dros

27.4.06

 

mp3au sufjan stevens newy'

fan hyn. hwre!

24.4.06

 

dim lwc?? RYBISH. yr ateb oedd:



dyyy.

[gol: ydw, dwi'n credu bo fi'n hilariws. wot of it?]

18.4.06

 

lol botes



[gol: mae'n fach, ac eith e ddim mwy. yn gryno: "gesiwch y gân yn y llun i ennill preiz"]

 

blw monday

[disglaimiwr: o'n i'n dechre meddwl am ferwi pennau rhai maeswyr efo rhyw fath o ymateb rantllyd diddorol ac anodd-i'w-ddilyn am is-ddiwylliannau rhyw a'r gymraeg, ond gwell ei neud e fan hyn, sbo (i ddechrau, ma llai o bobl yn mynd i'w ddarllen e fan hyn ;)]


meddwl o'n i am y gân. ie, blue monday gan new order. yn ogystal â'i bod hi'n ddarn o electronica 'croes-drosodd' ysblennydd, y 12" fwya poblogaidd yn hanes y byd, a 'di rhoi pwrpas i fywyd bernard sumner wedi i ian curtis bopo'i glogs, fuodd y gân hon yn ddigon lwcus i fod yn gatalyst Myfyrdodau Pwysig a Diddorol i fi dros y penwythnos. waw:


dechreuodd efo'r manchester passion nos wener, nath cwpwl o lwps, a gorffen efo'r pôl-ddawns fwya ecsplusut a gwychboeth dwi 'rioed 'di gweld, mewn eglwys yn brixton yn gynnar fore sul.


esboniaf.


aros i 'vampire circus' ddechre ar bbc un o'n i (ffilm hammer wych, ag iddi ddipyn o elfennau bdsm eitha amlwg a di-angen - o'n i'n gwylio, serch hynny, am y trawsnewid fampir-i-banther, cameo david prowse a'r clowns cripi. dwi'n addo) pan ddois i ar draws y darllediad yma ar bbc dau. dwi'n siwr 'mod i'n siarad ar ran eraill hefyd wrth gyfadde taw'r unig reswm dwi'n gwylio darllediadau byw, mawr y bbc yw'r gobaith y bydda i, rhyw ddiwrnod, yn dyst i fuck up ar sgêl enfawr fydd dim posib ei weld byth eto. pudsey'n cael ei fyta gan lewod, bynji terry wogan yn torri dros gôr o haemophiliacs ifanc, rhyw fath o ddinistr tân-gwyllt cyffredinol ar y london eye: y math yna o beth.


prosesiwn ddifrifol, grefyddol-gerddorol trwy ganol manceinion. resipi perffaith, medde fi. iesu grist yn cael ei hambygio gan blant mewn hwdis tu fas y trafford centre, keith allen yn cael ei groeshoelio drw gamgymeriad: chi'n 'getio' y 'pictiwr'. ta beth: tra bod dim jacpot ar y ffrynt 'dinistr', ro'dd digon o 'ganu-clensio-dwrn' i wneud i geraint griffiths dagu ar ei o[ho]en tei[hei]lwng (h. mr Ll. Richards), a caws drewllyd dosbarth A yn gorlifo (yn fetafforig) drwy'r strydoedd wrth i 'iesu' grwydro trwy 'gethsemane' (tu fas wallis) efo 'befi' yn ei law yn canu 'sit down' gan james at ei 'ddisgyblion'. a dyma jiwdas yn troi'i fyny (tim booth, oedd yn gneud ei orau i edrych fel syrcasfeistr aflan), plannu'r smacar ddadlennol ar wefus ein prynnwr, a dyma nhw'n dechre canu'r gân - blue monday.

"How does it feel
To treat me like you do?
When you've laid your hands upon me
And told me who you are
"

medde iesu

"I thought I was mistaken
I thought I'd heard your words
Tell me: How do I feel?
Tell me now how should I feel?
Tell me now how do I feel?
"

medde jiwdas

ac yn y blaen ac yn y blaen. ciw iesu yn ei all-in-one mewn sitrws guantanamo, pawb yn canu 'angels', clapio, vampire circus yn cychwyn: bish, ac yn wir, bosh.

a dyma lle ma'r holl fusnes 'is-ddiwylliant rhyw a'r gymraeg' 'ma'n troi fyny (sgipiwch y paragraff yma os am ddarllen am y pôl ddawnsio ag ati). y sws 'bach-rhy-hir' rhwng 'jiwdas' a 'iesu', brâd, partneriaeth, ymddygiad 'gwrol' (pun intended). wy'n astudio maes sy'n wirfoddol yn darllen dipyn go lew o is-destun rhywiol (sexual, nid sexy. ai dyma'r gair cywir?) i fewn i'r rhan fwya o weithiau crefyddol dyn ni'n dod ar eu traws. er enghraifft, beth am hon fel golygfa o ginc cynnar?. so pam lai y vignette fach allweddol hon rhwng tim booth a darren morfitt (dim jôc. mae'n ffantastig yn dog soldiers cofiwch), jyst ffor cics?

