dros

31.3.06

 

[smart, eh? Not actually true but low animal cunning is one of my natural strong points]

ma archie (guardian student columnist of the year 2004, super-stud, ffan southampton) 'di mynd i sri lanka ac mae'n sgrifennu blog o'r enw *brababrababrababaaaaa* archie-in-sri-lanka. ma'n ddifyr. clici clici.

 

"...Twan and Sylvester are sniffin' around, tryin' to figure out, 'What's that smell?' As they turn and look at each other like, 'What the hell?'..."

sdim amser gen i i esbonio'n iawn (mae'n haws ei wicibeadio fe) ond rhaid postio'r lincs o leia. 'Trapped in the Closet' yw hup-hopera un-dyn R Kelly. Mae'n ffantastig (er, o'n i'n poeni braidd am fy iechyd meddwl fy hun pan welais i fe gynta' sbel yn ôl). Jyst gwyliwch e!

rhifynnau 1-5
chwech
saith
wyth
naw
deg
unarddeg
deuddeg

yn fyw yn y VMAs (Blwrb: "He's been called a modern-day Chaucer. Some would say he's the luckiest bastard in the music business. No matter your personal opinion, R. Kelly's epic 'Trapped In The Closet' stands as a testament to one man's love of gun-waving in the face of crisis. If you thought it didn't make sense before, wait until you see R. Kelly performing all 3 characters live, with no differentiation between them except his wild gesticulations.")

30.3.06

 

let's go girls!

lincwaith thematig:


'Shania Twain' defence works in drunk driver's favour


How my husband died in our Shania Twain sex game

nai ddim mwydro gormod am hyn (mwydrais eisioes isod), ond i glariffeio unwaith ac am byth nad oes gan Shania Twain ddwy goes bren. yn wir, mae'n rywbeth y bues i'n credu am sawl blwyddyn, ar ôl cael breuddwyd realistig iawn ac oherwydd ei bod hi wastad yn gwisgo trowsusau ar y teledu. mae hi hydnoed yn y celebrity legs hall of fame "myn dian i" (yn ogystal â julie andrews, Elvira a gloria estefan).


Uchod: Coese Elvira. Pam lai? *udo*

[gol: o diar. newydd weld popbitch. pa fath o esgus yw "o'n i actually YN gwglo shania twain: damwain oedd y cyfan?" ddigon da? Hwree!]

 

Scotch-Eggflog



mae 'di bod yn fis, bron, ers i dj scotch egg chwarae yn y portland. y rheswm 'dwi 'di cadw hwn (heblaw am fel homage bach i 'Gross Jar' vice) yw oherwydd amgylchiadau ei dderbyn: yn ystod y 'pawse taflu party eggs', glaniodd rhwng fy mronnau (gan ffrwydro wy 'parti' dros fy décolletage), bownsio a glanio wedyn yn fy ngwydr coca cola (gwag). os bu erioed arwydd gan dduw/y duwiau fod yr wy hwn yn un arbennig: "hwn", fel ma'r sais yn dweud, "oedd e".

eeniwe - ar hyn o bryd: ma rhyw fath o saim yn datblygu ar waelod y gwydr (adwaith cemegol rhwng coca-cola a breadcrumbs, dwi'n gesio). dim ond mymryn o lwydni sy' 'di datblygu, a hynny ar yr ochr fewnol: allai ddim cadarnhau os taw'r clingffilm sy'n ei gadw fe mor ffres, neu'r ffaith taw scotch eggs yw'r 'cockroach of the snack world', a bod e ddim yn debygol o bydru, byth. chwyddodd y cling ffilm i greu siâp dôm wythnos diwetha', ond nawr mae 'di mynd 'nôl i lawr.

yn gryno: mae'n edrych bach fel gewin troed hen ddyn, wedi'i orchuddio mewn briwsion bara.

DYMA::::

lincs diddorol, fodd bynnag:

i wefan bad timing, sy'n gyfrifol am rai o'r nosweithie neisha yng nghaer-grawnt (ma na lincs a gismos a blwrbs)

gwefan doddodo

ac ove naxx

ww, a germlin

oedd i gyd yn chwarae hefyd. o'n nhw ACES, yn enwedig ove naxx a maruosa (ddim cweit yn saff i'r gwaith, falle, itsi bitsi - ond ma llwyth o lincs diddorol...)

laters!

20.3.06

 

"What I'd do if i had the money"

gan simon o Pankof Bank. ciwti!

 

"Don't worry, I got it all worked out. We'll move to England, huh? Worst they got there is, you know, drive-by... arguments... "


19.3.06

 

dau beth

1. i'r belle (neu'r sebastian) bach tu fewn i chi: etsy.com. mae fel ebay, ond ar gyfer nwyddau 'di'u gwneud-â-llaw. amesin!

