblogaidd. ;))
...ond tase gen i 40,412.00$ yn sbar, dwi'n gwbod be fyse'n neud efo fe heno:
"Charlotte's Vagina"(trwy
gawker)
os di hynna'n rhy ddi chwaeth, neu sili, i chi, allai argymell:
ahm, llawlyfr (hoho!) 'sensiwal' (rhaid ynganu hwn fel siân lloyd, bob tro) Kim Cattrall (weles i gopi o hwn yn Bookworld Caer-grawnt. gwaith pastels gwych), neu "
arogldarth bersonol"
Sarah Jessica Parker. "Lovely".