dros

18.4.05

 

*shish!*

ymddiheuriadau am y distawrwydd dros y penwythnos. dwi wedi bod yn anwybyddu'r cyfrifiadur fel prostest, ac hefyd i osgoi unrhyw niwed parhaol allwn i ei achosi iddo fe trwy ddadffenestreiddiad.

ma'r spicer bach wedi diflannu! ma fe jest wedi mynd! dim miwsic, dim dvds, dim radio. mae'r bocs/thing mwya defnyddiol y stafell, heblaw y ffrij, wedi ffycin pallu. (sôn am y ffrij-allai recomendio sudd banana ac oren sainsbury's? cwl). anghonstryctif fyddai ail-gynhyrchu'r rant 'wel, ma itunes di, tmo, newid ffordd fi'n grando ar miwsic fi'n y lle cyntaf', ond 'cinel, dwi di blino cael fy nal i ransom (dim geiriadur wrth law, sori) - nid gan beiriant; nid gan ran o beiriant, ond gan gog mewn rhan o beiriant. (eto, 'cog' dwi'n feddwl, nid 'gog'). os oes gan unrhywun syniad sut i wneud i'r spicer ail-ymddangos, gadewch nodyn ac fe gewch chi.//rwbeth neis, dwi heb feddwl be eto.

peth annisgwyl y sylwais i arno fe, diolch i'r tawelwch trwm ma, yw fod fy stafell i yn rhyw fath o uchelseinydd enfawr. y stafell wely'n arbennig. dwi'n byw un llawr uwchben gweddill y tai ar y stryd yma (sy'n golygu fod 'na olygfeydd gret o erddi bach a cheginau cefn) - dwi'n meddwl mai rhyw fath o eco sy'n cael ei greu gan yr adeiladau eraill yw beth dwi'n glywed. ta beth, dwi'n gallu clywed sgyrsiau, pobol yn canu, cesys bach penwythnos ar olwynion (dwi rhwng yr orsaf tren a bws, so lot o'r rhein, yn mynd rhincadirhinc-rhincadirhinc! hehe!) yn hollol glir ac uchel. rheswm gwell fyth i'r spicer bach ail-ymddangos. dwi'm eisiau dechre esbonio bo fi'n 'clywed pethe' wrth neb...


ps: welodd rhywun "Faith & Religion: Tori Amos Special" neithiwr? *rhedeg o gwmpas yn tynnu gwallt allan*

Comments:
Nesh i ddim gweld y Tori Amos special, ond dwi wedi gweld "Faith Songs" amdan Chris de Burgh - un o'r petha doniolaf i fi ei weld erioed.
 
hen gi ydi chris de burgh (a'i ferch, miss byd). dydi lady in red ddim hydnoed am ei wraig ei hun. ffaith: ti'n gallu canu lady in red dros 'rhywbeth o'i le' huw chiswell a mae'n swnio'n amazing.
am tori amos: weel, dodd dim angen llawer iawn o berswad arnai bo hi'n *hollol* 'ddim cweit di bod i bendraw'r ffwrn'-llyd. ond myn taten i, mae'n fwy ffrwti na, wel, bowlen o ffrwythau (:p)
 
Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]





<< Home

Archives

04.2005   05.2005   06.2005   07.2005   08.2005   09.2005   10.2005   11.2005   12.2005   01.2006   02.2006   03.2006   04.2006   05.2006   07.2006   08.2006   09.2006   12.2006   03.2007   11.2007   01.2008   02.2008   03.2008   04.2008   07.2008   10.2008  

This page is powered by Blogger. Isn't yours?

Subscribe to Posts [Atom]