so. gan fy mod i wedi llwyddo i dorri bron pob un o fy habits cyfrifiadurol (heblaw ebay, a'r peth arall) wrth dynnu'r plwg ar y cysylltiad 'LAN' am dair wythnos, a 'mod i'n teimlo'n hungover ar gwsg,
eto (ydw, dwi'n gwybod ei bod hi'n amser te. nesi fethu cysgu tan bump. oce, pan dwi'n deud 'methu cysgu', dwi
actually'n golygu ydi 'gwglo patrick mcgoohan yn drylwyr a darllen pob un rhifyn o spiderman sy' gen i'.), mae'n anodd gwybod be' i flogio amdano (heblaw patrick mcgoohan, sydd nawr reit ar dop y rhestr yn fy good books, uwchben
george foreman,
joan rivers a falle hydnoed y
brodyr 'hynci' wilson).
dwi bant i'r swisdir i'r gynhadledd-hoyw-enfawr ddiwedd yr wythnos, ar ol bod yn teithio rownd llundain a'r de-ddwyrain am bythefnos bron ("hel tai!"), mae'n siwr y medrai flogio rhyw 'chydig am hynna nesmlaen. eniwe. fydden i oleia'n rhoi linc diddorol i roi pwynt i'r post 'ma, ond dwi heb fod ar y we ers sbel...
six of one