dros
31.1.06
crassh! (wpddet cantafrigiol)
ma'n un o'r pethe 'na dwi
wastad wedi bod isio gwneud. chwalu ming (neu
qing, yn yr achos yma) vase yn
fil o ddarnau man. o'n i i fewn yn amgueddfa'r Fitzwilliam nid wythnos yn ôl yn ystyried gwneud yr un peth a'r boi yma (i'w groesi oddi ar 'y rhestr'). o wel.
ps: pen blwydd hapus i
rick james. damn!
pps: erbyn i fi feddwl, crassh ydi'r
Centre for Research in the Arts, Social Sciences and Humanities yng Nghaer-grawnt. mae'r calendr digwyddiadau'n reit ddiddorol, nawr bo fi'n edrych. welai chi yn
Talking Embryos: Interdisciplinary Conversations Exploring the Social Roles of the Embryo. falle.
ppss: panic drosodd. nid cariad cudd sy' di bod yn hel cardiau rhamantus i fi, ond
cymdeithas gymraeg caer-grawnt. wel. gan nas anfonwyd un (dos normal o ddiffyg hyder yn fy sgiliau 'rhamantus' [wir yr. ma'n
small talk i'n drewi.] fel arfer), ddylwn i ddim disgwyl un mae'n siwr. 'carmiad' dwi'n licio'i alw fe...
Uchod: "Llanwa fy nghalon â gobaith, tyn hi mas a gad iddi stopio pwmpio o flaen fy llygaid - cyn gwneud smwddi mas ohoni a'i yfed mas o welltyn tra'n eistedd ar fy nghorff."
25.1.06
diwrnod santes dwynwen hapus i bawb!
24.1.06
*honc*
lock up your daughters, fi'n credu y byddai 'na. wahei!
23.1.06
paradwys
pleser o'r mwyaf oedd dod ar draws mp3s ciwt ail symudiad, heb son am yr holl mp3s mod-pop-tastig eraill, ar y wefan 'ma:
clic clic.
ma
dolly mixture yn siwper-cwl, efyd.
Uchod: "Your eyebrows may be the best thing in town... (ie, ti yn y canol)""How come you're a hit with the boys, Jane?" - rhagor am Dolly Mixture, gan gynnwys mp3s. wei!
21.1.06
...0.0.0.0.0.0.0.0...

na, nid
still o raglen ddogfen newydd secsi s4c, ond llun bach gan
chwain. hehe!
19.1.06
HYSBYS
pwysig iawn iawn iawn: mae
neighbours heddiw yn WYCHBOETH. the goddanm plane has
literally crashed into the mountain, dudes. oce. 'rywle yn y mor 'bwys Tazzie'.
ma harold bishop
actually yn gweddïo.
ma carl a max yn cal ffeit.
who will survive?
bydd gweddill fy niwrnod gwaith 'nawr yn troi mewn i 'ffaffio tan fod neighbours arno eto'. trist de?
Uchod: Neighbours.on: mae hefyd gwerth iwsio'r chwilotwr lluniau ar google yn defnyddio jest 'doctor carl' hefyd. mae'r canlyniadau'n eitha
doniol. waw.
18.1.06
o'n i wedi anghofio am hwn:

bydd rhaid cael sesiwn storifyrddio cyn bo hir...
"in other news", fel ma huw edwards yn deud, dwi di cal topig ar gyfer yr opera roc. mae'n mynd i fod yn AMESIN. "
but laaater..."
gwaith yn galw: dau beth (oddi ar
iwatchstuff)
1:
Uchod: "Tom Hanks."
"Mona."
"Amelie."
"Mona."
"Tom Hanks."
"Amelie."
mae'r llun hilariws hwn (o fan
hynos chisie rhagor) wedi neud i fi isio mynd i weld '
the da vinci code'. ond dim ond slightly. oce falle ddim, ond mae'n lun da.
2:
trelar 'beowulf and grendel' (nid yr un efo pobol enwog ynddo fo, ond ma babi-grendel yn ffan-fferal-tastic!)
ai'ight. cadwch e'n llac am weddill y dydd, homebois.
17.1.06
"WY MOR ECSEITED: BA BA!"
Holy saith can mwnci mewn pyramid formation, Batman!
Poppies, Jakokoyak, Alun Tan Lan, DJ Huw Stephens: Barfly, Camden. 25 Ionawr.
Mynnwch eich tocyn nawr blantos!!
13.1.06
wwww

reit. wy off i'r coleg. wpddet cyn bo hir. yny cyfamser, mwynhewch y
cartwheel galaxy (trwy
warren ellis,
as per)
rhagor fan hyn, ar wefan y new scientist. cofiwch wisgo'ch sbectol ddiogelwch cids.
12.1.06
blogddewidion
addunedau 'leni:
1. cicio tin academaidd
2. cwl 'ed, nawr
3. defnyddio cymraeg gwell a mwy dealladwy ar y blog (ac yn gyffredinol)
4. ysgrifennu opera roc
5. mynd i'r gampfa
6. stopio bwyta cymaint o
renniesbeth yw'ch rhai chi?
fenis. hei ho!