dwi ddim yn ffan enfawr o'r ddadl "be yn union sy' gan y beibl i'w ddweud am y math yma o gario 'mlaen" (dwi'n ddigon lwcus fod mam 'di dysgu fi fod 'na sawl ffordd o edrych ar y llyfryn hwnnw. a fy mod i 'di penderfynu'n reit ifanc fod rhai o'r rheiny'n fwy goleuedig nac eraill), ond liciwn i ddyfynnu a chytuno 'da 'Barbarella' off y maes co (os gai, de)

"...does rhyfedd bod gymaint o Gymry ifainc hoyw yn teimlo bod rhaid iddyn nhw adael eu cymunedau Cymraeg a symud i dinasoedd fel Manceinion, Llundain a Chaerdydd i gael bywyd normal. Mae'r culni meddwl yma yn cyfrannu at ddirywiad yr iaith, yn anffodus. Byddai'n werth i ambell un ystyried hynny."

gan symud dadleuon "ble ma'r shanis cwmrâg/mocha anifeiledd 'sha crymych/'wpa fe lan'/rympi-pympi grand slamaidd de bois? e? e? pwy sy da fi? e?" i'r naill ochr am eiliad: ble yn union mae is ddiwylliant rhyw cymru'n cuddio? rywun?
dwi'm yn sôn am gyfunrywiaeth fan hyn chwaith, gan nad ydwi'n ei gyfri fel cinc, ond am y llyfrau mwclyd? y siarad brwnt? y clwbs? y ffotos a'r darluniau? falle na chath iaith y nefoedd ei dyfeisio i gôpio efo'r math yma o beth: wedi'r cyfan, sgennom ni ddim lot o enwau 'cynhennid cymrreig' ar gyfer ein 'gwahaniaethau anatomegol' sy'm yn swnio fel jôc plentyn neu derm meddygol o'r 19eg ganrif, oes e?. allai ddim meddwl am un esiampl o drafodaeth/driniaeth rydd, secsi a chyfrifol o ryw, ei ins a'i owts, wedi'i drafod gan unrhywun o 'nghenhedlaeth i, yn gymraeg (o'n i'm ddim cweit ddigon hen i wylio'r rhaglen 'na (efo ffion gwallt a beca brown? lisa rwbeth [yr un fronnog, tamaid yn fochynllyd]?) pan ddaeth hi mas, yn anffodus). ai ni yw e (neu, falle, yn fwy sbesiffig, ife fi yw e? ;))? ynte'r iaith? mae llawer ohonom ni, dwi'n siwr y gallwn ni gytuno, yn gallu trafod materion o rywioldeb yn rhwydd iawn yn saesneg - yw hyn am ein bod ni 'di dysgu sut mewn un iaith ac nid y llall? ydi hynna'n amhosib? e? pwy sy' da fi? e?

ta beth. digon ar y rhethreg. 'n ôl at y stwff poeth. roedd hi'n ben blwydd ar un o'n ffrindiau, a buodd hi'n hefru braidd am fynd i fama, y 'torture garden', (ddim yn saff i'r gwaith, siwr o fod) i ddathlu. iawn sbo, medde fi, a rhaffu mewn i 'nghorset ("no matches" ar geiriadur.net, natch). gai esbonio rwan nad ydwi'n neidio mas o unrhyw gwpwrdd cinci fan hyn. does dim lot o'r 'is-ddiwylliannau' ma'n codi ofn/sioc arnai, ond dwim cweit yn barod i gael fy nghlymu mewn fishooks a'n rhoi mewn lobster trap gan ddyn masgiedig hyd yn hyn. clwb normal yw'r 'TG', ta beth, blaw am chydig o eithriadau pwysig. i ddechre, ma 'na groestorriad enfawr mewn oedran, siâp, golwg a chwaeth (cerddorol, ffasiwn, rhyw, popeth) yr rhai sy' yno. a ma 'na ddaeargell ('dungeon', mae'n debyg) ar gyfer yr rhai dewr. ond ai ddim i fewn i hynna rwan - dwi di hen golli'r trywydd, ac wedi sgrifennu gormod fel ma hi (mae'n ddigon i ddweud na fyddai byth yn edrych ar Gladiator yn cweit yr un golau ac o'r blaen rwan).

so, i droi stori hir yn un bach-llai-hir: wedi dipyn o sbio mewn rhyfeddod ar y gwisgoedd cain (rhai'n fwy, wel, yn 'fwy' nac eraill), a dawnsio, dyma'r gân yn ymddangos unwaith eto. y tro yma, dyma 'na ferch allai ond ei hadnabod fel 'adore' (roedd wedi'i datwio mewn llythrennau bras o dan ei braich chwith) yn codi o'r llawr a dechre lapio'i chwe troedfedd penddu 'rownd y polyn, mewn dim byd ond pâr o drôns a bresys.