2. mae'r gwe-fyrddin sy'n rhedeg y wefan ddefnyddiol-ond-angen-wpddet wereallneighbours wedi dechrau cynhyrchu egin ei syniad ffwlbrus-ond-doniol i ni gael ei brynnu! (brawddeg hir. dwisie bwyd.)

Cyflwynaf: War on Terror: the board game. Mae'n casglu archebion ar hyn o bryd, i allu fforddio cynhyrchu'r peth. os chi (neu efallai eich mam) yn ffan o risk, a gynne: ordrwch nawr ar gyfer sul y mamau 2007. wei.

15.3.06

 

sai'n sicr

beth am y trelar, neu 'flaswr' hwn ar gyfer Nacho Libre sy'n fy mhlesio fi fwya...

(trwy iwatchstuff - clic a sgroliwch os oes chwant gweld trelar 'X-Men 3: the last stand' arnoch chi. mmmmm)

13.3.06

 

ac

os oedd hwnna'i gyd lawr fynna'n rhy earnest i chi i gyd, beth am linc i wefan bersonol codwraig-pwysau 'mwyaf' (mae'n anferth) awstralia?

croeso Christine Envall (ddim rili'n saff i'r gwaith.)

:O

10.3.06

 

(lot) mwy o'r heebie jeebies

wel. gan fod y postyn gwreiddiol wedi rhedeg i ffwrdd (roedd e'n llawer yn rhy gymhleth ta beth, a ddim yn gneud sens), nai drio unwaith to: with a vengeance clarity...



(cliciwch ar 'all sizes' i weld yn iawn!)

Edmygu'r poster ysblennydd hwn ar wal fy llofft (a'r ffaith fy mod yn ddigon ffortunus fod y perchennog gwreiddiol wedi hen anghofio amdano a'i adael yn fy nhy) o'n i, a dyma hynny'n arwain at rhyw fath o fyfyrdod dwys at 'ôl-gatalog sinematig' John Landis - Coming to America, Trading Places, An American Werewolf in London, fideos Thriller a Black or White. Mae hydnoed yn 'The Muppets Take Manhattan' - y ffilm Fwpets orau. Ta beth, ddaru'r trywydd yma bara trwy'r pnawn wedi i fi orffen edrych yn iawn ar y 'trelars' bach ar wefan y Masters of Horror. Ma John Landis yn un ohonyn nhw, ond ma pob un yn heavyweight ffilmiau iasoer o fath gwahanol i'r lleill. Tri chyfarwyddwr-ar-ddeg a thair-ffilm-ar-ddeg (sbwci)- rhai'n hollol newydd ac eraill 'di'u seilio ar straeon byrion gan Clive Barker (legend) a H P Lovecraft (brenin). Dyma be ddois i ar ei draws (feel free i diwnio mas ar unrhyw adeg - jyst 'argymhellion'...)

Er fod yr holl beth yn swnio fel ymarfer egotistig, mae'r pytie ar y wefan uchod yn edrych yn dda ar y cyfan: Ma ffilm John Carpenter yn cael ei ddisgrifio fel 'supernatural Chinatown'. mmm. Un o'r ffilmie eraill sy'n edrych yn ddiddorol 'di 'Homecoming' gan Joe Dante (sydd a'i enw ar y poster 'na hefyd): gyda'r geiriau "If I had one wish, I would wish for your son to come back", mae arlywydd yr Unol Daleithiau'n deffro meirw byddin y wlad, sydd newydd gyrraedd yn ôl (mewn bocs) o'r rhyfel anghyfreithlon yn Irac. Ciw: milwyr blin di-farw ('undead'?) yn dial ar y ty gwyn a phobl America. Ffilm zombi 'wleidyddol' arall-er, mae'n annebygol y bydd hi'n curo Night of the Living Dead am 'downer sosio-wleidyddol' factor.

Beth wneshi ei fwynhau (read: wlychu pans drosto) fwya oedd cyfraniadau Don Coscarelli, Larry Cohen a Lucky McKee (gan nad oes modd gwylio trailer Takeshi Miike yn de). Allai ddim argymell eu gwaith nhw ddigon. Don Coscarelli sy'n gyfrifol am fy hoff gyfres iasoer ERIOED (dwi'n gwybod 'mod i'n dweud hyn yn aml, dwi'n ei feddwl o'r tro yma.), sef Phantasm. Hanes ymgymerwr aflan a'r enw hynod ddisgrifiadol "The Tall Man" (yr horror-con-arwr, Angus Scrimm) a'i arch-elyn, Reggie Bannister, y gwerthwr hufen iâ (mae'n werth ymweld â gwefan Reggie. os jest i weld ei steil gwallt, myn dian i). Pedwar ffilm i gyd, sy'n llawn milwyr bach o ddimensiwn arall, globiwls, menywod sasi efo nunchucks, sipsiwn, rhyw a plant yn rhegi.



Uchod: Angus Scrimm. "Booooooooy..."
[Ces i un o'r rhain ar fy mhenblwydd gan fy nghyn lodjer. presant cochwych!]