ie, na ni. ymlaciwch. dwi 'n ôl yn saff.
dwi wrthi'n llwytho'n lluniau i flickr ar hyn o bryd. ma tua miliwn ohonyn nhw (mae'n cymryd oesoedd. mor hir, yn wir, nes mod i 'di llwyddo i fennu twb o carte d'or blas pistachio efo llwy de).
er hwylusder aesthetig, dwi am echdynnu'r rhai pert:
wele, 'Fenis Bert', ac hefyd 'di gwneud set eitha manwl (er budd fy adolygu fy hun fwy na dim, nai fod yn onest) efo Lot O Ffeithiau Diddorol (
wele. Fenis Gyffredinol).
dwi'n eitha plêsed efo rhai ohonyn nhw - gymrai ddim credit chwaith: dwim cweit di cael gafael ar y camera newydd, a dwi'n amau fod gan y golau ffantastig/ffantastigrwydd cyffredinol (neu ang-hyffredinol) Fenis rwbeth i'w neud efo'r lluniau neis.
pethau nas 'cipiwyd' gan y camera: klm yn colli fy mag am dri diwrnod; klm yn dychwelyd fy mag wedi tri diwrnod
sans rhai eitemau #:< ; yr oerfel; nifer y cwn bach mewn siacedi (hefyd, dwysder y baw ci ar y strydoedd); David Baddiel, Angus Daeyton, Richard Curtis nac Anneka Rice (oedd yn edrych yn eitha
well preserved a bownslyd); tu fewn i'r Scuola Grande di San Marco; hen bobl yn rasio
gondole i lawr y Grand Canal yn gwisgo hetiau gwyn efo pom-poms oren (damia'r batri!); Scuola Grande di San Giovanni Evangelista (flickr yn pallu efo'r rhain); sgiliau troi cornel y
gondolieri; y dyn chwarae liwt oedd yn fy nilyn (wyth lleoliad gwahanol mewn tri diwrnod? yn chwarae'r un darn? coinsidens i think not...
ta beth. blwyddyn newydd dda.
kaya

sypreis neis oedd darganfod fod
bethbo, a ymwelodd â kaya-cho - (co'r
map.) - 'di cyhoeddi ei llunie ar flickr. fe fues i'n ddigon lwcus i fynd ar yr un trip pan o'n i dal yn ysgol penweddig (amser maith yn ôl... cyn bo fi'n gallu defnyddio camera digidol ta beth.). syniad Frank Evans, a gafodd ei gaethiwo mewn gwersyll i garcharorion rhyfel yno yn ystod WWII, oedd sefydlu cymdeithas heddwch i uno 'pobol ieuanc' kaya-cho ac aberystwyth. hence y trip ('gyfnewidfa'?) blynyddol (a'r ddarpariaeth gret o athrawon siapanëg sy i gael yn aber...)
eeeniwe, ddath hwn a llawer o atgofion 'nôl, diolch bethbo!
5.1.06
reeheheheeit
dwi off i venis i wneud gwaith maes (ie gwaith). geisiai bostio llunie. fel arall
LATERZ DDREWSYNZ
xxxx
3.1.06
"The Priest fleeing from a swarm of bugs at dusk, somewhere in olde Germany"

hwn, a rhagor o hen
gems siwdo-gelfyddydol neshi ffeindio tu ôl i'n silff lyfrau nawr yn cael eu harddangos fan
hyn (ie ar flickr. lle arall?)
Archives
04.2005
05.2005
06.2005
07.2005
08.2005
09.2005
10.2005
11.2005
12.2005
01.2006
02.2006
03.2006
04.2006
05.2006
07.2006
08.2006
09.2006
12.2006
03.2007
11.2007
01.2008
02.2008
03.2008
04.2008
07.2008
10.2008

Subscribe to Posts [Atom]