gair i fyny. sut mae'n mynd? blogsyn bach
self-indulgent ar fy rhan i - y cof yn dechrau pallu, a dau arholiad gen i ddydd mercher. *sgreechian fel merch* ag ati.
[saib byr wrth i fi gerdded rownd y lawnt/cae/maes (nid
dros y lawnt/cae/maes. chwip din fyswn i'n gael am hynny) i nôl can o sodapop o'r peiriant. ydy mae'n hwyr, ond pop fizzi yw un o fy hoff bethau yn y byd, a dwi'n *dysgu* pethau *pwysig*, goddamia! dwi angen y siwgwr! allwn i roi'r gorau i unrhyw un o fy
vices fory (gan gynnwys scalpio fy hun yn achlysurol, ebay a smocio crac), {saib o fewn saib i gael pwl o ddolur rhydd fydde'n gneud i gi bach drwg gochi o dan ei ffwr. iesu grist o ble ddaeth hwnna. *sori bois*}, ond ddim pop pigog, o unrhyw fath (heblaw pethau sili fel vanilla-mocha-venti-decaff-diet-coke, sy'n llawn esgyrn sbesial hen ferched a bonets babis bach wedi'u herwgipio ac ati.)]
*saib arall, ac anadl ddofn i werthfawrogi fod yr ipod (itunes dal yn bod yn crap) wedi dewis 'more than a feeling' gan boston ar ei ben ei hun. mae'n haws, nawr, dychmygu'r adolygu canol-nos sydd o 'mlaen i mewn ffurf
montage i'r gân yma - yn gorffen efo fi'n chwarae'r fwyell-solo (ar gitar dwbwl.) yn sefyll ar ben eglwys sant pietro yn y fatican mewn sbot-olau, wedi gwisgo fel 80s-super-sexxed-syr-christopher-wren ("
i'm thinking *prince video* here?"). wel. mae'r gân di bennu nawr. bols.*
eeniwe, fel y gwelwch chi, dwi'n cael trafferth canolbwyntio.
on the plus side, ges i un o rhein:

trwy'r post gan dad heddiw (wel, mae fy un i ychydig yn fwy swanci, ac yn biws). y bwriad: i fi siarad efo pawb adre *trwy'r cyfrifiadur* gan fod y ffôn shiti "three" yn, wel, shiti. nid fy syniad i, hoffwn ychwanegu. y realiti: dwi'n methu stopio gwisgo fe,
consequently yn gorfod dynwared robot, britney spears, rhywun yn chwarae robot wars/rheoli robot o ryw fath, ocsiwniar, prince a gwerthwr ffenestri
trwy'r amser. dwi'n laugh a fucking minute, ydw wir. *ochenaid*. eeniwe, diolch dad am y gismo diweddaraf.
dwi bron â chael digon rwan - gwell mynd yn ôl at y llyfrau. ymddiheuriadau am natur eratig (ac achlysurol ddisgusting) y post hwn. fel o.n: mae gen i gyfrif flickr rwan:
cliciwch fi dwi ar dân!, felly os chi angen mwy o, y, FI, chi'n gwybod ble i fynd (i fy nghyfrif flickr, nobend).
oce. nosdaxxxx