dros

24.2.06

 

!oioioioio!

fe'm tagiwyd gan y nwdlwr! wei!

Pedwar swydd dw i wedi’u cael

1. 'cyorthwy-wraig ymchwil' yn mercator
2. wmpa-lwmpa, ffatri siocled Halo yn Nhywyn
3. model porcyn
4. telynores briodasol/ciniawe dydd gwyl dewi boring/bar mitsfas cymraeg etc

Pedwar ffilm gallaf eu gwylio drosodd a throsodd

1. Annie Hall (er, wy di bod yn syrthio'i gysgu'n ei chanol hi'n ddiweddar. wps.)
2. Braindead
3. In the mood for love
4. Akira

Pedwar lle dw i wedi byw ynddyn nhw

1. Maes Ceiro, Bow Street
2. Maes y Garn, Bow Street (cam enfawr dros y brif ffordd)
3. Coleg Emmanuel, Caergrawnt
4. Park Terrace, Caergrawnt (h.y. adre a coleg!)

Pedwar rhaglen teledu dwi’n eu caru

1. The Day Today
2. Diagnosis Mwrdwr
3. Spaced
4. Brat Camp (ar hyn o bryd. unrhyw raglen 'realiti' ar sianel pedwar, wir...)

Pedwar lle dw i wedi bod ar wyliau

1. Reykjavik
2. Sant Petersburg
3. Siapan
4. Sir Fôn

Pedwar o’m hoff brydau bwyd

1. Colcannon à la Piers efo digon o win.
2. brechdannau o unrhyw fath (yn enwedig os oes modd eu dodi yn y Fforminator)
3. Tempura, dumplings, reis a llysie (basically popeth oddi ar y 'sundries' menu), te jasmin a rhyw fath o gwrw gwirion.
4. plat mawr o ffrwythe tropigal. mmm.

Pedwar gwefan dw i’n ymweld â nhw bob dydd

1. thesuperficial.com
2. fy webmail coleg
3. skynews showbiz
4. fleshbot (ddim rili'n saff i'r gwaith. eeniwe: llawfer am un o'r blogs gawkeraidd ta beth)

(ydw, dwi'n defnyddio'r we yn benna i edrych am luniau o selebrities. a selebrities noeth. peidiwch â cheisio honni nag y'ch chi 'r un peth! na? o.)

Pedwar lle hoffwn i fod yn y munud hwn

1. wrth droed consti, aberystwyth, yn yfed seidr a chwarae efo hwla hwp yn yr haul.
2. yn y llyfrgell ('di'r "grym mewnol" ddim cweit gen i heddiw)
3. montana, yn reidio ceffyl a gwylio'r eirth (ac yn cysgu dan y sêr efo rhyw fath o bushman blewog.)
4. yn yr olympics yn turin yn mycio gwmpas yn yr eira.

Pedwar blogiwr dw i’n eu tagio

gai "dwio a chris" a pheidio tagio neb? dwi'm yn credu fod digon o bobl nas tagiwyd yn barod yn darllen y blog 'ma ta beth! newch e os chi moyn. (blaw ti, snakko, wy'n dy dagio di. be sy di digwydd i'r blogyn? wy'n gwbod yn iawn dy fod ti'n neud pethe diddorol, washi. nawr blogia nhw!)

22.2.06

 

partneriaeth sifil a heroin; difyr a'r dwys; llon a'r lleddf; reis a chips

...(blog di-drywydd braidd ond llawn maeth ta beth)...

'di bod yn rhy brysur i sôn am hwn yn gynharach: o hyn ymlaen, bydd capel y coleg ar gael i bobl o'r un rhyw gael eu uno'n sifil - y capel cynta i dorri/ffeindio ffordd o osgoi gwaharddiad 'mae'r Eglwys yn Lloegr 'di osod ar seremonïau i bobl hoyw. braf gweld fod rhywun ogwmpas y lle ma'n berchen ar fymryn o sens.


Dean considers blessing gay couples in civil partnerships
o'r Guardian.



Uchod Co ni'r capel. Wa-WI!