"Those you came before me
Lived through their vocations
From the past until completion
They'll turn away no more
And I still find it so hard
To say what I need to say
But I'm quite sure you'll tell me
Just how I should feel today
"

medde hi. neu dyna be glywes i - rhaid i fi gyfadde nad o'n i'n gwrando'n astud iawn. ro'dd y 'ddawns', ne be bynnag oedd hi, mor uffernol o osgeiddig o'dd hi'n anodd peidio â chanolbwyntio arni. so dyma ni i gyd yn sefyll yno'n dawel a llonydd tan iddi neud ei dismount. pan adawon ni'r eglwys (mae wedi ei dad-chonsecreiddio. pacha becs, crist-wylwyr), rodd hi'n taro hanner awr 'di chwech ar fore oer sul y pasg. od, o'n i'n meddwl, fod 'na edefyn bach mor catchy 'di'n dilyn ni trwy'r penwythnos hwn yn arbennig. nai gyd.

be bynnag. rhowch glic fan hyn a dawnsiwch/myfyriwch o gwmpas fel ych chi moyn. bo.

ON:fydde hwn 'di bod yn fwy addas ddoe, ar "ddydd llun": on alas, ma 'nhraethawd hir i'n dechre piclo fy mhen o'r tu allan i fewn, a'r dyddiad cau ar y gorwel. as if you couldn't tell: un trip south of the river a wy'n troi'n bregethwr hunan gyfiawn...

14.4.06

 

...in other news

ma'r pab yn cachu yn y coed.

13.4.06

 

deunydd addysgiadol a diddorol ALERT!

ma rhai o'r newydd-raddedigion dwi'n eu hadnabod di treulio'r flwyddyn ddiwetha'n 'darganfod eu hunain'. ma rhai, fel wili, di bod yn gneud gwaith defnyddiol dros gymdeithas:

everything you wanted to know about europe but were afraid to ask ar ran Civitas. sdim golwg o young Burt Reynolds 'di gwisgo fel sberm ar ei gyfyl, jyst gwybodaeth. bo!

 

beth yw 'rhinestone' yn gymraeg?



"Bobbie Nudie, the Original Rhinestone Cowgirl enters Hillbilly Heaven"

Ro'dd Bobbie Nudie, a fu farw'r wythnos ddiwetha', yn rhan o bartneriaeth fwyaf rwtin', twtin' a sbarcli a welwyd ochr yma i'r Grand Ole Opry efo'i gwr, Nudie Cohn: Nudie's Rodeo Tailors. Roedd y ddau'n gyfrifol am greu campweithiau countrywessern lliwgar i Elvis, Gram Parsons, Willie Nelson, Flying Burrito Brothers, Ben Harper, ZZ Top (macsimwm parch am hwn), Liberace, Arnold Schwarzennegger ac eraill (y nhw oedd yn gyfrifol am siwt pills, reu a menywod porcyn Gram Parsons. ma llun ohoni yn y linc isod. roc.). Heddwch i'w llwch ffabiwlys.

erthygl 'fo lluniau o siwtiau Gram Parsons, Ben Harper

Naked Talent (hen erthygl am Nudie Cohn, king of bling o'r guardian.)

Hang m High Vintage Western Wear

7.4.06

 

"I am a persona non grata, I am the grey man of the office, I am the photocopier's only friend and lover. give me a job and I will eat my own feces."

"And very rarely, like today for instance,...I press send by mistake and deliver my surreal rant of hate to a potential employer..."

Cenwch y Clychau! mae fy ffrind blewocaf/mentor kung fu Arthur Savage, a.k.a. yr archfastard yn fyw, iach, ac Yn Y We.
Clod i dduw: ma'r cowboi peryg 'di bod yn peri trafferth a sgriwio fyny dros Brydain. ...wen i yn y nwble! etc

nosdawch!

5.4.06

 

"MEIN GOTT"

"Fuck me, fuck me, fuck me.
Jesus came back for half an hour.
The world is a beautiful, beautiful place....."

Bizarre baby born in Dolakha (diolch dalps i'r robo-graig am y linc)

4.4.06

 

rhy hwyr ar gyfer sul y mamau, bach rhy gynnar ar gyfer presant graddio...



Michael Flatley IS Celtic Tiger

clips a lluniau
prynwch e i fi off amazon

(a lle ma' graddio yn y cwestiwn: wedodd mam "os ti'n graddio" yn lle "pan ti'n graddio" ar y ffôn yn gynharach. o diar.)

2.4.06

 

dros-flog: bys ar y motherlickin pwls

'bring out yer undead' o'r observer: byti mis ar ôl yr argymhelliad garbled yma manyn ar y blogwish. iesssss!

Archives

04.2005   05.2005   06.2005   07.2005   08.2005   09.2005   10.2005   11.2005   12.2005   01.2006   02.2006   03.2006   04.2006   05.2006   07.2006   08.2006   09.2006   12.2006   03.2007   11.2007   01.2008   02.2008   03.2008   04.2008   07.2008   10.2008  

This page is powered by Blogger. Isn't yours?

Subscribe to Posts [Atom]