dros

21.6.05

 

duwcs

mai di bod yn hir - llawer iawn gormod o orweddian (trio meddwl am air mwy diddorol) yn yr haul, partis, a hwyl cyffredinol i'w gael/wneud ar hyn o bryd. newydd ddeffro ar ôl colaps "dawns fai" (ie, mae ym mehefin. mae'r wythnos yn dechre ar ddydd iau yma hefyd).

hehehe, mae'n braf.

mwy nes mlaen, dwi dal braidd yn gysglyd.

xxxxx

12.6.05

 

"Yo man, Welsh is the place to be. They drink as much as the Irish, but they don't got the rep for it yet." - Times Square

Overheard in New York

rhagor o lincs clou:

"I just want to help people" - Tom Cruise yn siarad yn rhyfedd o agored (os mental) efo Spiegel.de

"The Nazis invented the sex doll" - erthygl amheus ond difyr am 'Borghild', y ddoli glwt gynta'...

Fight The Good Fight Ministries (man gwan gen i ar gyfer y math yma o beth, sori. aa, dwlai demonbusters mewn hefyd. "hen un, ond un da", fel ma nhw'n ddweud... NB: roedd cerddoriaeth uchel yn arfer chwarae wrth i'r dudalen agor, os dwi'n cofio'n iawn. sgen i ddim sain ar fy nghyfrifiadur, so dwim yn gwybod am rwan, sori...)

Wpddet Lovecraftaidd (linc braidd yn aeafol, sori) - am gael gafael ar hwn mor fuan a phosib (trafodaeth metafilter yma). Rhagor ar yr hoff Houellebecq fan fan hyn, a fan hyn.

oce digon am rwan...

11.6.05

 

mynwent sgriptiau

Query Letters.

trio meddwl rwan pa fath o ffilm fyswn i'n trio'i sgrifennu... (ma monsieur nwdlington a dwlwen yn bell o 'mlaen i, o be dwi'n ddallt...)

10.6.05

 

unwaith eto hefo'r bwyell

Oooooooo

moyn un! moyn un! blog call cyn bo hir, kids, sori...

9.6.05

 

ahahahaaa!

wedi bennu! wedi bennu! wedi bennu!


7.6.05

 

“My track suit? It's Armani.” “It says Puma.” “It’s Armani.”

dau arholiad ola'r flwyddyn (diwedd y drydedd, pedwaredd, here we come... [blwyddyn, nid dosbarth gradd, gobeithio]) fory. cyn i chi gyd frysio i adael negeseuon o ofid a lwc dda, canhwyllau a tedi bers tu allan y gyfnewidfa wenith (corn?), ysgrifennu caneuon i fi ac ati: cewch i chwilio ar y 'Look Book', sef golwg ar gymeriadau gwahanol Efrog Newydd, a'u dillad. ydy, mae'n hollol vacuous, ond felna mae. neu felna dwi: anodd cofio sut ma'r pethe ma'n gweithio.

 

catharsflog

gair i fyny. sut mae'n mynd? blogsyn bach self-indulgent ar fy rhan i - y cof yn dechrau pallu, a dau arholiad gen i ddydd mercher. *sgreechian fel merch* ag ati.

[saib byr wrth i fi gerdded rownd y lawnt/cae/maes (nid dros y lawnt/cae/maes. chwip din fyswn i'n gael am hynny) i nôl can o sodapop o'r peiriant. ydy mae'n hwyr, ond pop fizzi yw un o fy hoff bethau yn y byd, a dwi'n *dysgu* pethau *pwysig*, goddamia! dwi angen y siwgwr! allwn i roi'r gorau i unrhyw un o fy vices fory (gan gynnwys scalpio fy hun yn achlysurol, ebay a smocio crac), {saib o fewn saib i gael pwl o ddolur rhydd fydde'n gneud i gi bach drwg gochi o dan ei ffwr. iesu grist o ble ddaeth hwnna. *sori bois*}, ond ddim pop pigog, o unrhyw fath (heblaw pethau sili fel vanilla-mocha-venti-decaff-diet-coke, sy'n llawn esgyrn sbesial hen ferched a bonets babis bach wedi'u herwgipio ac ati.)]

*saib arall, ac anadl ddofn i werthfawrogi fod yr ipod (itunes dal yn bod yn crap) wedi dewis 'more than a feeling' gan boston ar ei ben ei hun. mae'n haws, nawr, dychmygu'r adolygu canol-nos sydd o 'mlaen i mewn ffurf montage i'r gân yma - yn gorffen efo fi'n chwarae'r fwyell-solo (ar gitar dwbwl.) yn sefyll ar ben eglwys sant pietro yn y fatican mewn sbot-olau, wedi gwisgo fel 80s-super-sexxed-syr-christopher-wren ("i'm thinking *prince video* here?"). wel. mae'r gân di bennu nawr. bols.*

eeniwe, fel y gwelwch chi, dwi'n cael trafferth canolbwyntio. on the plus side, ges i un o rhein:



trwy'r post gan dad heddiw (wel, mae fy un i ychydig yn fwy swanci, ac yn biws). y bwriad: i fi siarad efo pawb adre *trwy'r cyfrifiadur* gan fod y ffôn shiti "three" yn, wel, shiti. nid fy syniad i, hoffwn ychwanegu. y realiti: dwi'n methu stopio gwisgo fe, consequently yn gorfod dynwared robot, britney spears, rhywun yn chwarae robot wars/rheoli robot o ryw fath, ocsiwniar, prince a gwerthwr ffenestri trwy'r amser. dwi'n laugh a fucking minute, ydw wir. *ochenaid*. eeniwe, diolch dad am y gismo diweddaraf.

dwi bron â chael digon rwan - gwell mynd yn ôl at y llyfrau. ymddiheuriadau am natur eratig (ac achlysurol ddisgusting) y post hwn. fel o.n: mae gen i gyfrif flickr rwan: cliciwch fi dwi ar dân!, felly os chi angen mwy o, y, FI, chi'n gwybod ble i fynd (i fy nghyfrif flickr, nobend).

oce. nosdaxxxx

Archives

04.2005   05.2005   06.2005   07.2005   08.2005   09.2005   10.2005   11.2005   12.2005   01.2006   02.2006   03.2006   04.2006   05.2006   07.2006   08.2006   09.2006   12.2006   03.2007   11.2007   01.2008   02.2008   03.2008   04.2008   07.2008   10.2008  

This page is powered by Blogger. Isn't yours?

Subscribe to Posts [Atom]