...a co ni'r webcam. mae'n hynod ddiddorol. falle rhyw ddiwrnod welwch chi flob nid annhebyg i fi'n wadlo ar draws y sgrin yn edrych yn cwl. :(

on: re: y 'drafodaeth' dros/yn erbyn 'going cold turkey' ar sianel pedwar (os oes un). yn fyr:

1. o'n i'n meddwl taw joc oedd e
2. wy di cael digon ar a) 'jyncis' = "character actors" (h.y. pobol hyll)yn edrych braidd yn clami ar the bill yn gweiddi 'i just wants me stuff!' (gweler hefyd: yr alun yn pobol o pobol y cwm/kurt cobain incident.) a b) pulp fiction yn neud i'r holl beth edrych yn rhy secsi ar y diawl. mae hwn yn "hard-côr", bach fel heroin.
3. wy di anghofio beth yw tri. a, ie hold on, mae'n neud gwylio'r teli yn Ddewis! -braidd yn bonslyd oui, ond ti'n gorfod penderfynu os tisio gwylio pobol yn mynd twrci oer, yn fyw ar y teli, (added bonws: ma'r wali 'na off y newyddion arno fe), neu beidio. wy'n ei chael hi'n anodd ei wylio fe i gyd ond ma'n amazing.

cwstard lleuaeth:

gwobr: rhwbeth oddi ar y ddesg am y briff-syniad-rhaglen-deledu fwya off-key a gwarthus (rhybudd: fi sy bia "the big fight live: ogwen vs cothi mudfest II" a "wigwam ogwen" - sioe daith mam-a'i-mab yn astudio hanes llosgach yn nghymunedau mwyaf diddorol cymru. think dai jones meets barbarella.) postiwch eich syniadau isod, neu eu hala at drosywrbos[malwen]gmail[pwynt]com. gwan. nai barsel bach i'r ennillydd. weeei!

 

no such thing

as a free lynch...

NEU OES E? (sori am y pwn).

halodd ffrind y lincsyn 'mlaen i fi - modd archebu dvd am ddim o gyfweliadau 'da david lynch. mae'n rhaid cofrestru, a hysbyseb am rhyw declyn gneud ffilms o gwmni avid dio, felly ma hysbysebion ar y ddisg hefyd. ond os ych chi, fel fi, yn dwlu ei weld e'n siarad am ei 'weledigaeth' cripi, yr 'egni tu fewn' a'ch atgoffa'n gyffredinol o Bill Pullman yn dangos ei bidlen yn 'Lost Highway' (neu ydwi'n cymysgu 'da Independence Day nawr?), cliciwch da chi.



Uchod: Bill Pullman efo sacsoffon. Hoti!

on: mae'n siwr eich bod chi 'di gweld y 'pre-nup' cripi yma (gair o rybudd! mae'n byrfi.). ond co linc ta beth. eto, ma braidd yn drist.

oon: welodd rywun desperate housewives? WAW-I!

15.2.06

 

bore da!

stori fach arall o'r bbc (ond y tro yma feat. bruce bannerman. yess!)

[gol: bruce banner. torth wyf. sori!]

12.2.06

 

...and finally

stori fach dwymgalon am is-ymerawdwr-dros-y-môr, dick cheney. *cwmpo oddi ar fy nghadair a rowlio ar y llawr fel dyn sy' newydd gael ei gamgymryd am 'gwail' gan dick cheney a'i wn mawr*

 

dawnsio fel deer hunter

chmo, reit ar y dechre, yn y briodas (fy hoff ran). dyna be dwi'n neud ar hyn o bryd. gwyrth fy mod yn medru mwlt-dasgio (blogio a dawnsio fel carw gwyllt) 'de. i egluro: dwi di prynnu gypsy punks gan gogol' bordello o'r diwedd (mae'r dudalen yn chwarae cerddoriaeth gyda llaw).
mae'u prif ganwr, eugene hütz (dyn bywiog yn meddu ar fwstas ysblennydd: yr ukrainotrash gypsy leisure pirate gwreiddiol), 'di bod yn ymddangos dros y lle'n ddiweddar (yn actio alex y cyfieithydd yn everything is illuminated, er enghraifft). mi ddois i ar ei draws o gynta' mewn rhifyn o sweet action (cylchgrawn budur i ferched: y wefan, felly, yn meddu ar botensial noethni - watsiwch mas/drychwch 'mlaen).
ma'r miwsig yn ddigon cwl - fues i'n ddigon lwcus i wastraffu *lot* o amser llynedd yn gwrando ar lawer o gerddoriaeth wreiddiol o'r wcraen, rwsia, masedonia, georgia etc - felly diom yn swnio cweit mor newydd ag o'n i di gobeithio y bydda fo - ceith e dri a thri chwarter mas o bump (y chwarter diwetha' am y teitl 'think locally, fuck globally'. hehe!)

