mai di bod yn hir - llawer iawn gormod o orweddian (trio meddwl am air mwy diddorol) yn yr haul, partis, a hwyl cyffredinol i'w gael/wneud ar hyn o bryd. newydd ddeffro ar ôl colaps
"dawns fai" (ie, mae ym mehefin. mae'r wythnos yn dechre ar ddydd iau yma hefyd).
hehehe, mae'n braf.
mwy nes mlaen, dwi dal braidd yn gysglyd.
xxxxx
Overheard in New Yorkrhagor o lincs clou:
"I just want to help people" - Tom Cruise yn siarad yn rhyfedd o agored (os mental) efo
Spiegel.de"The Nazis invented the sex doll" - erthygl amheus ond difyr am 'Borghild', y ddoli glwt gynta'...
Fight The Good Fight Ministries (man gwan gen i ar gyfer y math yma o beth, sori. aa, dwlai
demonbusters mewn hefyd. "hen un, ond un da", fel ma nhw'n ddweud... NB: roedd cerddoriaeth uchel yn arfer chwarae wrth i'r dudalen agor, os dwi'n cofio'n iawn. sgen i ddim sain ar fy nghyfrifiadur, so dwim yn gwybod am rwan, sori...)
Wpddet
Lovecraftaidd (linc braidd yn aeafol, sori) - am gael gafael ar
hwn mor fuan a phosib (trafodaeth metafilter
yma). Rhagor ar yr hoff Houellebecq fan
fan hyn, a
fan hyn.
oce digon am rwan...
Query Letters.
trio meddwl rwan pa fath o ffilm fyswn i'n trio'i sgrifennu... (ma
monsieur nwdlington a
dwlwen yn bell o 'mlaen i, o be dwi'n ddallt...)
Oooooooo moyn un! moyn un! blog call cyn bo hir, kids, sori...
dau arholiad ola'r flwyddyn (diwedd y drydedd, pedwaredd, here we come... [blwyddyn, nid dosbarth gradd, gobeithio]) fory. cyn i chi gyd frysio i adael negeseuon o ofid a lwc dda, canhwyllau a tedi bers tu allan y gyfnewidfa wenith (corn?), ysgrifennu caneuon i fi ac ati: cewch i chwilio ar y
'Look Book', sef golwg ar gymeriadau gwahanol Efrog Newydd, a'u dillad. ydy, mae'n hollol vacuous, ond felna mae. neu felna dwi: anodd cofio sut ma'r pethe ma'n gweithio.
gair i fyny. sut mae'n mynd? blogsyn bach
self-indulgent ar fy rhan i - y cof yn dechrau pallu, a dau arholiad gen i ddydd mercher. *sgreechian fel merch* ag ati.
[saib byr wrth i fi gerdded rownd y lawnt/cae/maes (nid
dros y lawnt/cae/maes. chwip din fyswn i'n gael am hynny) i nôl can o sodapop o'r peiriant. ydy mae'n hwyr, ond pop fizzi yw un o fy hoff bethau yn y byd, a dwi'n *dysgu* pethau *pwysig*, goddamia! dwi angen y siwgwr! allwn i roi'r gorau i unrhyw un o fy
vices fory (gan gynnwys scalpio fy hun yn achlysurol, ebay a smocio crac), {saib o fewn saib i gael pwl o ddolur rhydd fydde'n gneud i gi bach drwg gochi o dan ei ffwr. iesu grist o ble ddaeth hwnna. *sori bois*}, ond ddim pop pigog, o unrhyw fath (heblaw pethau sili fel vanilla-mocha-venti-decaff-diet-coke, sy'n llawn esgyrn sbesial hen ferched a bonets babis bach wedi'u herwgipio ac ati.)]
*saib arall, ac anadl ddofn i werthfawrogi fod yr ipod (itunes dal yn bod yn crap) wedi dewis 'more than a feeling' gan boston ar ei ben ei hun. mae'n haws, nawr, dychmygu'r adolygu canol-nos sydd o 'mlaen i mewn ffurf
montage i'r gân yma - yn gorffen efo fi'n chwarae'r fwyell-solo (ar gitar dwbwl.) yn sefyll ar ben eglwys sant pietro yn y fatican mewn sbot-olau, wedi gwisgo fel 80s-super-sexxed-syr-christopher-wren ("
i'm thinking *prince video* here?"). wel. mae'r gân di bennu nawr. bols.*
eeniwe, fel y gwelwch chi, dwi'n cael trafferth canolbwyntio.
on the plus side, ges i un o rhein:

trwy'r post gan dad heddiw (wel, mae fy un i ychydig yn fwy swanci, ac yn biws). y bwriad: i fi siarad efo pawb adre *trwy'r cyfrifiadur* gan fod y ffôn shiti "three" yn, wel, shiti. nid fy syniad i, hoffwn ychwanegu. y realiti: dwi'n methu stopio gwisgo fe,
consequently yn gorfod dynwared robot, britney spears, rhywun yn chwarae robot wars/rheoli robot o ryw fath, ocsiwniar, prince a gwerthwr ffenestri
trwy'r amser. dwi'n laugh a fucking minute, ydw wir. *ochenaid*. eeniwe, diolch dad am y gismo diweddaraf.
dwi bron â chael digon rwan - gwell mynd yn ôl at y llyfrau. ymddiheuriadau am natur eratig (ac achlysurol ddisgusting) y post hwn. fel o.n: mae gen i gyfrif flickr rwan:
cliciwch fi dwi ar dân!, felly os chi angen mwy o, y, FI, chi'n gwybod ble i fynd (i fy nghyfrif flickr, nobend).
oce. nosdaxxxx