mae di cymryd tua deufis o galimafantio, ond dwi di cyrraedd aberystwyth!
ro'dd y trip i'r swisdir yn od, od, od: ond i gyd am ddim ac yn eithriadol o chwaethus (diolch swiss tourism!), so dwi ddim am gwyno gormod (nesi ddigon o hynny odan fy ngwynt pan o'n i yno). roedd y gynhadledd hoyw ei hun yn reit ddoniol/ddiddorol: tua saith deg o bobol o wahanol wledydd ewropeaidd yn trafod, dadlau a swopio
bodily fluids mewn hostel ieuenctid yn Schaan, Lietchenstein (dychmygwch sir Feirionnydd ar steroids). ro'n i'n teithio gyda'r trwp newyddiadurwyr (bron pob un ohonyn nhw'n meddu ar hydnoed llai o gredensials newyddiadurol na fi. so trwp o
freeloaders, wir.) - eitha clawstroffobig (ych) ac, ar adegau, braidd yn trawmatic.
nai'm rhoi'r hanes rwan (dwi'n ffeindio blogio bach yn llafurus ar hyn o bryd - dwi di dechre llwyth o bostiau, ond yn ffaelu'u gorffen nhw ac wedyn yn anghofio gwneud. rhaid chwynnu'r lincs ar yr sidebar hefyd. mmyyyyyy) - gwell postio mewn darnau bach. ta beth, mwy nesmlaen/fory/drennydd/dradwy...