Efallai'ch bod chi 'di gweld Bubba Ho-Tep yn barod - Bruce Campbell a'r ymgyrchwr hawliau dynol Ossie Davis yn ymladd mwmi Eifftaidd wedi'i wisgo fel cowboi tra'n ceisio dianc o'u cartre' hen bobl. Ma Campbell yn credu taw fe yw Elfis, a Davis yn sicr taw fe yw JFK. Eeniwe, Coscarelli sy'n gyfrifol am honno hefyd.

Cyfarwyddwr May yw Lucky McKee: 'If Tim Burton made slasher movies...' yn ôl yr adolygiad yna - sai cweit yn siwr am y dadansoddiad (fydd fy ffilms i yn edrych fel 'Tim Burton slashers', arhoswch chi...). Mae'n eitha chick-flickaidd (chick flick efo lladd a dolis sbwci, dych chi'n deall), a ma Anna Farris (o 'Scary Movie')yn troi lan yn y ffilm fel ysgrifenyddes anifeiliaidd a secsi. Ma'r ffilm 'Sick Girl' am ddwy gariad lesbianaidd a'r pry copyn afiach sy'n torri eu perthynas yn ddarnau. Swnio fel Brookside.

Thema ffilm Larry Cohen ddaru dynnu fy sylw, cyn i'r enw ddechrau canu cloch ag i fi ddechrau tynnu 'ngwallt yn ceisio dyfalu ble welais i fo o'r blaen. Showdown rhwng dau gymeriad nid-annhebyg i'r Hitcher oddi ar Mighty Boosh (a merch felynwallt ddiniwed) mewn lori ar ffordd yng nghanol nos ydi Pick Me Up. Yn ôl imdb mae Cohen hefyd yn gyfrifol (yn anffodus) am dwrds fel 'Phonebooth' a 'Cellular'. I'w gredit, sgrifennodd e dipyn o bethe i Colwmbo (arwr arall), a mae'n un o grewyr 'Branded' (fel Arthur Digby Sellers yn y Big Lebowski), ac enw ei ffilm cynta' oedd Dial Rat For Terror. Clasi.. Ond nid dyna pam o'n i'n ei gofio fo - Larry Cohen ysgrifennodd a chyfarwyddodd The Stuff, ffilm arswyd ysgafn yr olwg, dywyll, kitsh ac alegorical am bwdin blasus sy'n eich bwyta chi ('na ni, ma fe am byti 'consumerism'. wel, ddim cweit). Nai ddim sbwylio'r diwedd i chi, ond argymell eich bod chi'n cadw llygad graff amdano fe. Sai'n siwr os oes statws 'cwlt' ganddo - allai ddim ffeindio dim byd tebyg i fansite neu negesfwrdd - ond mae'n werth chwilota amdano (ac os y dewch chi o hyd iddo, brynai e oddi wrthych chi os nad y'ch chi'n ei licio)...



Uchod: Chwiliwch amdano, dysgwch ganddo!

Reit, dyna'r oll o'n i eisio traethu amdano am rwan. Oes rhywun arall 'di dod ar draws rhai o'r rhain? Neu 'di gweld y gyfres ffilmiau - mae hi 'di bod ymlaen yn yr UDA dwi'n credu. oce. wedi blino rwan. 'n ôl i'r batcave.

 

wel myn taten i...

blog newydd Sleep 'Sai'n transfesteit neu ddim byd fel na' Flower. amdani!

3.3.06

 

iasoer!

*i ddechrau*: os y'ch chi mor dwîbaidd â fi, fyddwch chi'n gwybod am hyn yn barod (ac wedi bod â'r wisg astronot i'r dry cleaners, prynu popcorn etc)... Marathon Gwyddonias Y Penwythnos Ar Sianel Pump!



Uchod: "Futureworld" (starring Peter Fonda and Yul Brynner), ddydd Sadwrn am 2.15! "Forbidden Planet" (Leslie Nielsen, William Shakespeare), ddydd sul am hanner awr 'di un! Ffaleliwia!

rhestr <- fan'na. allai ddim pwysleisio pa mor cwl 'di Forbidden Planet. gwyliwch o!

[gol: aeth hwn yn bost llawer yn hirach am Don Coscarelli a John Landis, gaeth ei docio dros dro oherwydd y marathon gwyddonias sydd wrth law - bostia i'r topig diddorol hwnnw fory, mae'n siwr. yn y cyfamser, i ail-adrodd: "Marathon Gwyddonias Y Penwythnos Ar Sianel Pump!"]

Archives

04.2005   05.2005   06.2005   07.2005   08.2005   09.2005   10.2005   11.2005   12.2005   01.2006   02.2006   03.2006   04.2006   05.2006   07.2006   08.2006   09.2006   12.2006   03.2007   11.2007   01.2008   02.2008   03.2008   04.2008   07.2008   10.2008  

This page is powered by Blogger. Isn't yours?

Subscribe to Posts [Atom]