eeniwe: co 'dips dwyreiniol' drosflog

Taraf de Haïdouks - cerddoriaeth werin cwl a phigog 'Falcanaidd' o Fasedonia, Bwlgaria a Twrci.
Zdob si Zdub - band o moldofa. elfennau ska-werin-aidd. ma Sarba de la Chisinau yn dda: ma na ddarn lle ma'n nhw'n mynd "jump jump, everybody jump!" - mae'n grêt.
Leningrad - heavyweights Rwsiaidd - dyma'r cofnod wicipidia - diog dwi'n gwybod, ond mae gwybodaeth yn saesneg am y band yn anodd i'w ffindio (a dyma'u gwefan goiawn nhw. mae yn rwsieg.)


hefyd: fel ychwanegsyn - os dych chi'm yn licio'r gerddoriaeth, cewch i ddarllen rwbeth gan y boi yma. init.



Uchod: Nikolai Gogol' =geniws

(on: sori am grwpio'r gwledydd at ei gilydd fel'ma. free association braidd yn gyffredinol dio marnai ofn.)

reit, wy di blino. cheers. tra.

11.2.06

 

ok

dwi'n gwybod ei bod hi'n gynnar, ond ma blogger di bod yn pallu:

ymddiheuriad am ddatgan ar y 31.1.06 mai pen blwydd Rick James (brenin ffwnc) oedd hi. nid yn unig oen i ddiwrnod mas, ond buodd e farw ym mis awst, 2004. wps. fel ymddiheuriad: co linc i'w jumpsuit ('naidsiwt'?), sydd ar werth ar e-bee ar hyn o bryd. os oes pum mil o ddoleri 'da chi, wel, chi'n gwybod yn iawn beth wy moyn 'dolig, ife.

co drît - fideo o'r meistr yn canu 'mary jane' yn fyw. DAMN! (ww co beth arall o flog yr extreme catholic (amazing, gyda llaw) - sgroliwch i lawr at sept 16, 2004. cause of death: unknown. waw.


8.2.06

 

aye-dee, aye!



Uchod: manylyn o brint 'The Whore of Babylon'. cool.


helo! wy 'nôl. o'n i'n mynd i geisio creu blogsyn diddorol a grown-up ar yr apocalyps gan Albrecht Dürer, sef be dwi di bod yn sbio arno'r wythnos yma (ewch i gael sbec - ma nhw'n gret. iwsiwch y llygoden-chwyddwydr ar y lincs uchod, ddo, i gal llun gwell) ar gyfer fy nghwrs.

yn anffodus, des i ar draws y wefan hon a dwi di bod yn darllen ers ooesoedd. sai cweit yn siwr beth sy'n mynd ymlaen, ond mae'r adran ar Dürer a symboliaeth fystig mewn hunan-bortread a theml solomon ('adeliad' fues i'n ei astudio llynedd fel rhan o 'nghwrs ar Fenis). mae'n mental. ac hefyd yn rhyfedd fod cymaint o'r adeiladau/artistiaid dwi 'di bod yn eu hastudio'n ddiweddar cael eu trafod mewn modd reit fanwl (os hollol wallgo'). falle bod y bois lawr yn y con club yn iawn: mae hanes celf yn zionist conspiracy. (rwy'n jocian, wrth gwrs. ma pawb yn gwbod taw leonardo 'the code' da vinci a'r seiri rhyddion sydd wrthi.)

linc i gofnod Dürer yn y Catholic Encyclopedia (nid jest o ran "balans" wyddoch chi: ond am ei bod hi'n bosib treulio aages yn pori drwyddo hefyd. os 'dych chi'n licio'r math yna o beth, ynde.)

eeniwe, gobeithio eich bod chi'n iawn! x x x

Archives

04.2005   05.2005   06.2005   07.2005   08.2005   09.2005   10.2005   11.2005   12.2005   01.2006   02.2006   03.2006   04.2006   05.2006   07.2006   08.2006   09.2006   12.2006   03.2007   11.2007   01.2008   02.2008   03.2008   04.2008   07.2008   10.2008  

This page is powered by Blogger. Isn't yours?

Subscribe to Posts [Atom]