yo. mae pawb wedi graddio, ac y prysur adael caer-grawnt. dwi wedi penderfynu aros i fyny yma am gwpwl o wythnosau ella, i wneud fy ffortiwn. symud ty yfory, efallai, ac yn dechrau swydd fach newydd
yma, hefyd. dwi di bod yno'r rhan fwyaf o'r wythnos yn gosod arddangosfa brintiau (cymysgedd o waith budur mewn oferals, gwisgo menyg bach gwyn a defnyddio drils mawr o wahanol fathau [maniwal ac awtomatig].) - ceisio cadw o ffordd y dathliadau graddio, falle, gan fod bron pawb o mlwyddyn i'n gadael am byth bythoedd a finne'n neud blwyddyn arall ar ol hon (aeth yr arholiadau'n iawn, sbo, gyda llaw. fenis a dürer flwyddyn nesa. boring ond dwi'n gobeithio gneud traethawd hir ar bwnc secsi. dwi am feddwl am y peth.). unrhywbeth arall? wel, dwi di cael gig bach fel hostess mewn parti i
bobol hyfryd trepan records yn llundain fel 'the matron'. syniad gus (aka carnival of souls) oedd y persona, a dwi'n gobeithio sianelu hatty jacques, judy garland a rhywfath o fadam whiplash, a gwisgo lot o golur. mae bod yn nightclub hostess hen ffasiwn, secsi a blin yn un o fy mreuddwydion mwyaf sili a hyfryd. gobeithio y gai mwy o waith ganddyn nhw. hefyd am bopio i lawr i sussex am gwpwl o ddyddiau i lolian a cherdded caeau mewn cwpwl o ddyddiau falle. a mynd a mam rownd robert sayle nesmlaen yr wythnos 'ma (a dad a'r snacsyn rownd yr amgueddfa werin). a trefnu'r swisdir. mae'n rhaid cofio gwneud hynny.
damia. dwi'n brysur yn maxi-ffaffian, dyna ydi'r neges. yn y cyfamser, ewch i weld
body of mortal sin ar moblog (eitha saff i'r gwaith, dwi'n credu - ond rawnchi). falle byddwch chi'n nabod y ffotograffydd ;) (cyn belled bo chi ddim yn meddwl mai dyn yw e, y basdards).
iawn te, digon o fwydro. ffon yn canu.